Daniel 8:1-27

  • Gweledigaeth o hwrdd a bwch gafr (1-14)

    • Corn bach yn ei ddyrchafu ei hun (9-12)

    • Nes i 2,300 o nosweithiau a boreau fynd heibio (14)

  • Gabriel yn esbonio ystyr y weledigaeth (15-27)

    • Esbonio’r hwrdd a’r bwch gafr (20, 21)

    • Brenin creulon yn codi (23-25)

8  Yn y drydedd flwyddyn o frenhiniaeth y Brenin Belsassar, ces i, Daniel, weledigaeth arall. 2  Wrth imi wylio’r weledigaeth, roeddwn i yn y gaer* yn Susan,* sydd yn nhalaith Elam; gwyliais y weledigaeth, ac roeddwn i wrth ymyl afon* Ulai. 3  Wrth imi godi fy llygaid, edrycha! roedd ’na hwrdd* yn sefyll o flaen yr afon,* ac roedd ganddo ddau gorn. Roedd y ddau gorn yn hir, ond roedd un yn hirach na’r llall, a chododd yr un hirach ar ôl yr un arall. 4  Gwelais yr hwrdd* yn gwthio tua’r gorllewin, tua’r gogledd, a thua’r de, a doedd dim bwystfilod gwyllt yn gallu sefyll o’i flaen, a doedd neb yn gallu achub eraill rhag ei rym. Roedd yn gwneud beth bynnag roedd ef eisiau ac yn ei ddyrchafu ei hun. 5  Wrth imi barhau i wylio, edrycha! roedd bwch gafr yn dod o’r gorllewin, gan groesi’r ddaear gyfan heb i’w draed gyffwrdd â’r llawr. Ac roedd gan y bwch gafr gorn amlwg iawn rhwng ei lygaid. 6  Roedd yn dod tuag at yr hwrdd* a oedd â dau gorn, yr un a welais i’n sefyll wrth ymyl yr afon;* roedd yn rhedeg tuag ato yn ffyrnig i gyd. 7  Gwelais ei fod yn nesáu at yr hwrdd,* ac roedd yn llawn chwerwder tuag ato. Dyma’n taro’r hwrdd* i lawr ac yn torri ei ddau gorn, a doedd yr hwrdd* ddim yn ddigon cryf i’w wrthsefyll. Taflodd yr hwrdd* i’r llawr a sathru arno, a doedd neb yn gallu ei achub rhag ei rym. 8  Yna dyma’r bwch gafr yn ei ddyrchafu ei hun yn fawr iawn, ond unwaith iddo ennill grym, cafodd y corn mawr ei dorri; yna cododd pedwar corn amlwg yn lle yr un hwnnw, i gyfeiriad pedwar gwynt y nefoedd. 9  Allan o un ohonyn nhw daeth corn arall, un bach, ac roedd yn parhau i dyfu’n gryfach tua chyfeiriad y de, tua’r dwyrain, a thua’r Addurniad.* 10  Tyfodd mor gryf nes iddo gyrraedd mor bell â byddin y nefoedd, ac fe achosodd i rai o’r fyddin ac i rai o’r sêr syrthio i’r ddaear, a dyma’n sathru arnyn nhw. 11  Dyrchafodd ei hun hyd yn oed dros Dywysog y fyddin, a chafodd yr aberth rheolaidd ei gymryd oddi ar y Tywysog, a chafodd y fan lle mae ei gysegr wedi ei sefydlu ei bwrw i lawr. 12  O ganlyniad i drosedd, cafodd byddin ei rhoi i’r corn yn ogystal â’r aberth rheolaidd; parhaodd y corn i daflu gwirionedd i’r ddaear, ac roedd yn gweithredu ac yn llwyddo. 13  A chlywais un sanctaidd yn siarad, a dywedodd un sanctaidd arall wrth yr un a oedd yn siarad: “Am faint bydd y weledigaeth yn parhau—y weledigaeth ynglŷn â’r aberth rheolaidd, a’r drosedd sy’n achosi dinistr, a’r lle sanctaidd a’r fyddin yn cael eu sathru?” 14  Felly dywedodd ef wrtho i: “Nes i 2,300 o nosweithiau a boreau fynd heibio; a bydd y lle sanctaidd yn bendant yn cael ei adfer i’w gyflwr iawn.” 15  Tra oeddwn i, Daniel, yn gwylio’r weledigaeth ac yn ceisio ei deall, yn sydyn gwelais rywun a oedd yn edrych fel dyn yn sefyll o fy mlaen i. 16  Yna clywais lais dyn yn dod o ganol afon* Ulai, yn dweud: “Gabriel, helpa’r dyn yma i ddeall yr hyn mae wedi ei weld.” 17  Felly daeth yn agos i le roeddwn i’n sefyll, ond wrth iddo ddod ata i, roeddwn i’n teimlo mor ofnus nes imi syrthio â fy wyneb i’r llawr. Dywedodd wrtho i: “O fab y dyn, dylet ti ddeall bod y weledigaeth hon ar gyfer amser y diwedd.” 18  Ond tra oedd yn siarad â mi, syrthiais i gysgu’n drwm â fy wyneb i’r llawr. Felly dyma’n fy nghyffwrdd ac yn fy nghodi yn ôl ar fy nhraed lle roeddwn i wedi bod yn sefyll. 19  Yna dywedodd ef: “Rydw i’n rhoi gwybod iti beth bydd yn digwydd yn rhan olaf y cyfnod o ddicter, oherwydd mae’r weledigaeth hon ar gyfer yr amser penodedig, hynny yw, amser y diwedd. 20  “Mae’r hwrdd* â dau gorn a welaist ti yn cynrychioli brenhinoedd Media a Persia. 21  Mae’r bwch gafr blewog yn cynrychioli brenin Gwlad Groeg; ac mae’r corn mawr rhwng ei lygaid yn cynrychioli’r brenin cyntaf. 22  Ynglŷn â’r corn a gafodd ei dorri, fel bod pedwar yn sefyll i fyny yn ei le, bydd pedair teyrnas yn codi o’i genedl, ond fyddan nhw ddim mor gryf ag yr oedd ef. 23  “Ac yng nghyfnod olaf eu teyrnas, wrth i weithredoedd troseddwyr gyrraedd eu terfyn, bydd brenin creulon sy’n deall cwestiynau cymhleth* yn codi. 24  Bydd ei rym yn cynyddu, ond nid trwy ei nerth ei hun. Bydd ef yn dinistrio gymaint o bethau nes i bobl ryfeddu,* a bydd ef yn llwyddiannus ac yn gweithredu mewn ffordd effeithiol. Bydd yn dinistrio’r rhai cryf yn ogystal â’r bobl sanctaidd. 25  Ac am ei fod yn gyfrwys, bydd yn defnyddio twyll i lwyddo; a bydd yn ei ddyrchafu ei hun yn ei galon; ac yn ystod cyfnod o ddiogelwch* bydd yn dod â dinistr i lawer. Bydd ef hyd yn oed yn sefyll yn erbyn Tywysog y tywysogion, ac fe fydd yn cael ei falu, ond nid drwy ddwylo dynol. 26  “Mae’r hyn a gafodd ei ddweud yn y weledigaeth ynglŷn â’r nosweithiau a’r boreau yn wir, ond mae’n rhaid iti gadw’r weledigaeth yn ddirgel, oherwydd mae’n cyfeirio at y dyfodol pell.” 27  Ynglŷn â fi, Daniel, roeddwn i wedi blino’n lân ac roeddwn i’n sâl am rai dyddiau. Yna codais a chyflawni gwaith y brenin; ond roeddwn i wedi fy syfrdanu oherwydd yr hyn a welais, a doedd neb yn gallu ei ddeall.

Troednodiadau

^ Neu “palas.”
^ Neu “Susa.”
^ Neu “camlas.”
^ Neu “roedd ’na faharen.”
^ Neu “y gamlas.”
^ Neu “y maharen.”
^ Neu “y maharen.”
^ Neu “y gamlas.”
^ Neu “y maharen.”
^ Neu “y maharen.”
^ Neu “y maharen.”
^ Neu “maharen.”
^ Neu “Harddwch.”
^ Neu “camlas.”
^ Neu “maharen.”
^ Neu “sy’n fedrus yn creu cynllwynion.”
^ Neu “Bydd ef yn dod â dinistr ofnadwy.”
^ Neu efallai, “heb rybudd.”