Daniel 9:1-27
9 Ym mlwyddyn gyntaf Dareius fab Ahasferus—un o ddisgynyddion y Mediaid a gafodd ei wneud yn frenin dros deyrnas y Caldeaid—
2 ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, gwnes i, Daniel, ddefnyddio’r llyfrau* i ddeall faint o flynyddoedd y byddai Jerwsalem yn ddiffaith. Yn ôl beth ddywedodd Jehofa trwy Jeremeia y proffwyd, byddai Jerwsalem yn ddiffaith am 70 mlynedd.
3 Felly gwnes i droi fy wyneb tuag at Jehofa y gwir Dduw, gan erfyn arno mewn gweddi. Roeddwn i hefyd yn ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac yn rhoi lludw arna i fy hun.
4 Gweddïais ar Jehofa fy Nuw a chyffesu ein pechodau gan ddweud:
“O Jehofa y gwir Dduw, yr Un mawr a rhyfeddol, sy’n cadw ei gyfamod ac sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at y rhai sy’n ei garu ac sy’n cadw ei orchmynion,
5 rydyn ni wedi pechu a gwneud drwg ac wedi gweithredu’n ddrygionus a gwrthryfela; ac rydyn ni wedi gwyro oddi wrth dy orchmynion a dy farnedigaethau.
6 Dydyn ni ddim wedi gwrando ar dy weision y proffwydi, y rhai a siaradodd yn dy enw di â’n brenhinoedd, â’n tywysogion, â’n cyndadau, ac â holl bobl y wlad.
7 O Jehofa, mae cyfiawnder yn perthyn i ti, ond mae cywilydd yn perthyn i ni, fel sy’n wir amdanon ni heddiw, ie, pob un ohonon ni, gan gynnwys dynion Jwda, pobl Jerwsalem, ac Israel gyfan, y rhai rwyt ti wedi eu gwasgaru i wledydd agos a phell oherwydd eu hanffyddlondeb.
8 “O Jehofa, rydyn ni, ein brenhinoedd, ein tywysogion, a’n cyndadau yn llawn cywilydd am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di.
9 Mae trugaredd a maddeuant yn perthyn i Jehofa ein Duw, am ein bod ni wedi gwrthryfela yn ei erbyn.
10 Dydyn ni ddim wedi ufuddhau i lais Jehofa ein Duw drwy ddilyn ei gyfreithiau, y rhai a roddodd ef inni drwy ei weision y proffwydi.
11 Mae Israel gyfan wedi torri dy Gyfraith a chefnu arnat ti drwy beidio ag ufuddhau i dy lais, felly gwnest ti dywallt* arnon ni’r felltith a’r llw a gafodd eu hysgrifennu yng Nghyfraith Moses, gwas y gwir Dduw, oherwydd rydyn ni wedi pechu yn ei erbyn Ef.
12 Mae wedi cyflawni’r hyn a ddywedodd amdanon ni ac am ein rheolwyr a oedd yn rheoli droston ni, drwy ddod â thrychineb mawr arnon ni. Does dim byd tebyg erioed wedi digwydd o dan y nefoedd cyfan i’w gymharu â beth ddigwyddodd yn Jerwsalem.
13 Yn union fel sydd wedi cael ei ysgrifennu yng Nghyfraith Moses, mae’r trychineb hwn wedi dod arnon ni, ond eto dydyn ni ddim wedi erfyn ar Jehofa ein Duw am ffafr drwy gefnu ar ein trosedd a thrwy ddangos ein bod ni’n deall dy wirionedd.*
14 “Felly arhosodd Jehofa yn wyliadwrus, a daeth â thrychineb arnon ni, oherwydd mae Jehofa ein Duw yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd; ond eto dydyn ni ddim wedi ufuddhau i’w lais.
15 “Nawr, O Jehofa ein Duw, yr Un sydd wedi dod â dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref ac sydd wedi gwneud dy enw yn adnabyddus hyd heddiw, rydyn ni wedi pechu a gwneud drygioni.
16 O Jehofa, yn unol â dy holl weithredoedd cyfiawn, plîs tro dy lid a dy ddicter i ffwrdd oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; o achos ein pechodau a throseddau ein cyndadau, mae pawb o’n cwmpas ni yn gwawdio Jerwsalem a dy bobl.
17 Ac nawr, O ein Duw, gwranda ar weddi ac erfyniadau dy was, a gwna i oleuni dy wyneb ddisgleirio ar dy gysegr sy’n ddiffaith, er mwyn dy enw dy hun, O Jehofa.
18 Tala sylw, O fy Nuw, a gwranda! Plîs agora dy lygaid i weld ein trafferthion a’r ddinas ddiffaith sy’n dwyn dy enw; dydyn ni ddim yn erfyn arnat ti oherwydd ein gweithredoedd cyfiawn, ond oherwydd dy drugaredd mawr.
19 O Jehofa, gwranda. O Jehofa, maddeua. O Jehofa, tala sylw a gweithreda! Paid ag oedi er mwyn dy enw dy hun, O fy Nuw, oherwydd mae dy enw di ar dy ddinas ac ar dy bobl.”
20 Tra oeddwn i’n dal i siarad a gweddïo a chyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel ac yn gofyn i Jehofa fy Nuw ddangos ffafr tuag at fynydd sanctaidd fy Nuw,
21 yn wir, tra oeddwn i’n dal i weddïo, dyma’r dyn Gabriel, yr un roeddwn i wedi ei weld yn y weledigaeth o’r blaen, yn dod ata i pan oeddwn i wedi blino ac yn teimlo’n wan o gwmpas adeg offrwm rhodd y noswaith,
22 a rhoddodd ddealltwriaeth imi, gan ddweud:
“O Daniel, rydw i wedi dod i dy ddysgu di ac i dy helpu di i ddeall beth fydd yn digwydd.
23 Pan ddechreuaist ti weddïo, gwnes i dderbyn neges gan Dduw, ac rydw i wedi dod i roi gwybod iti amdani, oherwydd rwyt ti’n annwyl iawn* i Dduw.* Felly meddylia am hyn, a cheisia ddeall y weledigaeth.
24 “Mae 70 wythnos* wedi cael eu pennu ar gyfer dy bobl a dy ddinas sanctaidd, i ddod â therfyn ar ddrygioni, i ddod â phechod i ben, i gael maddeuant am droseddau, i sefydlu cyfiawnder tragwyddol, i selio’r weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio’r Sanctaidd Sancteiddiolaf.*
25 Dylet ti wybod a deall hyn: O’r gorchymyn i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem nes i Meseia* yr Arweinydd ddod, bydd ’na 7 wythnos, a hefyd 62 wythnos. Bydd hi’n cael ei hadfer a’i hailadeiladu, gyda sgwâr cyhoeddus a ffos, ond bydd hyn yn digwydd yn ystod cyfnodau hynod o anodd.
26 “Ac ar ôl y 62 wythnos, bydd Meseia yn cael ei ladd,* ac ni fydd ganddo ddim byd ar ôl.
“A bydd arweinydd yn dod gyda’i fyddin, a byddan nhw’n dinistrio’r ddinas a’r lle sanctaidd. A bydd ei ddiwedd yn dod fel llifogydd. A hyd nes y diwedd, bydd ’na ryfel; mae Duw wedi penderfynu y bydd ’na ddifrod llwyr.
27 “A bydd ef yn cadw’r cyfamod mewn grym ar gyfer llawer o bobl am un wythnos; a hanner ffordd trwy’r wythnos bydd ef yn rhoi diwedd ar aberthau ac offrymau rhodd.
“A bydd yr un sy’n achosi dinistr yn dod ar adain y pethau ffiaidd; a bydd yr hyn a gafodd ei benderfynu yn cael ei dywallt* hefyd ar yr un sy’n gorwedd yn ddiffaith nes iddo gael ei ddinistrio’n llwyr.”
Troednodiadau
^ Hynny yw, y llyfrau sanctaidd.
^ Neu “arllwys.”
^ Neu “ffyddlondeb.”
^ Neu “rwyt ti’n werthfawr iawn.”
^ Neu “oherwydd mae gan Dduw feddwl mawr ohonot ti.”
^ Hynny yw, wythnosau o flynyddoedd.
^ Neu “eneinio’r Mwyaf Sanctaidd.”
^ Neu “i’r Un Eneiniog.”
^ Neu “ei dorri i ffwrdd.”
^ Neu “arllwys.”

