Daniel 3:1-30

  • Delw aur y Brenin Nebuchadnesar (1-7)

    • Mynnu bod y ddelw yn cael ei haddoli (4-6)

  • Y tri Hebread yn cael eu cyhuddo o anufuddhau (8-18)

    • “Fyddwn ni ddim yn gwasanaethu dy dduwiau” (18)

  • Bechgyn yn cael eu taflu i’r ffwrnais danllyd (19-23)

  • Achubiaeth wyrthiol rhag y tân (24-27)

  • Y brenin yn moli Duw yr Hebreaid (28-30)

3  Gwnaeth y Brenin Nebuchadnesar ddelw* aur a oedd yn 60 cufydd* o uchder a 6 chufydd* o led a’i gosod ar wastatir Dura yn nhalaith Babilon. 2  Yna gorchmynnodd y Brenin Nebuchadnesar i’r satrapiaid,* y dirprwy satrapiaid, y llywodraethwyr, y cynghorwyr, y trysoryddion, y barnwyr, yr ynadon, a holl weinyddwyr y taleithiau* ddod i gysegriad y ddelw roedd y Brenin Nebuchadnesar wedi ei chodi. 3  Felly dyma’r satrapiaid, y dirprwy satrapiaid, y llywodraethwyr, y cynghorwyr, y trysoryddion, y barnwyr, yr ynadon, a holl weinyddwyr y taleithiau yn casglu at ei gilydd ar gyfer cysegriad y ddelw roedd y Brenin Nebuchadnesar wedi ei chodi. A dyma nhw’n sefyll o flaen y ddelw honno. 4  Gwaeddodd y cyhoeddwr yn uchel: “Dyma orchymyn ichi, O bobloedd, genhedloedd, ac ieithoedd: 5  Pan fyddwch chi’n clywed sŵn y corn, y ffliwt,* y sither, y delyn drionglog, yr offeryn llinynnol, y bagbib, a’r holl offerynnau cerdd eraill, dylech chi blygu i lawr ac addoli’r ddelw aur mae’r Brenin Nebuchadnesar wedi ei chodi. 6  Bydd pwy bynnag sydd ddim yn plygu i lawr i’w haddoli yn cael ei daflu i mewn i’r ffwrnais danllyd ar unwaith.” 7  Felly, pan glywodd yr holl bobl sŵn y corn, y ffliwt,* y sither, y delyn drionglog, yr offeryn llinynnol, a’r holl offerynnau cerdd eraill, dyma’r holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd yn plygu i lawr ac yn addoli’r ddelw aur roedd y Brenin Nebuchadnesar wedi ei chodi. 8  Nawr bryd hynny daeth rhai o’r Caldeaid ymlaen a chyhuddo’r* Iddewon. 9  Dywedon nhw wrth y Brenin Nebuchadnesar: “O frenin, hir oes iti. 10  Gwnest ti, O frenin, orchymyn i bob dyn blygu i lawr ac addoli’r ddelw aur pan fyddan nhw’n clywed sŵn y corn, y ffliwt,* y sither, y delyn drionglog, yr offeryn llinynnol, y bagbib, a’r holl offerynnau cerdd eraill; 11  a dywedaist ti hefyd y byddai unrhyw un sydd ddim yn plygu i lawr i’w haddoli yn cael ei daflu i mewn i’r ffwrnais danllyd. 12  Ond mae ’na Iddewon y gwnest ti eu penodi i weinyddu talaith Babilon, sef Sadrach, Mesach, ac Abednego, sydd ddim wedi talu unrhyw sylw iti, O frenin. Dydyn nhw ddim yn gwasanaethu dy dduwiau, ac maen nhw’n gwrthod addoli’r ddelw aur rwyt ti wedi ei chodi.” 13  Yna, yn ei ddicter tanllyd dyma Nebuchadnesar yn anfon am Sadrach, Mesach, ac Abednego. Felly, cafodd y dynion hyn eu cymryd o flaen y brenin. 14  Dywedodd Nebuchadnesar wrthyn nhw: “A ydy hi’n wir, Sadrach, Mesach, ac Abednego, eich bod chi’n gwrthod gwasanaethu fy nuwiau, ac yn gwrthod addoli’r ddelw aur rydw i wedi ei chodi? 15  Nawr pan fyddwch chi’n clywed sŵn y corn, y ffliwt,* y sither, y delyn drionglog, yr offeryn llinynnol, y bagbib, a’r holl offerynnau cerdd eraill, os byddwch chi’n barod i blygu i lawr ac addoli’r ddelw rydw i wedi ei gwneud, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chi’n gwrthod ei haddoli, byddwch chi’n cael eich taflu i mewn i’r ffwrnais danllyd ar unwaith. Pa dduw a all eich achub chi o fy nwylo i?” 16  Dyma Sadrach, Mesach, ac Abednego yn ateb y brenin: “O Nebuchadnesar, does dim angen inni dy ateb di ynglŷn â’r mater hwn. 17  Os oes rhaid, mae’r Duw rydyn ni’n ei wasanaethu yn gallu ein hachub ni o’r ffwrnais danllyd, O frenin, a’n hachub ni o dy law. 18  Ond hyd yn oed os nad ydy ef yn gwneud hynny, rydyn ni eisiau iti wybod, O frenin, fyddwn ni ddim yn gwasanaethu dy dduwiau nac yn addoli’r ddelw aur rwyt ti wedi ei chodi.” 19  Yna, gwylltiodd Nebuchadnesar gymaint â Sadrach, Mesach, ac Abednego nes bod ei agwedd* tuag atyn nhw’n newid yn llwyr, a gorchmynnodd i’r ffwrnais gael ei chynhesu saith gwaith yn boethach nag arfer. 20  Gorchmynnodd i rai o ddynion cryf ei fyddin rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego a’u taflu nhw i mewn i’r ffwrnais danllyd. 21  Felly cafodd y dynion hyn eu rhwymo tra eu bod nhw’n dal yn gwisgo eu mentyll, eu capiau, a’u holl ddillad eraill, a chawson nhw eu taflu i mewn i’r ffwrnais danllyd. 22  Gan fod gorchymyn y brenin mor llym a’r ffwrnais mor ofnadwy o boeth, dyma’r dynion a gymerodd Sadrach, Mesach, ac Abednego i fyny yn cael eu lladd gan fflamau’r tân. 23  Ond syrthiodd y tri dyn hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego, i mewn i’r ffwrnais danllyd wedi eu rhwymo. 24  Yna dyma’r Brenin Nebuchadnesar yn dychryn, yn codi ar frys, ac yn dweud wrth ei uwch-swyddogion: “Onid tri dyn gwnaethon ni eu rhwymo a’u taflu i’r tân?” Atebon nhw: “Mae hynny’n wir, O frenin.” 25  Dywedodd: “Edrychwch! Rydw i’n gweld pedwar dyn yn cerdded o gwmpas yn rhydd yng nghanol y tân, heb unrhyw niwed, ac mae’r pedwerydd yn edrych fel un o feibion y duwiau.” 26  Aeth Nebuchadnesar at ddrws y ffwrnais danllyd a dweud: “Sadrach, Mesach, ac Abednego, chi weision y Duw Goruchaf, camwch allan a dewch yma!” Felly dyma Sadrach, Mesach, ac Abednego yn camu allan o ganol y tân. 27  A dyma’r satrapiaid, y dirprwy satrapiaid, y llywodraethwyr, ac uwch-swyddogion y brenin a oedd wedi ymgasglu yno yn gweld nad oedd y tân wedi cael unrhyw effaith ar gyrff y dynion hyn. Ni chafodd yr un blewyn o wallt eu pennau ei losgi, roedd eu mentyll yn edrych yr un fath, a doedd ’na ddim hyd yn oed arogl tân arnyn nhw. 28  Yna cyhoeddodd Nebuchadnesar: “Mawl i Dduw Sadrach, Mesach, ac Abednego, a anfonodd ei angel ac achub ei weision. Roedden nhw’n trystio ynddo, ac aethon nhw yn erbyn gorchymyn y brenin. Roedden nhw’n fodlon marw yn hytrach na gwasanaethu neu addoli unrhyw dduw heblaw am eu Duw eu hunain. 29  Felly dyma yw fy ngorchymyn ynglŷn ag unrhyw bobl, cenedl, neu iaith sy’n dweud unrhyw beth yn erbyn Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego: Dylai eu cyrff gael eu rhwygo’n ddarnau, a dylai eu tai gael eu troi’n doiledau cyhoeddus;* oherwydd does ’na ddim duw arall sy’n gallu achub fel y Duw hwn.” 30  Yna rhoddodd y brenin swyddi uwch i Sadrach, Mesach, ac Abednego yn nhalaith Babilon.

Troednodiadau

^ Neu “Gwnaeth y Brenin Nebuchadnesar gerflun.”
^ Tua 27 m (88 tr).
^ Tua 2.7 m (8.8 tr).
^ Neu “rhaglawiaid.”
^ Neu “rhanbarthau.”
^ Neu “y bib.”
^ Neu “y bib.”
^ Neu “ac enllibio’r.”
^ Neu “y bib.”
^ Neu “y bib.”
^ Neu “nes bod yr olwg ar ei wyneb.”
^ Neu efallai, “troi’n domenni sbwriel; tomenni tail.”