Y BEIBL—CYFIEITHIAD Y BYD NEWYDD

Daniel—Braslun o’r Cynnwys

Cymraeg
Daniel—Braslun o’r Cynnwys
https://cms-imgp.jw-cdn.org/img/p/1001061100/univ/wpub/1001061100_univ_sqr_xl.jpg
nwt Daniel

Llyfr Daniel

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Braslun o'r Cynnwys

  • 1

    • Y Babiloniaid yn gwarchae ar Jerwsalem (1, 2)

    • Hyfforddiant arbennig ar gyfer caethion ifanc o’r teulu brenhinol (3-5)

    • Prawf ar ffyddlondeb y pedwar Hebread (6-21)

  • 2

    • Y Brenin Nebuchadnesar yn cael breuddwyd sy’n ei gynhyrfu (1-4)

    • Dim un o’r dynion doeth yn gallu adrodd y freuddwyd (5-13)

    • Daniel yn troi at Dduw am help (14-18)

    • Moli Duw am ddatgelu’r gyfrinach (19-23)

    • Daniel yn adrodd y freuddwyd wrth y brenin (24-35)

    • Ystyr y freuddwyd (36-45)

      • Carreg y deyrnas yn chwalu’r ddelw (44, 45)

    • Daniel yn cael ei anrhydeddu gan y brenin (46-49)

  • 3

    • Delw aur y Brenin Nebuchadnesar (1-7)

      • Mynnu bod y ddelw yn cael ei haddoli (4-6)

    • Y tri Hebread yn cael eu cyhuddo o anufuddhau (8-18)

      • “Fyddwn ni ddim yn gwasanaethu dy dduwiau” (18)

    • Bechgyn yn cael eu taflu i’r ffwrnais danllyd (19-23)

    • Achubiaeth wyrthiol rhag y tân (24-27)

    • Y brenin yn moli Duw yr Hebreaid (28-30)

  • 4

    • Y Brenin Nebuchadnesar yn cydnabod brenhiniaeth Duw (1-3)

    • Breuddwyd y brenin am goeden (4-18)

      • Saith cyfnod yn mynd heibio ynglŷn â’r goeden (16)

      • Duw yw Rheolwr dynolryw (17)

    • Daniel yn esbonio’r freuddwyd (19-27)

    • Y cyflawniad cyntaf yn berthnasol i’r brenin (28-36)

      • Y brenin yn wallgof am saith cyfnod (32, 33)

    • Y brenin yn dyrchafu Duw y nefoedd (37)

  • 5

    • Gwledd y Brenin Belsassar (1-4)

    • Llawysgrifen ar y wal (5-12)

    • Gofyn i Daniel esbonio ystyr y llawysgrifen (13-25)

    • Ystyr: Bydd Babilon yn syrthio (26-31)

  • 6

    • Swyddogion Persia yn cynllwynio yn erbyn Daniel (1-9)

    • Daniel yn dal ati i weddïo (10-15)

    • Daniel yn cael ei daflu i ffau’r llewod (16-24)

    • Y Brenin Dareius yn anrhydeddu Duw Daniel (25-28)

  • 7

    • Gweledigaeth o’r pedwar bwystfil (1-8)

      • Corn bach brolgar yn codi (8)

    • Yr Hen o Ddyddiau yn cynnal llys (9-14)

      • Mab y dyn yn cael ei wneud yn frenin (13, 14)

    • Ystyr y weledigaeth yn cael ei esbonio i Daniel (15-28)

      • Y pedwar bwystfil yn bedwar brenin (17)

      • Bydd rhai sanctaidd yn derbyn y deyrnas (18)

      • Bydd deg corn, neu frenin, yn codi (24)

  • 8

    • Gweledigaeth o hwrdd a bwch gafr (1-14)

      • Corn bach yn ei ddyrchafu ei hun (9-12)

      • Nes i 2,300 o nosweithiau a boreau fynd heibio (14)

    • Gabriel yn esbonio ystyr y weledigaeth (15-27)

      • Esbonio’r hwrdd a’r bwch gafr (20, 21)

      • Brenin creulon yn codi (23-25)

  • 9

    • Gweddi Daniel i gyffesu pechodau (1-19)

      • Jerwsalem yn ddiffaith am saith deg mlynedd (2)

    • Gabriel yn dod at Daniel (20-23)

    • Rhagfynegi saith deg wythnos broffwydol (24-27)

      • Bydd Meseia yn dod ar ôl 69 wythnos (25)

      • Meseia yn cael ei ladd (26)

      • Y ddinas a’r lle sanctaidd yn cael eu dinistrio (26)

  • 10

    • Negesydd oddi wrth Dduw yn ymweld â Daniel (1-21)

      • Michael yn helpu’r angel (13)

  • 11

    • Brenhinoedd Persia a Gwlad Groeg (1-4)

    • Brenin y de a brenin y gogledd (5-45)

      • Hawliwr yn codi (20)

      • Arweinydd y cyfamod yn cael ei ddinistrio (22)

      • Duw y caerau yn cael ei ogoneddu (38)

      • Brenin y de a brenin y gogledd yn gwthio yn erbyn ei gilydd (40)

      • Adroddiadau dychrynllyd o’r dwyrain a’r gogledd (44)

  • 12

    • “Amser y diwedd” ac y tu hwnt i hynny (1-13)

      • Bydd Michael yn sefyll (1)

      • “Y rhai sydd â dirnadaeth yn disgleirio’n llachar” (3)

      • “Bydd ’na ddigonedd o wybodaeth gywir” (4)

      • Bydd Daniel yn codi i dderbyn ei ran (13)