Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 22

Joseff yn y Carchar

Joseff yn y Carchar

DIM ond 17 mlwydd oed oedd Joseff pan aeth yr Ismaeliaid ag ef i’r Aifft. Yno, cafodd ei werthu i ddyn o’r enw Potiffar. Roedd Potiffar yn gweithio i Pharo, brenin yr Aifft.

Gweithiodd Joseff yn galed iawn i Potiffar. Ymhen amser, cafodd ei benodi dros holl dŷ ei feistr. Pam, felly, cafodd Joseff ei daflu i’r carchar? Gwraig Potiffar oedd ar fai.

Tyfodd Joseff yn ddyn golygus iawn, ac roedd gwraig Potiffar yn ceisio ei hudo i fynd i’r gwely gyda hi. Ond roedd Joseff yn gwybod mai peth drwg oedd hynny ac fe wrthododd. Roedd gwraig Potiffar yn ddig iawn. Pan ddaeth ei gŵr adref, dyma hi’n dweud celwydd. ‘Fe wnaeth Joseff geisio gorwedd gyda mi,’ meddai. Credodd Potiffar ei wraig, ac wedi gwylltio’n lân, taflodd Joseff i’r carchar.

Cyn bo hir, gwelodd ceidwad y carchar fod Joseff yn ddyn da ac fe roddodd yr holl garcharorion o dan ei ofal. Yn nes ymlaen, fe wnaeth trulliad a phobydd Pharo ddigio eu meistr a chael eu hel i’r carchar. Un noson, cawson nhw freuddwydion rhyfedd nad oedden nhw yn eu deall. Drannoeth, dywedodd Joseff: ‘Dywedwch wrtha’ i am eich breuddwydion.’ Gyda help Duw, roedd Joseff yn medru egluro ystyr y breuddwydion.

Dywedodd Joseff wrth y trulliad: ‘Ymhen tri diwrnod, fe gei di dy ryddhau o’r carchar ac fe gei di dy swydd yn ôl yn nhŷ Pharo. Ond cofia sôn wrth Pharo amdana i, a helpa fi i ddod allan o’r lle ’ma.’ Wrth y pobydd, dywedodd Joseff: ‘Ymhen tri diwrnod, bydd Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd.’

Dridiau yn ddiweddarach, digwyddodd popeth fel roedd Joseff wedi dweud. Cafodd y pobydd ei ladd. Cafodd y trulliad ei ryddhau ac aeth yn ôl i weini ar y brenin. Ond fe anghofiodd yn llwyr am Joseff! Ni ddywedodd yr un gair wrth Pharo, ac roedd rhaid i Joseff aros yn y carchar.