Daniel 5:1-31

  • Gwledd y Brenin Belsassar (1-4)

  • Llawysgrifen ar y wal (5-12)

  • Gofyn i Daniel esbonio ystyr y llawysgrifen (13-25)

  • Ystyr: Bydd Babilon yn syrthio (26-31)

5  Ynglŷn â’r Brenin Belsassar, gwnaeth ef gynnal gwledd fawr ar gyfer mil o bobl bwysig ei deyrnas, ac roedd yn yfed gwin o’u blaenau nhw. 2  Tra oedd o dan ddylanwad y gwin, gorchmynnodd Belsassar iddyn nhw ddod â’r llestri aur ac arian i mewn, y rhai roedd ei dad Nebuchadnesar wedi eu cymryd o’r deml yn Jerwsalem, er mwyn i’r brenin, y bobl bwysig, ei wragedd eraill,* a’i wragedd eilradd allu yfed ohonyn nhw. 3  Yna daethon nhw â’r llestri aur i mewn, y rhai a gafodd eu cymryd o deml tŷ Dduw yn Jerwsalem, a gwnaeth y brenin, y bobl bwysig, ei wragedd eraill,* a’i wragedd eilradd, yfed ohonyn nhw. 4  Gwnaethon nhw yfed gwin, a moli’r duwiau o aur ac arian, o gopr, haearn, pren, a charreg. 5  Ar yr union foment honno, ymddangosodd bysedd llaw ddynol a dechrau ysgrifennu ar blastr wal palas y brenin yng ngolau’r lamp a oedd ar y stand, ac roedd y brenin yn gallu gweld cefn y llaw wrth iddi ysgrifennu. 6  Yna trodd wyneb y brenin yn wyn ac roedd ei feddyliau yn ei ddychryn, a chrynodd ei gluniau, a dechreuodd ei bennau gliniau daro yn erbyn ei gilydd. 7  Galwodd y brenin yn uchel am yr hudolwyr, y Caldeaid,* a’r astrolegwyr. Dywedodd y brenin wrth ddynion doeth Babilon: “Bydd unrhyw ddyn sy’n gallu darllen yr ysgrifen a’i hesbonio imi yn cael ei wisgo â phorffor, a bydd cadwyn aur yn cael ei rhoi am ei wddf, a bydd ef yn rheoli fel y trydydd yn y deyrnas.” 8  Yna daeth holl ddynion doeth y brenin i mewn, ond doedden nhw ddim yn gallu darllen yr ysgrifen nac esbonio’r ystyr i’r brenin. 9  Felly roedd y Brenin Belsassar yn ofnus iawn a throdd ei wyneb yn wyn, ac roedd pobl bwysig ei deyrnas wedi drysu’n lân. 10  Pan ddysgodd y frenhines am beth a oedd yn poeni’r brenin a’r bobl bwysig, aeth hi i mewn i’r neuadd fwyta. Dywedodd y frenhines: “O frenin, hir oes iti. Paid â gadael i dy feddyliau dy ddychryn di, na gadael i dy wyneb droi’n wyn. 11  Mae ’na ddyn* yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd. Yn nyddiau dy dad, cafodd goleuni, dirnadaeth, a doethineb fel doethineb y duwiau eu darganfod ynddo ef. Gwnaeth dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, ei benodi’n bennaeth ar y dewiniaid,* yr hudolwyr, y Caldeaid,* a’r astrolegwyr. Dyna beth wnaeth dy dad, O frenin. 12  Oherwydd mae gan Daniel, a gafodd ei alw’n Beltesassar gan y brenin, ysbryd rhyfeddol a gwybodaeth a dirnadaeth i allu esbonio breuddwydion, i egluro posau, ac i ddatrys problemau cymhleth.* Nawr gad i Daniel gael ei alw, a bydd ef yn esbonio’r ystyr iti.” 13  Felly cafodd Daniel ei gymryd i mewn o flaen y brenin, a gofynnodd y brenin iddo: “Ai ti yw Daniel o blith alltudion Jwda, yr un gwnaeth fy nhad y brenin ei gymryd allan o Jwda? 14  Rydw i wedi clywed bod ysbryd y duwiau ynot ti a bod goleuni a dirnadaeth a doethineb rhyfeddol wedi cael eu darganfod ynot ti. 15  Daeth y dynion doeth a’r hudolwyr i mewn o fy mlaen i er mwyn ceisio darllen yr ysgrifen ac esbonio ei hystyr imi, ond dydyn nhw ddim yn gallu esbonio ystyr y neges. 16  Ond rydw i wedi clywed dy fod ti’n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth.* Nawr os wyt ti’n gallu darllen yr ysgrifen ac esbonio ei hystyr imi, byddi di’n cael dy wisgo â phorffor a bydd cadwyn aur yn cael ei rhoi am dy wddf, a byddi di’n rheoli fel y trydydd yn y deyrnas.” 17  Yna dyma Daniel yn ateb y Brenin: “Fe gei di gadw dy roddion a rhoi dy anrhegion i eraill. Sut bynnag, fe wna i ddarllen yr ysgrifen i’r brenin ac esbonio ei hystyr iddo. 18  Ynglŷn â ti, O frenin, caniataodd y Duw Goruchaf i Nebuchadnesar dy dad dderbyn y deyrnas a’r mawredd a’r anrhydedd a’r gogoniant. 19  Oherwydd y mawredd a roddodd ef iddo, roedd yr holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o’i flaen. Ef oedd yn penderfynu pwy fyddai’n marw neu’n aros yn fyw, ac ef oedd yn penderfynu pwy fyddai’n cael ei ddyrchafu neu ei gywilyddio. 20  Ond pan drodd ei galon yn falch a phan drodd ei ysbryd yn ystyfnig, fel ei fod yn ymddwyn yn hy, gwnaeth Duw ei ddiorseddu o’i deyrnas a chafodd ei urddas ei gymryd oddi arno. 21  Cafodd ei yrru i ffwrdd o blith dynolryw, a chafodd calon bwystfil ei rhoi iddo, ac roedd yn byw gyda’r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta planhigion yn union fel y teirw, ac roedd ei gorff wedi ei wlychu gan wlith y nefoedd, nes iddo ddod i wybod mai’r Duw Goruchaf yw Rheolwr teyrnas dynolryw, a’i fod yn rhoi’r awdurdod i reoli drosti i bwy bynnag y mae’n dymuno. 22  “Ond dwyt ti, ei fab Belsassar, ddim wedi gwneud dy galon yn ostyngedig, er dy fod ti’n gwybod hyn i gyd. 23  Yn hytrach, rwyt ti wedi gwrthryfela yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a dyma ti’n gofyn iddyn nhw ddod â llestri ei dŷ atat ti. Yna gwnest ti a phobl bwysig dy deyrnas, dy wragedd eraill,* a dy wragedd eilradd yfed gwin ohonyn nhw a moli’r duwiau o arian ac aur, o gopr, haearn, pren, a charreg, duwiau nad ydyn nhw’n gweld dim, nac yn clywed dim, nac yn gwybod dim. Ond dwyt ti ddim wedi gogoneddu’r Duw sy’n dal dy anadl a dy holl ffyrdd yn ei law. 24  Felly anfonodd ef y llaw hon i ysgrifennu’r geiriau hyn. 25  A dyma’r geiriau a gafodd eu hysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PARSIN. 26  “Dyma ystyr y geiriau: MENE, mae Duw wedi rhifo dyddiau dy deyrnas ac wedi dod â hi i ben. 27  “TECEL, rwyt ti wedi cael dy bwyso yn y glorian a dy ddarganfod yn ddiffygiol. 28  “PERES, mae dy deyrnas wedi cael ei rhannu a’i rhoi i’r Mediaid a’r Persiaid.” 29  Yna ar orchymyn Belsassar, dyma nhw’n gwisgo Daniel â phorffor ac yn rhoi cadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddon nhw y bydd ef yn rheoli fel y trydydd yn y deyrnas. 30  Ar yr union noson honno, cafodd Belsassar, y brenin Caldeaidd, ei ladd. 31  A dyma Dareius y Mediad yn derbyn y deyrnas, ac yntau tua 62 mlwydd oed.

Troednodiadau

^ Neu “ei wragedd gordderch.”
^ Neu “ei wragedd gordderch.”
^ Hynny yw, grŵp o bobl a oedd yn fedrus yn defnyddio dewiniaeth ac astroleg i ragweld y dyfodol.
^ Neu “mae ’na ddyn medrus.”
^ Hynny yw, offeiriaid a oedd yn arfer hud a lledrith.
^ Hynny yw, grŵp o bobl a oedd yn fedrus yn defnyddio dewiniaeth ac astroleg i ragweld y dyfodol.
^ Llyth., “ac i ddatod clymau.”
^ Llyth., “a datod clymau.”
^ Neu “dy wragedd gordderch.”