Daniel 1:1-21
1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim, brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar, brenin Babilon, i Jerwsalem a gwarchae arni.
2 Mewn amser, dyma Jehofa* yn rhoi Jehoiacim, brenin Jwda, yn ei law, ynghyd â rhywfaint o offer tŷ’r* gwir Dduw. Aeth â nhw i wlad Sinar,* i dŷ* ei dduw ef, a rhoddodd yr offer yn nhrysorfa ei dduw.
3 Yna dyma’r brenin yn gorchymyn i Aspenas, ei brif swyddog llys, ddod â rhai o’r Israeliaid ato, gan gynnwys y rhai o’r teulu brenhinol a theuluoedd pwysig eraill.
4 Roedd rhaid iddyn nhw fod yn ifanc, yn ddi-nam, ac yn olygus, rhai a oedd â doethineb, gwybodaeth, dirnadaeth, a’r gallu i weithio ym mhalas y brenin. Roedd Aspenas i’w dysgu nhw sut i ysgrifennu iaith y Caldeaid a’i siarad.
5 Ar ben hynny, aseiniodd y brenin rywfaint o’i ddanteithion a’i win iddyn nhw bob dydd. Roedden nhw am gael eu hyfforddi am dair blynedd, ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw bydden nhw’n dechrau gwasanaethu’r brenin.
6 Nawr roedd rhai o lwyth Jwda yn eu plith: Daniel,* Hananeia,* Misael,* ac Asareia.*
7 Rhoddodd prif swyddog y llys enwau newydd* iddyn nhw; rhoddodd yr enw Beltesassar ar Daniel, yr enw Sadrach ar Hananeia, yr enw Mesach ar Misael, a’r enw Abednego ar Asareia.
8 Ond dyma Daniel yn penderfynu yn ei galon nad oedd am ei halogi ei hun â danteithion a gwin y brenin. Felly gofynnodd i brif swyddog y llys am ganiatâd i beidio â’i halogi ei hun fel hyn.
9 A dyma’r gwir Dduw yn achosi i brif swyddog y llys ddangos ffafr* a thrugaredd tuag at Daniel.
10 Ond dyma brif swyddog y llys yn dweud wrth Daniel: “Rydw i’n ofni fy arglwydd y brenin, yr un sydd wedi aseinio bwyd a diod ichi. Petai ef yn sylwi eich bod chi’n edrych yn waeth na’r bobl ifanc eraill eich oedran chi, byddwch chi’n fy ngwneud i’n euog o flaen y brenin.”
11 Ond dywedodd Daniel wrth y gwarchodwr a gafodd ei aseinio gan brif swyddog y llys i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia:
12 “Plîs, rho dy weision ar brawf am ddeg diwrnod, a rho inni lysiau i’w bwyta a dŵr i’w yfed;
13 a sylwa ar sut rydyn ni’n edrych o’n cymharu ni â’r bobl ifanc eraill sy’n bwyta danteithion y brenin, ac yna delia â dy weision yn ôl yr hyn rwyt ti’n ei weld.”
14 Felly dyma’r gwarchodwr yn cytuno â’u cynnig ac yn eu rhoi nhw ar brawf am ddeg diwrnod.
15 Ar ddiwedd y deg diwrnod roedden nhw’n edrych yn well ac yn fwy iach na’r bobl ifanc eraill a oedd yn bwyta danteithion y brenin.
16 Felly dyma’r gwarchodwr yn cymryd eu danteithion a’u gwin i ffwrdd ac yn rhoi llysiau iddyn nhw.
17 Rhoddodd y gwir Dduw wybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â phob math o lenyddiaeth i’r pedwar bachgen hyn, yn ogystal â doethineb; a rhoddodd Ef i Daniel y gallu i ddeall pob math o weledigaethau a breuddwydion.
18 Ar ddiwedd y tair blynedd, pan oedd hi’n amser iddyn nhw fynd o flaen y brenin, dyma brif swyddog y llys yn mynd â nhw i mewn o flaen Nebuchadnesar.
19 Pan siaradodd y brenin â nhw, doedd neb arall yn y grŵp cyfan yn debyg i Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia; ac fe wnaethon nhw barhau i wasanaethu o flaen y brenin.
20 Pan fyddai’r brenin yn eu holi nhw am unrhyw fater a oedd yn gofyn am ddoethineb a dealltwriaeth, gwelodd eu bod nhw’n ddeg gwaith gwell na holl ddewiniaid* a hudolwyr ei deyrnas gyfan.
21 Ac arhosodd Daniel yno tan flwyddyn gyntaf teyrnasiad y Brenin Cyrus.
Troednodiadau
^ Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (IHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
^ Neu “teml y.”
^ Hynny yw, Babilonia.
^ Neu “i deml.”
^ Sy’n golygu “Duw Yw Fy Marnwr.”
^ Sy’n golygu “Mae Jehofa Wedi Dangos Ffafr.”
^ Efallai’n golygu “Pwy Sy’n Debyg i Dduw?”
^ Sy’n golygu “Mae Jehofa Wedi Helpu.”
^ Hynny yw, enwau Babilonaidd.
^ Neu “caredigrwydd.”
^ Hynny yw, offeiriaid a oedd yn arfer hud a lledrith.

