Daniel 2:1-49

  • Y Brenin Nebuchadnesar yn cael breuddwyd sy’n ei gynhyrfu (1-4)

  • Dim un o’r dynion doeth yn gallu adrodd y freuddwyd (5-13)

  • Daniel yn troi at Dduw am help (14-18)

  • Moli Duw am ddatgelu’r gyfrinach (19-23)

  • Daniel yn adrodd y freuddwyd wrth y brenin (24-35)

  • Ystyr y freuddwyd (36-45)

    • Carreg y deyrnas yn chwalu’r ddelw (44, 45)

  • Daniel yn cael ei anrhydeddu gan y brenin (46-49)

2  Yn ail flwyddyn ei deyrnasiad, cafodd Nebuchadnesar nifer o freuddwydion, ac roedd wedi cynhyrfu gymaint fel nad oedd yn gallu cysgu. 2  Felly rhoddodd y brenin orchymyn i alw am y dewiniaid,* yr hudolwyr, y swynwyr, a’r Caldeaid* er mwyn iddyn nhw adrodd breuddwydion y brenin yn ôl wrtho. Felly daethon nhw i mewn a sefyll o flaen y brenin. 3  Yna dywedodd y brenin wrthyn nhw: “Ces i freuddwyd, ac rydw i wedi cynhyrfu oherwydd rydw i eisiau gwybod beth welais i yn fy mreuddwyd.” 4  Dyma’r Caldeaid yn ateb y brenin yn yr iaith Aramaeg:* “O frenin, hir oes iti. Adrodda’r freuddwyd wrth dy weision, ac fe wnawn ni esbonio ei hystyr iti.” 5  Atebodd y brenin: “Dyma ydy fy mhenderfyniad: Os nad ydych chi’n adrodd y freuddwyd wrtho i ynghyd â’i hesboniad, bydd eich cyrff yn cael eu rhwygo’n ddarnau a bydd eich tai yn cael eu troi’n doiledau cyhoeddus.* 6  Ond os byddwch chi’n adrodd y freuddwyd a’i hesboniad wrtho i, byddwch chi’n derbyn anrhegion a gwobr ac anrhydedd mawr gen i. Felly dywedwch wrtho i am y freuddwyd a’i hesboniad.”* 7  Atebon nhw yr ail waith: “Gad i’r brenin adrodd y freuddwyd wrth ei weision, ac fe wnawn ni esbonio ei hystyr.” 8  Atebodd y brenin: “Rydw i’n gwybod yn iawn eich bod chi’n oedi er mwyn ceisio ennill amser, oherwydd rydych chi’n gwybod beth yw fy mhenderfyniad. 9  Os nad ydych chi’n adrodd y freuddwyd wrtho i, dim ond un gosb fydd ’na ar eich cyfer chi i gyd. Ond rydych chi wedi cytuno i ddweud rhywbeth ffals a thwyllodrus imi nes i’r sefyllfa newid. Felly adroddwch y freuddwyd wrtho i, wedyn bydda i’n gwybod eich bod chi’n gallu esbonio ei hystyr.” 10  Atebodd y Caldeaid: “Does ’na neb ar wyneb y ddaear sy’n gallu gwneud beth mae’r brenin yn mynnu, oherwydd does ’na’r un brenin mawr na llywodraethwr erioed wedi gofyn y fath beth gan unrhyw ddewin,* neu hudolwr, neu Galdead. 11  Mae’r hyn mae’r brenin yn gofyn amdano yn anodd, a does neb yn bodoli y byddai’n gallu dweud hyn wrth y brenin heblaw am y duwiau, sydd ddim yn byw ymhlith pobl feidrol.” 12  Ar hynny, dyma’r brenin yn gwylltio’n lân, a gorchmynnodd i holl ddynion doeth Babilon gael eu dinistrio. 13  Pan gafodd y gorchymyn ei gyhoeddi, a’r dynion doeth ar fin cael eu lladd, gwnaethon nhw chwilio am Daniel a’i ffrindiau er mwyn eu lladd nhwthau hefyd. 14  Bryd hynny, siaradodd Daniel mewn ffordd ddoeth a phwyllog ag Arioch, pennaeth gwarchodlu’r brenin a oedd wedi mynd allan i ladd dynion doeth Babilon. 15  Gofynnodd i Arioch, swyddog y brenin: “Pam mae’r brenin wedi rhoi gorchymyn mor llym?” Yna dyma Arioch yn rhoi gwybod i Daniel am y mater. 16  Felly aeth Daniel i mewn a gofyn i’r brenin am fwy o amser, fel ei fod yn gallu esbonio’r freuddwyd i’r brenin. 17  Yna aeth Daniel i’w dŷ a rhoi gwybod i’w ffrindiau Hananeia, Misael, ac Asareia am y peth. 18  Gofynnodd iddyn nhw weddïo ar Dduw y nefoedd am drugaredd ac iddo ddatgelu’r gyfrinach hon iddyn nhw, fel na fyddai Daniel na’i ffrindiau yn cael eu dinistrio ynghyd â gweddill dynion doeth Babilon. 19  Yna cafodd y gyfrinach ei datgelu i Daniel mewn gweledigaeth yn ystod y nos. Felly dyma Daniel yn moli Duw y nefoedd. 20  Dywedodd Daniel: “Gad i enw Duw gael ei foli am byth bythoedd,*Oherwydd ef yn unig biau doethineb a chryfder. 21  Mae’n newid amseroedd a thymhorau,Mae’n diorseddu brenhinoedd ac yn eu penodi nhw,Mae’n rhoi doethineb i’r doeth a gwybodaeth i’r rhai â dealltwriaeth. 22  Mae’n datgelu pethau dwfn a chuddiedig,Ac yn gwybod beth sydd yn y tywyllwch;Gydag ef mae ’na oleuni. 23  Rydw i’n diolch i ti, O Dduw fy nghyndadau, ac yn dy foli di,Oherwydd rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth imi. Ac nawr rwyt ti wedi datgelu imi’r hyn roedden ni’n ei ofyn gen ti;Rwyt ti wedi datgelu breuddwyd y brenin inni.” 24  Yna aeth Daniel i mewn at Arioch, yr un roedd y brenin wedi ei benodi i ddinistrio dynion doeth Babilon, a dywedodd wrtho: “Paid â dinistrio unrhyw un o ddynion doeth Babilon. Cymera fi i mewn o flaen y brenin, ac fe wna i esbonio’r ystyr i’r brenin.” 25  Ar unwaith, dyma Arioch yn mynd â Daniel i mewn o flaen y brenin ac yn dweud wrtho: “Rydw i wedi dod o hyd i ddyn o blith alltudion Jwda sy’n gallu esbonio’r ystyr i’r brenin.” 26  Dywedodd y brenin wrth Daniel, a oedd hefyd yn cael ei alw’n Beltesassar: “A wyt ti’n wir yn gallu dweud wrtho i beth a welais i yn y freuddwyd a’i hesbonio?” 27  Atebodd Daniel: “Does dim un o’r dynion doeth, yr hudolwyr, y dewiniaid,* na’r astrolegwyr yn gallu dweud wrth y brenin am y gyfrinach y mae ef yn gofyn amdani. 28  Ond, mae ’na Dduw yn y nefoedd sy’n datgelu cyfrinachau,* ac mae ef wedi rhoi gwybod i’r Brenin Nebuchadnesar beth sydd am ddigwydd yn rhan olaf y dyddiau. Dyma dy freuddwyd, a dyma’r gweledigaethau gest ti wrth iti orwedd ar dy wely: 29  “Ynglŷn â ti, O frenin, cest ti freuddwyd ar dy wely ynglŷn â beth sydd am ddigwydd yn y dyfodol, ac mae’r Un sy’n datgelu cyfrinachau* wedi rhoi gwybod iti beth sydd am ddigwydd. 30  Ynglŷn â fi, ni chafodd y gyfrinach hon ei datgelu imi am fy mod i’n ddoethach nag unrhyw un arall ar y ddaear, ond yn hytrach, digwyddodd hyn er mwyn imi esbonio’r freuddwyd i’r brenin, ac er mwyn iti ddeall y meddyliau yn dy galon. 31  “Roeddet ti, O frenin, yn gwylio, a gwelaist ti ddelw* anferth. Roedd y ddelw honno, a oedd yn enfawr ac yn eithriadol o lachar, yn sefyll o dy flaen di, ac roedd ei golwg yn ddychrynllyd. 32  Roedd pen y ddelw honno wedi ei wneud o aur pur, roedd ei brest a’i breichiau wedi eu gwneud o arian, roedd ei bol a’i chluniau wedi eu gwneud o gopr, 33  roedd ei choesau wedi eu gwneud o haearn, ac roedd ei thraed yn gymysgedd o haearn a chlai. 34  Wrth iti wylio, cafodd carreg ei thorri allan o fynydd, nid gan ddwylo dynol, a dyma’n taro’r ddelw yn ei thraed o haearn a chlai a’u chwalu nhw. 35  Bryd hynny, cafodd yr haearn, y clai, y copr, yr arian, a’r aur i gyd eu chwalu gyda’i gilydd, a daethon nhw fel yr us ar lawr dyrnu* yn yr haf, a dyma’r gwynt yn eu chwythu nhw i ffwrdd, fel nad oedd golwg ohonyn nhw yn unman. Ond ynglŷn â’r garreg a darodd y ddelw, daeth honno’n fynydd mawr, a llenwodd y ddaear gyfan. 36  “Dyna oedd dy freuddwyd, ac nawr fe wnawn ni esbonio ei hystyr i’r brenin. 37  Ti, O frenin—y brenin ar frenhinoedd, yr un y mae Duw y nefoedd wedi rhoi iddo’r deyrnas, y grym, y nerth, a’r gogoniant, 38  a’r un y mae ef wedi rhoi awdurdod iddo dros ddynion le bynnag maen nhw’n byw, yn ogystal ag anifeiliaid gwyllt y maes ac adar y nefoedd, yr un y mae ef wedi ei wneud yn rheolwr drostyn nhw i gyd—ti dy hun yw’r pen o aur. 39  “Ond ar dy ôl di, bydd teyrnas arall yn codi, un sy’n is na ti; ac yna drydedd deyrnas, un o gopr, a fydd yn teyrnasu dros y ddaear gyfan. 40  “Ynglŷn â’r bedwaredd deyrnas, bydd hi’n gryf fel haearn. Oherwydd yn union fel y mae haearn yn chwalu ac yn malu pob peth arall, ie, bydd y deyrnas honno yn chwalu’r rhain i gyd ac yn eu dinistrio nhw’n llwyr. 41  “Ac yn union fel y gwelaist ti fod y traed a’r bysedd traed yn gymysgedd o glai crochenydd a haearn, bydd y deyrnas yn rhanedig, ond bydd peth o gryfder yr haearn ynddi, yn union fel gwelaist ti’r haearn wedi ei gymysgu â’r clai meddal. 42  Ac yn union fel roedd bysedd y traed yn gymysgedd o haearn a chlai, felly hefyd bydd y deyrnas yn gryf ond hefyd yn fregus. 43  Yn union fel gwelaist ti haearn wedi ei gymysgu â chlai meddal, byddan nhw wedi eu cymysgu â’r bobl,* ond ni fyddan nhw’n glynu wrth ei gilydd, un wrth y llall, yn union fel nad ydy haearn yn glynu wrth glai. 44  “Yn nyddiau’r brenhinoedd hynny, bydd Duw y nefoedd yn sefydlu teyrnas na fydd byth yn cael ei dinistrio. Ac ni fydd y deyrnas hon yn cael ei throsglwyddo i unrhyw bobl eraill. Fe fydd yn sathru’r holl deyrnasoedd hyn ac yn rhoi diwedd arnyn nhw, a hon yn unig a fydd yn sefyll am byth, 45  yn union fel gwelaist ti fod carreg wedi cael ei thorri allan o’r mynydd, nid gan ddwylo dynol, ac wedi chwalu’r haearn, y copr, y clai, yr arian, a’r aur. Mae’r Duw Mawr wedi rhoi gwybod i’r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae’r freuddwyd yn wir, ac mae ei hesboniad yn ddibynadwy.” 46  Yna, syrthiodd y Brenin Nebuchadnesar â’i wyneb i’r llawr o flaen Daniel a’i anrhydeddu, a gorchmynnodd i anrheg gael ei rhoi iddo ac i arogldarth gael ei losgi ar ei gyfer. 47  Dywedodd y brenin wrth Daniel: “Yn wir, mae eich Duw yn Dduw ar dduwiau ac yn Arglwydd ar frenhinoedd ac yn un sy’n datgelu cyfrinachau,* oherwydd roeddet ti’n gallu datgelu’r gyfrinach hon.” 48  Yna dyma’r brenin yn dyrchafu Daniel ac yn rhoi iddo lawer o anrhegion da, a’i benodi’n rheolwr dros holl dalaith Babilon, ac yn ben ar holl ddynion doeth Babilon. 49  Ac yn dilyn cais Daniel, dyma’r brenin yn penodi Sadrach, Mesach, ac Abednego i ofalu am waith gweinyddu talaith Babilon, ond gwasanaethodd Daniel yn llys y brenin.

Troednodiadau

Hynny yw, offeiriaid a oedd yn arfer hud a lledrith.
Hynny yw, grŵp o bobl a oedd yn fedrus yn defnyddio dewiniaeth ac astroleg i ragweld y dyfodol.
Yn wreiddiol, cafodd Da 2:4b i 7:28 ei ysgrifennu yn yr iaith Aramaeg.
Neu efallai, “troi’n domenni sbwriel; tomenni tail.”
Neu “dehongliad.”
Hynny yw, offeiriad a oedd yn arfer hud a lledrith.
Neu “o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.”
Hynny yw, offeiriaid a oedd yn arfer hud a lledrith.
Neu “sy’n Ddatguddiwr cyfrinachau.”
Neu “mae’r Datguddiwr cyfrinachau.”
Neu “gwelaist ti gerflun.”
Hynny yw, lle roedden nhw’n curo’r ŷd er mwyn gwahanu’r grawn oddi wrth y gwellt.
Hynny yw, y bobl gyffredin.
Neu “ac yn Ddatguddiwr cyfrinachau.”