Daniel 7:1-28
7 Ym mlwyddyn gyntaf Belsassar, brenin Babilon, gwelodd Daniel freuddwyd, a chafodd weledigaethau wrth iddo orwedd ar ei wely. Yna, ysgrifennodd y freuddwyd i lawr; cofnododd y cyfan roedd ef wedi ei weld.
2 Dywedodd Daniel:
“Wrth imi wylio fy ngweledigaethau yn ystod y nos, edrycha! roedd pedwar gwynt y nefoedd yn corddi’r môr enfawr.
3 A daeth pedwar bwystfil anferth allan o’r môr, pob un yn wahanol i’w gilydd.
4 “Roedd y cyntaf yn debyg i lew, ac roedd ganddo adenydd eryr. Gwyliais wrth i’w adenydd gael eu rhwygo i ffwrdd, a chafodd ei godi i fyny o’r ddaear fel ei fod yn sefyll ar ddwy droed fel dyn, a chafodd calon dyn ei rhoi iddo.
5 “Ac edrycha! bwystfil arall, yr ail, yn debyg i arth. Roedd un o’i draed wedi codi i fyny, ac roedd ganddo dair o asennau yn ei geg rhwng ei ddannedd; a dyma beth gafodd ei ddweud wrtho: ‘Cod a bwyta lawer o gig.’
6 “Ar ôl hyn daliais ati i wylio, ac edrycha! bwystfil arall, yn debyg i lewpard, ond ar ei gefn roedd ganddo bedair adain fel rhai aderyn. Ac roedd gan y bwystfil bedwar pen, a chafodd yr awdurdod i reoli ei roi iddo.
7 “Ar ôl hyn, daliais ati i wylio’r gweledigaethau yn ystod y nos, a gwelais bedwerydd bwystfil. Roedd yn ddychrynllyd ac yn frawychus ac yn eithriadol o gryf, ac roedd ganddo ddannedd mawr o haearn. Roedd yn bwyta* ac yn dinistrio popeth o’i gwmpas ac yn sathru ar yr hyn a oedd ar ôl. Roedd yn wahanol i’r bwystfilod eraill i gyd a ddaeth o’i flaen, ac roedd ganddo ddeg corn.
8 Wrth imi wylio ac ystyried y cyrn, edrycha! dyma gorn arall, un bach, yn codi yn eu mysg, a chafodd tri o’r cyrn gwreiddiol eu tynnu allan o’i flaen. Ac edrycha! roedd ’na lygaid fel llygaid dynol yn y corn hwn, ac roedd ganddo geg a oedd yn siarad yn frolgar.*
9 “Wrth imi ddal ati i wylio, cafodd gorseddau eu gosod, ac eisteddodd yr Hen o Ddyddiau. Roedd ei ddillad yn wyn fel eira, ac roedd gwallt ei ben fel gwlân pur. Roedd ei orsedd yn fflamau o dân; ac roedd ei holwynion yn dân gwenfflam.
10 Roedd tân yn llifo allan o’i flaen fel nant. Roedd mil o filoedd yn parhau i’w wasanaethu, ac roedd miliynau lawer* yn sefyll o’i flaen. Eisteddodd y Llys a chafodd llyfrau eu hagor.
11 “Gwnes i barhau i wylio bryd hynny oherwydd sŵn y geiriau brolgar* roedd y corn yn eu dweud; gwyliais wrth i’r bwystfil gael ei ladd, a chafodd ei gorff ei ddinistrio a’i losgi yn y tân.
12 Ond ynglŷn â gweddill y bwystfilod, cafodd eu hawdurdod i deyrnasu ei gymryd oddi arnyn nhw, a chafodd eu bywydau eu hymestyn am gyfnod* a thymor.
13 “Daliais ati i wylio’r gweledigaethau yn ystod y nos, ac edrycha! roedd rhywun fel mab y dyn yn dod gyda chymylau’r nefoedd; a chafodd ganiatâd i fynd at yr Hen o Ddyddiau, a daethon nhw ag ef o flaen yr Un hwnnw.
14 A dyma ef yn derbyn teyrnasiad, anrhydedd, a theyrnas, fel y byddai’r holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd yn ei wasanaethu. Mae ei deyrnasiad yn deyrnasiad tragwyddol na fydd byth yn dod i ben, ac ni fydd ei deyrnas yn cael ei dinistrio.
15 “Ynglŷn â fi, Daniel, roedd fy ysbryd wedi cynhyrfu y tu mewn imi, oherwydd roedd y gweledigaethau a ges i yn codi ofn arna i.
16 Es i at un o’r rhai a oedd yn sefyll yno er mwyn ei holi am wir ystyr hyn i gyd. Felly dyma’n fy ateb gan esbonio ystyr y pethau hyn imi.
17 “‘Mae’r pedwar bwystfil anferth hyn yn bedwar brenin a fydd yn codi i fyny o wyneb y ddaear.
18 Ond bydd rhai sanctaidd y Pennaf Un yn derbyn y deyrnas, a bydd y deyrnas yn perthyn iddyn nhw am byth, ie, am byth bythoedd.’
19 “Yna roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd bwystfil a oedd yn wahanol i’r lleill; roedd yn hynod o ddychrynllyd, gyda dannedd o haearn a chrafangau copr, ac roedd yn bwyta* ac yn dinistrio popeth o’i gwmpas ac yn sathru ar yr hyn a oedd ar ôl.
20 Roeddwn i hefyd eisiau gwybod mwy am y deg corn ar ei ben, ac am y corn arall a gododd gan achosi i’r tri chorn arall gwympo, y corn a oedd â llygaid a cheg yn siarad yn frolgar,* ac a oedd yn edrych yn fwy na’r lleill.
21 “Daliais ati i wylio wrth i’r corn hwnnw ryfela yn erbyn y rhai sanctaidd. Roedd yn eu gorchfygu nhw,
22 nes i’r Hen o Ddyddiau ddod a barnu o blaid rhai sanctaidd y Pennaf Un. A daeth yr amser penodedig i’r rhai sanctaidd feddiannu’r deyrnas.
23 “Dyma beth ddywedodd ef: ‘Ynglŷn â’r pedwerydd bwystfil, mae ’na bedwaredd deyrnas a fydd yn ymddangos ar y ddaear. Bydd hi’n wahanol i’r teyrnasoedd eraill i gyd, a bydd yn bwyta* popeth y mae’n dod o hyd iddo ar y ddaear ac yn ei sathru a’i falu.
24 Ynglŷn â’r deg corn, bydd deg brenin yn codi o’r deyrnas honno, a bydd un arall eto yn codi ar eu holau nhw, a bydd ef yn wahanol i’r rhai cyntaf a bydd yn cywilyddio tri brenin.
25 Bydd yn siarad yn erbyn y Goruchaf, ac fe fydd yn erlid rhai sanctaidd y Pennaf Un yn ddi-baid. Bydd yn bwriadu newid amseroedd a chyfraith, a byddan nhw’n cael eu rhoi yn ei law am gyfnod, cyfnodau, a hanner cyfnod.*
26 Ond eisteddodd y Llys, a chymeron nhw ei awdurdod i reoli oddi arno, er mwyn ei ddinistrio a’i ddifetha’n llwyr.
27 “‘A chafodd y deyrnas, y teyrnasiad, a mawredd y teyrnasoedd o dan yr holl nefoedd eu rhoi i rai sanctaidd y Pennaf Un. Mae eu teyrnas nhw yn deyrnas dragwyddol, a bydd pob llywodraeth yn eu gwasanaethu nhw ac yn ufuddhau iddyn nhw.’
28 “Dyma ddiwedd yr hanes. Ynglŷn â fi, Daniel, roedd fy meddyliau yn fy nychryn i, a throdd fy wyneb yn wyn; ond gwnes i gadw’r peth yn fy nghalon.”
Troednodiadau
^ Neu “llowcio; sglaffio.”
^ Neu “yn dweud pethau ffroenuchel.”
^ Llyth., “deng mil wedi eu lluosi â deng mil.”
^ Neu “ffroenuchel.”
^ Neu “amser.”
^ Neu “llowcio; sglaffio.”
^ Neu “yn dweud pethau ffroenuchel.”
^ Neu “llowcio; sglaffio.”
^ Hynny yw, tri chyfnod a hanner. Neu “tri amser a hanner.”

