Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 97

Gorymdaith Frenhinol

Gorymdaith Frenhinol

YN FUAN ar ôl i Iesu wella’r ddau ddyn dall, fe aeth i bentref bach yn ymyl Jerwsalem. Dywedodd wrth ddau o’i ddisgyblion: ‘Ewch i’r pentref a byddwch chi’n gweld asyn ifanc. Dewch ag ef yma.’

Pan ddaeth y disgyblion yn ôl, eisteddodd Iesu ar gefn yr asyn i orffen y daith i Jerwsalem. Wrth iddo nesáu at y ddinas, dyma dyrfa yn dod i’w groesawu. Tynnodd llawer eu cotiau a’u rhoi ar y ffordd o flaen Iesu. Torrodd eraill ddail o’r coed palmwydd, a’u gosod ar y ffordd, gan weiddi: ‘Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa!’

Yn Israel gynt, pan oedd brenin newydd yn dymuno ymddangos i’r bobl, fe fyddai’n mynd i Jerwsalem yn marchogaeth ar gefn asyn. Dyna beth a wnaeth Iesu. Roedd ymateb y bobl yn dangos eu bod nhw eisiau cael Iesu yn frenin arnyn nhw. Ond nid pawb oedd yn ei groesawu. Daeth hyn yn amlwg pan aeth Iesu i’r deml.

Yn y deml, iachaodd Iesu bobl a oedd yn ddall neu’n anabl. Pan welodd y plant ei wyrthiau, roedden nhw’n gweiddi: ‘Clod i Fab Dafydd.’ Ond, fe wylltiodd yr offeiriaid yn lân a dweud wrth Iesu: ‘Wyt ti’n clywed beth mae’r plant yn ei ddweud?’

‘Ydw,’ atebodd Iesu. ‘Ydych chi erioed wedi darllen y geiriau hyn yn y Beibl: “Bydd Duw yn gwneud i blant bach ganu mawl?”’ Felly, daliodd y plant ati i foli Iesu yn frenin.

Rydyn ni eisiau bod yn debyg i’r plant hynny. Efallai bydd rhai pobl yn ceisio ein hatal ni rhag siarad am Deyrnas Dduw. Ond byddwn ni’n dal ati i ddweud wrth bobl am y pethau hyfryd y bydd Iesu yn eu gwneud ar gyfer pawb.

Pan oedd Iesu ar y ddaear, nid oedd hi’n amser eto iddo ddechrau teyrnasu’n frenin. Ond pryd daw’r amser hwnnw? Roedd disgyblion Iesu yn awyddus i wybod. Byddwn ni’n darllen am hynny nesaf.