Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG SAITH

Nesáu at Dduw Drwy Weddïo

Nesáu at Dduw Drwy Weddïo
  • Pam dylen ni weddïo ar Dduw?

  • Er mwyn i Dduw wrando arnon ni, beth sy’n rhaid inni ei wneud?

  • Sut mae Duw yn ateb ein gweddïau?

Mae’r un “a wnaeth nefoedd a daear” yn barod i wrando ar ein gweddïau

1, 2. Pam dylen ni edrych ar weddïo fel braint fawr, a pham mae angen gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddysgu ar y pwnc?

O’I CHYMHARU â maint y bydysawd, mae’r ddaear yn fach iawn. Yn wir, i Jehofa, “a wnaeth nefoedd a daear,” mae’r cenhedloedd i gyd fel diferyn bach o ddŵr wedi ei dywallt o fwced. (Salm 115:15; Eseia 40:15) Ond mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa “yn agos at bawb sy’n galw arno, at bawb sy’n galw arno mewn gwirionedd. Gwna ddymuniad y rhai sy’n ei ofni; gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.” (Salm 145:18, 19) Meddyliwch am hynny! Mae’r Creawdwr hollalluog yn agos aton ni a bydd yn ein clywed os ydyn ni’n “galw arno mewn gwirionedd.” Mae gweddïo ar Dduw yn fraint.

2 Os ydyn ni eisiau i Jehofa wrando ar ein gweddïau, mae’n rhaid inni weddïo arno mewn modd y mae’n ei gymeradwyo. Cyn inni fedru gwneud hyn, rhaid inni ddeall beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am weddi. Gan fod gweddïo’n helpu ni i glosio at Jehofa, mae’n hanfodol bwysig inni wybod beth sydd gan yr Ysgrythurau i’w ddweud ar y pwnc.

PAM DYLEN NI WEDDÏO AR JEHOFA?

3. Beth yw un rheswm pwysig dros weddïo ar Jehofa?

3 Un rheswm pwysig dros weddïo ar Jehofa yw ei fod yn ein gwahodd ni i wneud hynny. Mae ei Air yn annog: “Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.” (Philipiaid 4:6, 7) Yn sicr, ni ddylwn ni anwybyddu’r rhodd garedig hon sy’n cael ei chynnig gan Reolwr Goruchaf y bydysawd!

4. Sut mae gweddïo’n rheolaidd ar Jehofa yn cryfhau ein perthynas ag ef?

4 Rheswm arall dros weddïo yw bod gweddïo’n rheolaidd ar Jehofa yn cryfhau ein perthynas ag ef. Dydy gwir ffrindiau ddim yn cysylltu â’i gilydd dim ond pan fydd angen rhywbeth. Yn hytrach, maen nhw’n dangos diddordeb yn ei gilydd ac mae eu cyfeillgarwch yn tyfu oherwydd eu bod nhw’n medru siarad am eu pryderon, eu teimladau a’r hyn sydd ar eu meddwl. I ryw raddau, mae ein perthynas â Jehofa Dduw yn debyg i hynny. Gyda chymorth y llyfr hwn, rydych chi wedi dysgu llawer yn y Beibl am Jehofa, ei bersonoliaeth a’i fwriadau. Rydych chi wedi dod i’w adnabod fel Person go iawn. Mae gweddïo yn rhoi’r cyfle ichi agor eich calon a mynegi eich teimladau mwyaf personol i’ch Tad nefol. Wrth wneud hyn, byddwch yn closio at Jehofa.—⁠Iago 4:8.

BETH SYDD EI ANGEN AR EIN RHAN NI?

5. Beth sy’n dangos nad yw Jehofa yn gwrando ar bob gweddi?

5 Ydy Jehofa yn gwrando ar bob gweddi? Ystyriwch beth ddywedodd wrth yr Israeliaid gwrthryfelgar yn nyddiau’r proffwyd Eseia: “Er i chwi amlhau eich ymbil, ni fynnaf wrando arnoch. Y mae eich dwylo’n llawn gwaed.” (Eseia 1:15) Mae rhai gweithredoedd yn peri i Dduw beidio â gwrando ar ein gweddïau. Felly, er mwyn i Dduw wrando ar ein gweddïau, y mae rhai pethau sylfaenol y dylen ni eu gwneud.

6. Er mwyn i Dduw wrando ar ein gweddïau, beth sy’n hanfodol bwysig inni ei wneud?

6 Un o’r gofynion blaenaf yw rhoi ein ffydd ar waith. (Darllenwch Marc 11:24.) Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Heb ffydd y mae’n amhosibl rhyngu ei fodd ef. Oherwydd rhaid i’r sawl sy’n dod at Dduw gredu ei fod ef, a’i fod yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio.” (Hebreaid 11:6) Mae gwir ffydd yn golygu mwy na gwybod bod yna Dduw sy’n gwrando ar ein gweddïau ac yn eu hateb. Profir ein ffydd gan ein gweithredoedd. Mae ein bywyd bob dydd yn gorfod dangos yn glir fod gennyn ni ffydd.—⁠Iago 2:26.

7. (a) Pam dylen ni ddangos parch wrth weddïo ar Jehofa? (b) Wrth weddïo ar Dduw, sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ostyngedig ac yn ddiffuant?

7 Mae Jehofa yn gofyn i’r rhai sy’n mynd ato mewn gweddi fod yn ostyngedig ac yn ddiffuant. Onid oes rheswm dros fod yn ostyngedig wrth siarad â Jehofa? Pan fydd pobl yn siarad â brenin neu brif weinidog, maen nhw’n gwneud hynny fel rheol yn barchus, gan gydnabod safle uchel y rheolwyr hynny. Gymaint yn fwy, felly, y dylen ni ddangos parch wrth siarad â Jehofa! (Salm 138:6) Wedi’r cwbl, rydyn ni’n siarad â’r “Duw Hollalluog.” (Genesis 17:1) Dylai’r ffordd rydyn ni’n gweddïo ar Dduw ddangos ein bod ni’n cydnabod ein safle gostyngedig ger ei fron. Os ydyn ni’n ostyngedig, byddwn ni’n gweddïo yn ddiffuant o’r galon ac yn osgoi gweddïau ailadroddus a mecanyddol.—⁠Mathew 6:7, 8.

8. Sut gallwn ni weithredu yn unol â’n gweddïau?

8 I sicrhau bod Duw yn ein clywed ni, peth arall sy’n rhaid inni ei wneud yw gweithredu yn unol â’n gweddïau. Mae Jehofa yn disgwyl inni wneud popeth o fewn ein gallu i weithio tuag at yr hyn rydyn ni’n gweddïo amdano. Er enghraifft, os ydyn ni’n gweddïo, “Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol,” mae’n rhaid inni weithio’n galed mewn unrhyw swydd y medrwn ni ei gwneud. (Mathew 6:11; 2 Thesaloniaid 3:10) Os ydyn ni’n gweddïo am gymorth i oresgyn gwendid y cnawd, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i osgoi sefyllfaoedd a all wneud inni syrthio i demtasiwn. (Colosiaid 3:5) Yn ogystal â’r gofynion sylfaenol hyn, mae yna gwestiynau eraill ynglŷn â gweddïo sy’n haeddu atebion.

ATEB RHAI CWESTIYNAU YNGLŶN Â GWEDDÏO

9. Ar bwy dylen ni weddïo, a thrwy gyfrwng pwy?

9 Ar bwy dylen ni weddïo? Dysgodd Iesu i’w ddilynwyr weddïo ar “ein Tad yn y nefoedd.” (Mathew 6:9) Felly, mae’n rhaid cyfeirio ein gweddïau at Jehofa Dduw yn unig. Sut bynnag, mae Jehofa yn gofyn inni gydnabod safle ei unig-anedig Fab, Iesu Grist. Fel y dysgon ni ym Mhennod 5, anfonwyd Iesu i’r ddaear i dalu’r pridwerth er mwyn i’n gwaredu rhag pechod a marwolaeth. (Ioan 3:16; Rhufeiniaid 5:12) Y mae wedi ei benodi yn Archoffeiriad ac yn Farnwr. (Ioan 5:22; Hebreaid 6:20) Dyna pam y mae’r Ysgrythurau yn dweud wrthon ni am weddïo drwy Iesu. Dywedodd yntau: “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6) Er mwyn i Dduw wrando ar ein gweddïau, mae’n rhaid inni weddïo ar Jehofa yn unig a hynny drwy ei Fab.

10. Pam nad oes angen dal y corff mewn ffordd arbennig ar gyfer gweddïo?

10 Oes angen dal y corff mewn rhyw ffordd arbennig er mwyn gweddïo? Nac oes. Dydy Jehofa ddim yn mynnu ein bod ni’n rhoi ein dwylo at ei gilydd na phlygu ein pennau. Mae’r Beibl yn dysgu bod gweddïo mewn gwahanol ffyrdd yn dderbyniol. Mae hyn yn cynnwys eistedd, ymgrymu, mynd ar eich pennau-gliniau, a sefyll. (1 Cronicl 17:16; Nehemeia 8:6; Daniel 6:10; Marc 11:25) Nid dal y corff mewn ffordd arbennig i gael eich gweld gan eraill sy’n bwysig, ond agwedd gywir y galon. Yn wir, yn ystod ein bywyd bob dydd, neu yn wyneb argyfwng, gallwn ni weddïo yn ddistaw le bynnag yr ydyn ni. Mae Jehofa yn clywed gweddïau o’r fath er nad ydyn nhw’n tynnu sylw’r rhai o’n cwmpas.—⁠Nehemeia 2:1-6.

11. Beth yw rhai materion personol y mae’n briodol inni eu cynnwys yn ein gweddïau?

11 Beth gallwn ni weddïo amdano? Mae’r Beibl yn esbonio: “A hwn yw’r hyder sydd gennym ger ei fron ef: y bydd ef [Jehofa] yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â’i ewyllys ef.” (1 Ioan 5:14) Felly, gallwn ni weddïo am unrhyw beth sydd yn unol ag ewyllys Duw. A yw gweddïo am bryderon personol yn unol ag ewyllys Duw? Wrth gwrs! Mae siarad â Jehofa yn debyg i siarad â ffrind agos. Gallwn ni siarad yn agored, gan ‘dywallt allan ein calon’ i Dduw. (Salm 62:8) Mae’n briodol inni ofyn i Dduw am ei ysbryd glân i’n helpu ni wneud yr hyn sy’n iawn. (Luc 11:13) Gallwn ni ofyn hefyd am help i wneud penderfyniadau doeth ac am nerth i ymdopi ag anawsterau. (Iago 1:5) Pan ydyn ni’n pechu, dylen ni ofyn am faddeuant ar sail aberth Crist. (Effesiaid 1:3, 7) Wrth gwrs, ddylen ni ddim gweddïo am faterion personol yn unig. Dylen ni hefyd gynnwys pobl eraill yn ein gweddïau—aelodau’r teulu ynghyd â’n cyd-addolwyr.—⁠Actau 12:5; Colosiaid 4:12.

12. Sut gallwn ni roi’r lle blaenaf yn ein gweddïau i faterion sy’n ymwneud â’n Tad nefol?

12 Dylai materion sy’n ymwneud â Jehofa Dduw gael y lle blaenaf yn ein gweddïau. Mae gennyn ni reswm da dros foli Jehofa o’r galon ac i ddiolch iddo am ei holl ddaioni. (1 Cronicl 29:10-13) Ym Mathew 6:9-13, darllenwn ni weddi enghreifftiol Iesu, lle mae’n dysgu inni weddïo am i enw Duw gael ei sancteiddio. (Darllenwch.) Nesaf, mae’n gofyn am i Deyrnas Dduw ddod ac am i ewyllys Duw gael ei gwneud ar y ddaear fel yn y nef. Dim ond ar ôl iddo drafod materion pwysig yn ymwneud â Jehofa, rhoddodd Iesu sylw i faterion personol. Pan fyddwn ni’n rhoi’r lle blaenaf i Jehofa yn ein gweddïau, rydyn ni’n dangos bod pethau amgenach nag ein lles personol ni o ddiddordeb inni.

13. Beth mae’r Ysgrythurau yn ei ddweud am hyd gweddïau derbyniol?

13 Pa mor hir dylai ein gweddïau fod? Dydy’r Beibl ddim yn gosod rheolau o ran hyd gweddïau personol neu gyhoeddus. Gallan nhw amrywio o fod yn weddïau byr cyn bwyta i fod yn weddïau hir personol lle medrwn ni dywallt ein calonnau gerbron Jehofa. (1 Samuel 1:12, 15) Fodd bynnag, roedd Iesu yn condemnio pobl hunangyfiawn oedd yn rhoi gweddïau hirfaith i wneud argraff ar eraill. (Luc 20:46, 47) Dydy gweddïau o’r fath ddim yn gwneud unrhyw argraff ar Jehofa. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod ni’n gweddïo o’r galon. Felly, gall ein gweddïau amrywio o ran hyd yn ôl yr angen a’r amgylchiadau.

Gall Duw glywed eich gweddïau ar unrhyw adeg

14. Beth mae’r Beibl yn ei olygu pan ddywed wrthon ni am ‘weddïo’n ddi-baid,’ a pham mae hyn yn gysur?

14 Pa mor aml dylen ni weddïo? Mae’r Beibl yn ein hannog ni i “weddïo bob amser yn ddiflino,” i ‘ddal ati i weddïo,’ ac i ‘weddïo’n ddi-baid.’ (Luc 18:1; Rhufeiniaid 12:12; 1 Thesaloniaid 5:17) Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu ein bod ni’n gorfod gweddïo ar Jehofa bob munud o’r dydd. Yn hytrach, mae’r Beibl yn ein hannog i weddïo yn rheolaidd, i ddiolch yn gyson i Jehofa am ei ddaioni gan edrych ato am gyngor, cysur, a nerth. Cysur yw gwybod nad yw Jehofa yn gosod cyfyngiadau ar hyd ein gweddïau nac ychwaith ar ba mor aml y gallwn ni droi ato mewn gweddi. Os ydyn ni’n gwerthfawrogi ein braint o weddïo, byddwn yn manteisio ar bob cyfle i weddïo ar ein Tad nefol.

15. Pam dylen ni ddweud “Amen” ar ddiwedd gweddïau personol a chyhoeddus?

15 Pam dylen ni ddweud “Amen” ar ddiwedd gweddi? Mae’r gair “amen” yn golygu “yn wir,” neu “bydded felly.” Mae enghreifftiau Ysgrythurol yn dangos bod dweud “Amen” ar ddiwedd gweddïau personol a chyhoeddus yn gwbl briodol. (1 Cronicl 16:36; Salm 41:13) Drwy ddweud “Amen” ar ddiwedd ein gweddïau ein hunain, rydyn ni’n cadarnhau ein bod ni’n ddiffuant. Pan ydyn ni’n dweud “Amen”—boed yn ddistaw neu’n uchel—ar ddiwedd gweddi gyhoeddus, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n cytuno â’r hyn sydd wedi ei fynegi.—⁠1 Corinthiaid 14:16.

SUT MAE DUW YN ATEB EIN GWEDDÏAU

16. O beth gallwn ni fod yn hollol sicr ynglŷn â gweddïau?

16 Ydy Jehofa yn ateb gweddïau mewn gwirionedd? Ydy wir! Mae sail gadarn dros gredu bod Duw, “sy’n gwrando gweddi,” yn ateb gweddïau diffuant miliynau o bobl. (Salm 65:2) Gall Jehofa ateb ein gweddïau ni mewn amryw ffyrdd.

17. Pam gallwn ddweud bod Duw yn defnyddio ei angylion a’i weision ar y ddaear i ateb ein gweddïau?

17 Mae Jehofa yn defnyddio ei angylion a’i weision ar y ddaear i ateb gweddïau. (Hebreaid 1:13, 14) Ceir llawer o enghreifftiau o unigolion sydd wedi gweddïo ar Dduw am help i ddeall y Beibl ac, yn fuan wedyn, mae un o weision Jehofa yn cysylltu â nhw. Mae profiadau o’r fath yn rhoi tystiolaeth fod yr angylion yn cyfarwyddo’r gwaith o bregethu’r Deyrnas. (Datguddiad 14:6) Pan fo taer angen arnon ni, gall Jehofa ateb ein gweddïau drwy ysgogi Cristion i ddod i’n cynorthwyo.—⁠Diarhebion 12:25; Iago 2:16.

I ateb ein gweddïau, gall Jehofa ysgogi Cristion i ddod i’n helpu ni

18. Sut mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân a’i Air i ateb gweddïau ei weision?

18 Hefyd, mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân a’i Air, y Beibl, i ateb gweddïau ei weision. Y mae’n gallu ateb ein gweddïau am help i ymdopi â threialon bywyd drwy roi cyngor a nerth inni drwy gyfrwng ei ysbryd glân. (2 Corinthiaid 4:7) Yn aml, bydd yr ateb i’n gweddïau am gyngor i’w gael yn y Beibl, lle mae Jehofa yn ein helpu i wneud penderfyniadau doeth. Gallwn ni ddod o hyd i adnodau defnyddiol wrth astudio’r Beibl yn bersonol ac wrth ddarllen cyhoeddiadau Cristnogol fel y llyfr hwn. Weithiau, bydd sylwadau mewn cyfarfod Cristnogol yn tynnu ein sylw at bwyntiau Ysgrythurol gwerth eu hystyried, neu gall henuriad caredig yn y gynulleidfa wneud sylw sy’n berthnasol inni.—⁠Galatiaid 6:1.

19. Os ydyn ni’n teimlo nad ydyn ni wedi cael ateb i’n gweddïau, beth dylen ni ei gofio?

19 Os yw Jehofa yn ymddangos fel petai’n oedi wrth ateb ein gweddïau, dydy hyn byth yn golygu ei fod yn methu eu hateb. Mae’n rhaid inni gofio bod Jehofa yn ateb gweddïau yn ôl ei ewyllys ac yn ei amser ei hun. Mae’n gwybod beth sydd ei angen arnon ni a sut i gwrdd â’r anghenion hynny yn well na ni ein hunain. Yn aml, mae’n gadael inni ddal ati i ‘ofyn, i geisio, ac i guro.’ (Luc 11:5-10) Mae dygnwch o’r fath yn dangos i Dduw ein bod ni o ddifrif a bod ein ffydd yn ddiffuant. Ar ben hynny, gall Jehofa ateb ein gweddïau mewn modd nad yw’n amlwg inni. Er enghraifft, yn achos rhai treialon, y mae’n medru ateb ein gweddïau drwy roi nerth inni ymdopi yn hytrach na chael gwared ar y broblem.—⁠Darllenwch Philipiaid 4:13.

20. Pam dylen ni fanteisio’n llawn ar y fraint amhrisiadwy o weddïo?

20 Gallwn ni fod yn hynod ddiolchgar ei bod hi’n bosibl inni, drwy weddïo yn y ffordd iawn, ddod yn agos at Greawdwr yr holl fydysawd! (Darllenwch Salm 145:18.) Gadewch inni fanteisio’n llawn ar y fraint amhrisiadwy honno o weddïo ar Jehofa. Os gwnawn ni hynny, gallwn edrych ymlaen yn llawen at ddod yn agosach fyth at Jehofa, Gwrandawr gweddi.