Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gall Aberth Iesu Eich Helpu Chi

Gall Aberth Iesu Eich Helpu Chi

 Unwaith y flwyddyn, mae miliynau o bobl ledled y byd yn ymateb i wahoddiad gan Dystion Jehofa i ymuno â nhw er mwyn nodi Coffadwriaeth marwolaeth Iesu, yn union fel y gorchmynnodd. (Luc 22:19) Mae’r Goffadwriaeth yn ein helpu ni i ddeall pa mor bwysig oedd yr aberth a wnaeth Iesu ar gyfer y ddynolryw. Mae hefyd yn dangos sut mae aberth Iesu yn gallu ein helpu ni—heddiw ac yn y dyfodol.—Ioan 3:16.

 P’un a aethoch chi i’r Goffadwriaeth eleni ai peidio, sut gall aberth Iesu fod o fudd i chi? Dywedodd Iesu fod angen inni wneud dau beth pwysig:

  1.  1. Dysgu am Dduw ac am Iesu. Dywedodd Iesu wrth ei Dad nefol mewn gweddi: “Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r un rwyt ti wedi ei anfon, Iesu Grist.”—Ioan 17:3.

  2.  2. Rhoi’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar waith. Dangosodd Iesu pa mor bwysig yw rhoi ei ddysgeidiaeth ar waith yn ein bywydau. Er enghraifft, ar ddiwedd ei Bregeth ar y Mynydd, canmolodd Iesu y rhai sydd “yn clywed [ei eiriau] ac yn eu gwneud nhw.” (Luc 6:46-48) Ar achlysur arall, dywedodd: “Os ydych chi’n gwybod y pethau hyn, rydych chi’n hapus os ydych chi’n eu gwneud nhw.”—Ioan 13:17.

 Hoffech chi wybod mwy am Dduw ac am Iesu? A fyddech chi’n falch o gael syniadau ymarferol am sut i roi’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar waith? Dyma rai adnoddau i’ch helpu.

Cwrs am y Beibl

 Rydyn ni’n cynnig cwrs rhyngweithiol am y Beibl am ddim. Mae’r cwrs wedi helpu llawer o bobl i ddeall y Beibl yn well ac i roi ei ddysgeidiaeth ar waith yn eu bywydau.

  •   Ewch i’r dudalen Cwrs Astudio’r Beibl Gyda Hyfforddwr i ddysgu mwy am hyn.

  •   Gwyliwch y fideo Croeso i’ch Astudiaeth Feiblaidd i weld sut mae astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa yn gweithio.

Cyfarfodydd Tystion Jehofa

 Mae Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfodydd ddwywaith yr wythnos yn eu haddoldy sy’n cael ei alw’n Neuadd y Deyrnas. Yn y cyfarfodydd hyn rydyn ni’n trafod y Beibl ac yn edrych ar ffyrdd i roi ei ddysgeidiaeth ar waith yn ein bywydau.

 Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd; does dim angen ichi fod yn un o Dystion Jehofa i’w mynychu. Mae amgylchiadau lleol yn amrywio, ond efallai bydd modd dewis cyfarfod wyneb yn wyneb neu drwy gynhadledd-fideo.

  •   Gwyliwch y fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? i gael syniad o beth i’w ddisgwyl yn y cyfarfodydd hyn.

Erthyglau a fideos ar-lein

 Mae llawer o erthyglau a fideos i’w cael ar y wefan hon sy’n gallu eich helpu chi i ddysgu mwy am ddysgeidiaethau Iesu a gwerth aberth ei farwolaeth.

 Er enghraifft, er mwyn gweld sut mae’n bosib i farwolaeth un dyn fod o fendith i filiynau o bobl, darllenwch yr erthyglau “Mae Iesu’n Achub—Ond Sut?” a “Pam y Bu Farw Iesu?” neu gwyliwch y fideo Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw?