Coffadwriaeth Marwolaeth Iesu
Nos Lun, 22 Mawrth, 2027
Unwaith y flwyddyn, mae Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfod arbennig i gofio marwolaeth Iesu, gan ddilyn ei orchymyn: “Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.”—Luc 22:19.
Estynnwn groeso cynnes i chi ac i’ch teulu.
Cwestiynau Cyffredin
Pwy all ddod?
Mae croeso i bawb. Croeso ichi ddod â ffrindiau ac aelodau teulu.
Am faint fydd y cyfarfod yn para?
Bydd yn para tua awr.
Ble mae’n cael ei gynnal?
Cysylltwch â Thystion Jehofa am fanylion lleol.
Oes rhaid talu neu wneud unrhyw ymrwymiad?
Nac oes.
A fydd ’na gasgliad?
Na fydd. Fyddwn ni byth yn gwneud casgliad yn ein cyfarfodydd.—Mathew 10:8.
Beth dylwn i ei wisgo?
Does dim cod gwisg penodol, ond mae Tystion Jehofa yn ceisio gwisgo mewn ffordd sy’n parchu’r achlysur.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y Goffadwriaeth?
Bydd siaradwr yn esbonio pwysigrwydd marwolaeth Iesu a sut gallwn ni elwa o’r hyn mae Duw a Christ wedi ei wneud droston ni. Bydd y cyfarfod yn dechrau ac yn gorffen gyda chân a gweddi.
Am fwy o fanylion, gweler yr erthygl “Pam Mae Tystion Jehofa yn Wahanol i Grefyddau Eraill yn y Ffordd Maen Nhw’n Dathlu Swper yr Arglwydd?”
Pryd caiff y Goffadwriaeth ei chynnal yn y dyfodol?
2027: Nos Lun, 22 Mawrth
2028: Nos Sul, 9 Ebrill
2029: Nos Iau, 29 Mawrth

