Daniel 4:1-37
4 “Gan y Brenin Nebuchadnesar i’r holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd sy’n byw dros y ddaear gyfan: Rydw i’n dymuno heddwch ichi!
2 Rydw i’n hapus i gyhoeddi’r arwyddion a’r rhyfeddodau mae’r Duw Goruchaf wedi eu gwneud ar fy nghyfer.
3 Mor fawr yw ei arwyddion, ac mor nerthol yw ei ryfeddodau! Mae ei deyrnas yn deyrnas dragwyddol, ac fe fydd yn teyrnasu o genhedlaeth i genhedlaeth.
4 “Roeddwn i, Nebuchadnesar, yn hapus fy myd yn fy nhŷ, ac yn mwynhau llwyddiant yn fy mhalas.
5 Gwelais freuddwyd a gododd ofn arna i. Wrth imi orwedd ar fy ngwely, roedd y gweledigaethau a’r pethau a welais yn fy nychryn.
6 Felly rhoddais orchymyn i holl ddynion doeth Babilon ddod o fy mlaen i, fel eu bod nhw’n gallu esbonio ystyr y freuddwyd imi.
7 “Bryd hynny, daeth y dewiniaid,* yr hudolwyr, y Caldeaid,* a’r astrolegwyr i mewn. Ar ôl imi adrodd y freuddwyd wrthyn nhw, doedden nhw ddim yn gallu esbonio’r ystyr imi.
8 O’r diwedd, daeth Daniel i mewn o fy mlaen, sydd hefyd yn cael ei alw’n Beltesassar, ar ôl enw fy nuw. Mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo, a dyma fi’n adrodd y freuddwyd wrtho:
9 “‘O Beltesassar, pennaeth y dewiniaid,* rydw i’n gwybod yn iawn bod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does dim cyfrinach sy’n rhy anodd iti. Felly esbonia imi ystyr y freuddwyd a’r gweledigaethau a ges i.
10 “‘Yn y gweledigaethau a ges i wrth imi orwedd ar fy ngwely, gwelais goeden yng nghanol y ddaear, ac roedd ei huchder yn aruthrol.
11 Tyfodd y goeden, a daeth yn gryf, ac roedd hi’n cyrraedd y nefoedd, ac roedd yn bosib ei gweld hi o bedwar ban byd.
12 Roedd ei dail yn brydferth, ac roedd ganddi ddigonedd o ffrwyth ac roedd ’na fwyd arni i bawb. Roedd yr anifeiliaid gwyllt yn cysgodi oddi tani, ac roedd adar y nefoedd yn byw ar ei changhennau, ac roedd yr holl greaduriaid yn bwydo arni.
13 “‘Wrth imi wylio’r gweledigaethau a ges i tra oeddwn i’n gorwedd ar fy ngwely, gwelais wyliwr, un sanctaidd, yn dod i lawr o’r nefoedd.
14 Gwaeddodd yn uchel: “Torrwch y goeden i lawr, torrwch ei changhennau i ffwrdd, ysgydwch y dail oddi arni, a gwasgarwch ei ffrwyth! Bydd yr anifeiliaid sydd oddi tani a’r adar sydd ar ei changhennau yn ffoi.
15 Ond gadewch y boncyff* a’i wreiddiau yn y ddaear, yng nghanol glaswellt* y cae, gyda bandyn o haearn a chopr amdano. Bydd yn cael ei wlychu gan wlith y nefoedd, ac yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt ac ymhlith planhigion y ddaear.
16 Bydd ei galon yn cael ei newid o galon dyn i galon bwystfil, a bydd saith cyfnod* yn mynd heibio.
17 Mae hyn wedi cael ei gyhoeddi gan y gwylwyr, ac mae’r penderfyniad yn cael ei ddatgan gan y rhai sanctaidd, er mwyn i bob person byw ddod i wybod mai’r Goruchaf yw Rheolwr teyrnas dynolryw, a’i fod yn ei rhoi i bwy bynnag y mae’n dymuno, gan hyd yn oed penodi dyn o’r dras isaf drosti.”
18 “‘Dyma’r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar; ac nawr, O Beltesassar, esbonia ystyr y freuddwyd imi, oherwydd dydy holl ddynion doeth fy nheyrnas ddim yn gallu esbonio’r freuddwyd imi. Ond rwyt ti’n gallu gwneud hynny, oherwydd bod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.’
19 “Roedd Daniel, a oedd hefyd yn cael ei alw’n Beltesassar, wedi dychryn yn y foment honno, a dechreuodd ei feddyliau godi ofn arno.
“Dywedodd y brenin wrtho, ‘O Beltesassar, paid â gadael i’r freuddwyd a’i hesboniad dy ddychryn di.’
“Atebodd Beltesassar, ‘O fy arglwydd, O na fyddai’r freuddwyd hon a’i hesboniad yn berthnasol i’r rhai sy’n dy gasáu di ac i dy elynion.
20 “‘Ynglŷn â’r goeden a welaist ti yn tyfu’n fawr ac yn gryf, yr un a oedd yn cyrraedd y nefoedd, ac a oedd yn bosib ei gweld o bedwar ban byd,
21 yr un a oedd â dail prydferth, digonedd o ffrwyth, a bwyd i bawb, y goeden lle roedd anifeiliaid y maes yn byw oddi tani ac adar y nefoedd yn byw ar ei changhennau,
22 ti, O frenin, yw’r goeden honno, oherwydd rwyt ti wedi tyfu’n fawr ac yn gryf, ac mae dy fawredd wedi tyfu a chyrraedd y nefoedd, ac mae dy frenhiniaeth yn cyrraedd pen draw’r byd.
23 “‘Gwelodd y brenin wyliwr, un sanctaidd, yn dod i lawr o’r nefoedd gan ddweud: “Torrwch y goeden i lawr a’i dinistrio, ond gadewch y boncyff* a’i wreiddiau yn y ddaear, yng nghanol glaswellt* y cae, gyda bandyn o haearn a chopr amdano. Bydd yn cael ei wlychu gan wlith y nefoedd, a bydd yn byw gyda’r anifeiliaid gwyllt nes i saith cyfnod* fynd heibio.”
24 Dyma’r esboniad, O frenin; dyma orchymyn y Goruchaf ynglŷn â beth fydd yn digwydd i fy arglwydd y brenin.
25 Byddi di’n cael dy yrru allan o blith dynion, a byddi di’n byw gyda’r anifeiliaid gwyllt, a byddi di’n bwyta planhigion yn union fel y teirw, a byddi di’n cael dy wlychu gan wlith y nefoedd, a bydd saith cyfnod* yn mynd heibio, nes iti ddod i wybod mai’r Goruchaf yw Rheolwr teyrnas dynolryw, a’i fod yn ei rhoi i bwy bynnag y mae’n dymuno.
26 “‘Ond gan eu bod nhw wedi dweud y dylai boncyff* y goeden a’i wreiddiau gael eu gadael yn y ddaear, bydd dy deyrnas yn cael ei dychwelyd iti ar ôl iti ddod i wybod mai’r nefoedd sy’n teyrnasu.
27 Felly, O frenin, plîs derbyn fy nghyngor. Tro oddi wrth dy bechodau drwy wneud beth sy’n iawn, a chefna ar dy ddrygioni drwy ddangos trugaredd tuag at y tlawd. Efallai wedyn bydd dy lwyddiant yn parhau.’”
28 Digwyddodd hyn i gyd i’r Brenin Nebuchadnesar.
29 Ddeuddeg mis yn ddiweddarach roedd ef yn cerdded ar do palas brenhinol Babilon.
30 Dywedodd y brenin: “Onid hon yw Babilon Fawr, y ddinas gwnes i ei hadeiladu â fy nghryfder a fy nerth fy hun ar gyfer y tŷ brenhinol, ac er mwyn gogoneddu fy mawredd?”
31 Cyn i’r brenin orffen siarad, daeth llais i lawr o’r nefoedd a dweud: “Dyma neges iti, O Frenin Nebuchadnesar, ‘Mae dy deyrnas wedi cael ei chymryd oddi arnat ti.
32 Byddi di’n cael dy yrru allan o blith dynion. Byddi di’n byw gyda’r anifeiliaid gwyllt, a byddi di’n bwyta planhigion yn union fel y teirw, a bydd saith cyfnod* yn mynd heibio, nes iti ddod i wybod mai’r Goruchaf yw Rheolwr teyrnas dynolryw, a’i fod yn ei rhoi i bwy bynnag y mae’n dymuno.’”
33 Yn y foment honno cafodd y geiriau hyn eu cyflawni. Cafodd Nebuchadnesar ei yrru allan o blith dynolryw, a dechreuodd fwyta planhigion yn union fel y teirw. Cafodd ei gorff ei wlychu gan wlith y nefoedd, a thyfodd ei wallt yn hir fel plu eryr, a’i ewinedd fel crafangau aderyn.
34 “Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, gwnes i, Nebuchadnesar, edrych i fyny at y nefoedd, a dyma fi’n callio; gwnes i foli’r Goruchaf, a chlodfori a gogoneddu’r Un sy’n byw am byth, oherwydd mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, ac mae ei deyrnas yn para o genhedlaeth i genhedlaeth.
35 Dydy holl bobl y ddaear yn ddim byd o’u cymharu ag ef, ac mae’n gweithredu yn ôl ei ewyllys ei hun ymhlith byddin y nefoedd a thrigolion y ddaear. Does neb yn gallu ei rwystro na dweud wrtho, ‘Beth rwyt ti wedi ei wneud?’
36 “Bryd hynny, dechreuais feddwl yn glir unwaith eto, a gwnaeth gogoniant fy nheyrnas, fy mawredd, a fy ysblander ddychwelyd imi. Roedd yr uwch-swyddogion a’r bobl bwysig yn awyddus i ymgynghori â mi, a ches i fy adfer i fy nheyrnas, a chafodd hyd yn oed fwy o fawredd ei roi imi.
37 “Nawr rydw i, Nebuchadnesar, yn moli, yn dyrchafu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, am fod ei weithredoedd yn wir a’i ffyrdd yn gyfiawn, ac am ei fod yn gallu cywilyddio’r rhai sy’n cerdded mewn balchder.”
Troednodiadau
^ Hynny yw, offeiriaid a oedd yn arfer hud a lledrith.
^ Hynny yw, grŵp o bobl a oedd yn fedrus yn defnyddio dewiniaeth ac astroleg i ragweld y dyfodol.
^ Hynny yw, offeiriaid a oedd yn arfer hud a lledrith.
^ Neu “bonyn.”
^ Neu “porfa.”
^ Neu “amser.”
^ Neu “bonyn.”
^ Neu “porfa.”
^ Neu “amser.”
^ Neu “amser.”
^ Neu “bonyn.”
^ Neu “amser.”

