Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Pam y Bu Farw Iesu?

Pam y Bu Farw Iesu?

Ateb y Beibl

Bu farw Iesu er mwyn i fodau dynol cael maddeuant am eu pechodau a chael byw am byth. (Rhufeiniaid 6:23; Effesiaid 1:7) Hefyd, profodd marwolaeth Iesu fod dyn yn gallu aros yn ffyddlon i Dduw hyd yn oed o dan bwysau eithafol.—Hebreaid 4:15.

Ystyriwch sut y gallai marwolaeth un dyn gyflawni gymaint.

  1. Bu farw Iesu er “maddeuant ein pechodau.”—Colosiaid 1:14, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

    Crëwyd y dyn cyntaf, Adda, yn berffaith ac yn ddibechod. Ond, fe ddewisodd i fod yn anufudd i Dduw. Cafodd anufudd-dod, neu bechod, Adda effaith difrifol ar ei ddisgynyddion. Mae’r Beibl yn esbonio: “Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd.”—Rhufeiniaid 5:19.

    Roedd Iesu hefyd yn berffaith, ond ni phechodd ef erioed. Felly, “fe ydy’r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni.” (1 Ioan 2:2) Yn union fel oedd anufudd-dod Adda wedi llygru’r teulu dynol â phechod, felly hefyd gwnaeth marwolaeth Iesu ddileu staen pechod oddi ar bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo.

    Mewn ffordd, gwerthodd Adda’r ddynolryw i bechod. Ond, drwy roi ei fywyd o’i wirfodd ar ein rhan, gwnaeth Iesu ein prynu’n ôl iddo’i hun. Fel canlyniad, “os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda’r Tad sy’n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy’n berffaith gyfiawn a da.”—1 Ioan 2:1.

  2. Bu farw Iesu “er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”—Ioan 3:16.

    Er bod Adda wedi ei greu i fyw am byth, daeth ei bechod â’r gosb o farwolaeth arno. “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn [Adda], a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.”—Rhufeiniaid 5: 12.

    I’r gwrthwyneb, gwnaeth marwolaeth Iesu nid yn unig ddileu nam pechod, ond hefyd fe ganslodd y ddedfryd o farwolaeth ar bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo ef. Fel hyn mae’r Beibl yn ei grynhoi: “Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw’n cael bywyd tragwyddol—o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.”—Rhufeiniaid 5: 21.

    Wrth gwrs, mae hyd oes bodau dynol heddiw dal yn gyfyngedig. Ond, mae Duw yn addo bywyd tragwyddol i rai cyfiawn, ac atgyfodiad i’r meirw iddyn nhwthau hefyd cael elwa ar aberth Iesu.—Salm 37:29; 1 Corinthiaid 15:22.

  3. Drwy ‘fod yn ufudd, hyd yn oed i farw,’ profodd Iesu y gallai dyn fod yn ufudd i Dduw o dan unrhyw brawf neu dreial.—Philipiaid 2:8.

    Er bod ganddo feddwl a chorff perffaith, roedd Adda’n anufudd i Dduw oherwydd roedd ganddo chwant hunanol am rywbeth nad oedd yn perthyn iddo. (Genesis 2:16, 17; 3:6) Yn ddiweddarach, gwnaeth prif elyn Dduw, Satan, awgrymu na fyddai unrhyw un yn ufuddhau i Dduw heb reswm hunanol, yn enwedig os oedd ei fywyd yn y fantol. (Job 2:4) Eto, gwnaeth y dyn perffaith Iesu ufuddhau i Dduw ac aros yn ffyddlon iddo, a hyd yn oed dioddef marwolaeth gywilyddus a phoenus. (Hebreaid 7:26) Dyna’r ddadl wedi ei thorri’n llwyr: Gallai dyn aros yn ffyddlon i Dduw o dan unrhyw brawf neu dreial.

Cwestiynau am farwolaeth Iesu

  • Pam roedd rhaid i Iesu ddioddef a marw er mwyn achub dynolryw? Pam na wnaeth Dduw ganslo’r ddedfryd o farwolaeth?

    “Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu,” meddai cyfraith Duw. (Rhufeiniaid 6:23) Yn hytrach na chuddio’r ddeddf hon rhag Adda, dywedodd Duw wrtho mai’r gosb am anufudd-dod fyddai marwolaeth. (Genesis 3:3) Pan bechodd Adda, cadwodd Duw, sydd “ddim yn gallu dweud celwydd,” at ei air. (Titus 1:2) Etifeddodd disgynyddion Adda nid yn unig bechod, ond hefyd y cyflog am bechod—sef marwolaeth.

    Er bod bodau dynol pechadurus yn haeddu’r gosb o farwolaeth, mae Duw sydd “mor anhygoel o hael” yn estyn ei gariad anhaeddiannol atyn nhw. (Effesiaid 1:7) Roedd ei ddarpariaeth i achub bodau dynol—sef anfon yr aberth perffaith Iesu​—yn hynod o gyfiawn ac yn drugarog tu hwnt.

  • Pa bryd y bu farw Iesu?

    Bu farw Iesu “am dri o’r gloch” y prynhawn ar ddiwrnod y Pasg Iddewig. (Marc 15:33-37) Mae’r dyddiad hwnnw yn cyfateb i Ddydd Gwener, 1 Ebrill 33 OG, yn ôl y calendr modern.

  • Ble y bu farw Iesu?

    Dienyddiwyd Iesu yn y “lle sy’n cael ei alw Lle y Benglog (‘Golgotha’ yn Hebraeg).” (Ioan 19:17, 18) Roedd y safle hwn “y tu allan i waliau’r ddinas” Jerwsalem yn nyddiau Iesu. (Hebreaid 13:12) Efallai mai ar fryn oedd y safle, gan fod y Beibl yn dweud bod rhai wedi gwylio dienyddiad Iesu “o bell.” (Marc 15:40) Ond, nid yw’n bosib fod yn hollol sicr heddiw o leoliad Golgotha.

  • Sut bu farw Iesu?

    Er bod llawer yn credu bod Iesu wedi ei groeshoelio—ei ddienyddio ar groesbren—mae’r Beibl yn dweud: “Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren.” (1 Pedr 2:24) Defnyddiodd ysgrifenwyr y Beibl dau air i gyfeirio at offeryn dienyddiad Iesu—staw·rosʹ a xuʹlon. Mae nifer fawr o ysgolheigion wedi dod i’r casgliad bod y geiriau hyn yn cyfeirio at bolyn neu stanc wedi ei ffurfio o un darn o bren.

  • Sut y dylai marwolaeth Iesu gael ei gofio?

    Ar noson y Pasg Iddewig blynyddol, sefydlodd Iesu drefn syml â’i ddilynwyr a gorchmynnodd iddyn nhw: “Gwnewch hyn i gofio amdana i.” (1 Corinthiaid 11:24) Oriau yn ddiweddarach, cafodd Iesu ei ladd.

    Fe wnaeth ysgrifenwyr y Beibl gymharu Iesu â’r oen a gafodd ei aberthu ar y Pasg. (1 Corinthiaid 5:7) Yn union fel oedd dathliad y Pasg yn atgoffa’r Israeliaid eu bod wedi cael eu rhyddhau o gaethiwed, felly mae Coffadwriaeth marwolaeth Iesu Grist yn atgoffa Cristnogion eu bod nhw wedi cael eu rhyddhau o bechod a marwolaeth. Roedd y Pasg, oedd yn cael ei ddathlu ar 14 Nisan yn ôl y calendr lleuadol, yn ddathliad blynyddol; roedd y Cristnogion cynnar hefyd yn cadw’r Goffadwriaeth unwaith y flwyddyn.

    Bob blwyddyn, ar ddyddiad sy’n cyfateb i 14 Nisan, mae miliynau o bobl ledled y byd yn coffáu marwolaeth Iesu.