Daniel 6:1-28
6 Gwelodd Dareius y byddai’n beth da i benodi 120 o satrapiaid* dros y deyrnas i gyd.
2 Roedden nhw’n atebol i dri uwch-swyddog, ac roedd Daniel yn un ohonyn nhw; a byddai’r satrapiaid yn adrodd yn ôl wrthyn nhw, fel na fyddai’r brenin yn dioddef colled.
3 Nawr dangosodd Daniel ei fod yn llawer mwy cymwys na’r uwch-swyddogion eraill a’r satrapiaid, oherwydd roedd ganddo ysbryd rhagorol, ac roedd y brenin yn bwriadu ei ddyrchafu dros y deyrnas gyfan.
4 Bryd hynny roedd yr uwch-swyddogion a’r satrapiaid yn chwilio am sail dros gyhuddo Daniel ynglŷn â materion y deyrnas, ond doedden nhw ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw beth llwgr ynddo nac unrhyw beth i’w gyhuddo ohono, oherwydd doedd ef ddim yn anonest nac yn esgeulus, ond yn hytrach roedd yn hollol ddibynadwy.
5 Yna dywedodd y dynion hynny: “Fyddwn ni ddim yn dod o hyd i unrhyw sail o gwbl dros gyhuddo’r Daniel hwn, oni bai ein bod ni’n dod o hyd i rywbeth yng nghyfraith ei Dduw y gallwn ni ei ddefnyddio yn ei erbyn.”
6 Felly aeth yr uwch-swyddogion a’r satrapiaid i mewn at y brenin gyda’i gilydd, a dywedon nhw wrtho: “O Frenin Dareius, hir oes iti.
7 Mae’r holl swyddogion brenhinol, y satrapiaid, y dirprwy satrapiaid, yr uwch-swyddogion brenhinol, a’r llywodraethwyr wedi ymgynghori i sefydlu deddf frenhinol a gwaharddiad: Am 30 diwrnod, dylai unrhyw un sy’n gwneud cais i unrhyw dduw neu ddyn ar wahân i ti, O frenin, gael ei daflu i mewn i ffau’r llewod.
8 Nawr, O frenin, cadarnha’r ddeddf a’i harwyddo, fel na fydd yn cael ei newid, yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid sydd ddim yn gallu cael ei chanslo.”
9 Felly dyma’r Brenin Dareius yn arwyddo’r ddeddf a’r gwaharddiad.
10 Ond unwaith i Daniel glywed bod y ddeddf wedi cael ei harwyddo, aeth i’w dŷ lle roedd ffenestri ei ystafell ar y to wedi eu hagor i gyfeiriad Jerwsalem. Dair gwaith bob diwrnod, roedd yn mynd ar ei bennau gliniau ac yn gweddïo ac yn moli ei Dduw, yn union fel roedd ef wedi bod yn gwneud yn rheolaidd.
11 Yna rhuthrodd y dynion hynny i mewn a darganfod Daniel yn ymbil ar ei Dduw ac yn erfyn arno am ei ffafr.
12 Felly aethon nhw at y brenin a’i atgoffa am y ddeddf frenhinol gan ddweud: “Oni wnest ti arwyddo gwaharddiad yn gorchymyn, am 30 diwrnod, y bydd unrhyw ddyn sy’n gwneud cais i unrhyw dduw neu ddyn heblaw am i ti, O frenin, yn cael ei daflu i mewn i ffau’r llewod?” Atebodd y brenin: “Mae hynny’n wir, mae wedi cael ei sefydlu yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid sydd ddim yn gallu cael ei chanslo.”
13 Dywedon nhw wrth y brenin ar unwaith: “Dydy Daniel, un o alltudion Jwda, ddim wedi talu unrhyw sylw i ti, O frenin, nac i’r gwaharddiad gwnest ti ei arwyddo, yn hytrach mae’n gweddïo dair gwaith y diwrnod.”
14 Cyn gynted ag y clywodd y brenin hyn, dechreuodd boeni’n arw, a cheisiodd feddwl am ffordd o achub Daniel; a hyd nes i’r haul fachlud gwnaeth ef bob ymdrech i’w achub.
15 O’r diwedd daeth y dynion hynny i mewn at y brenin gyda’i gilydd, a dywedon nhw wrth y brenin: “Cofia, O frenin, yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, dydy unrhyw waharddiad neu ddeddf mae’r brenin yn ei sefydlu ddim yn gallu cael ei newid.”
16 Felly rhoddodd y brenin y gorchymyn, a dyma nhw’n cymryd Daniel a’i daflu i ffau’r llewod. Dywedodd y brenin wrth Daniel: “Bydd dy Dduw rwyt ti’n ei wasanaethu’n ddi-baid yn dy achub di.”
17 Yna cafodd carreg ei rhoi dros geg y ffau, a dyma’r brenin yn ei selio â’i fodrwy* ei hun ac â modrwyau pobl bwysig ei deyrnas, fel na fyddai unrhyw beth yn cael ei newid ynglŷn â Daniel.
18 Yna aeth y brenin i’w balas. Treuliodd y noson honno’n ymprydio a gwrthododd unrhyw adloniant,* ac roedd yn methu cysgu.
19 O’r diwedd, ar doriad y wawr, cododd y brenin a rhuthro at ffau’r llewod.
20 Wrth iddo agosáu at y ffau, galwodd ar Daniel â llais trist. Gofynnodd y brenin i Daniel: “O Daniel, gwas y Duw byw, a ydy dy Dduw rwyt ti’n ei wasanaethu’n ddi-baid wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”
21 Ar unwaith dywedodd Daniel wrth y brenin: “O frenin, hir oes iti.
22 Gwnaeth fy Nuw anfon ei angel a chau cegau’r llewod, a dydyn nhw ddim wedi gwneud unrhyw niwed imi, oherwydd roeddwn i’n ddi-euog yn ei olwg ef; a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw ddrwg i ti, O frenin.”
23 Roedd y brenin wrth ei fodd, a gorchmynnodd i Daniel gael ei godi allan o’r ffau. Pan gafodd Daniel ei godi allan, nid oedd unrhyw niwed i’w weld arno, am ei fod wedi trystio ei Dduw.
24 Yna rhoddodd y brenin orchymyn, a chafodd y dynion a oedd wedi cyhuddo Daniel eu cymryd a’u taflu i mewn i ffau’r llewod, ynghyd â’u gwragedd a’u meibion. Cyn iddyn nhw hyd yn oed gyrraedd gwaelod y ffau, dyma’r llewod yn ymosod arnyn nhw gan eu rhwygo nhw’n ddarnau a malu eu hesgyrn yn llwyr.
25 Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd a oedd yn byw drwy’r byd i gyd: “Mawr heddwch ichi!
26 Rydw i’n gorchymyn ym mhob rhan o fy nheyrnas y dylai pobl grynu mewn ofn o flaen Duw Daniel. Oherwydd ef yw’r Duw byw, ac mae’n bodoli am byth. Ni fydd ei deyrnas byth yn cael ei dinistrio, ac mae ei deyrnasiad yn dragwyddol.
27 Mae’n achub ac yn arbed ei bobl, ac yn gwneud arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear, oherwydd achubodd Daniel o bawennau’r llewod.”
28 Felly gwnaeth Daniel ffynnu yn nheyrnas Dareius ac yn nheyrnas Cyrus y Persiad.

