Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Iesu Grist—Y Meseia Addawedig

Iesu Grist—Y Meseia Addawedig

I’N HELPU ni i adnabod y Meseia, ysbrydolodd Jehofa Dduw lawer o broffwydi’r Beibl i roi manylion am enedigaeth, gweinidogaeth a marwolaeth y Gwaredwr addawedig hwn. Cafodd pob un o’r proffwydoliaethau hyn eu cyflawni yn Iesu Grist. Maen nhw’n hynod o gywir a manwl. Gadewch inni weld esiamplau o hyn drwy ystyried ychydig o broffwydoliaethau sy’n ymwneud â genedigaeth a phlentyndod y Meseia.

Rhagfynegodd y proffwyd Eseia y byddai’r Meseia yn ddisgynnydd i’r Brenin Dafydd. (Eseia 9:7) Yn wir, cafodd Iesu ei eni yn llinach Dafydd.—⁠Mathew 1:1, 6-17.

Rhagfynegodd proffwyd arall o’r enw Micha y byddai’r plentyn hwn yn cael ei eni yn “Bethlehem Effrata,” ac yn y pen draw, byddai’n dod yn rheolwr. (Micha 5:2) Ar adeg genedigaeth Iesu, roedd yna ddwy dref yn Israel o’r enw Bethlehem. Roedd un ger Nasareth yng ngogledd y wlad, a’r llall ger Jerwsalem yn Jwdea. Enw blaenorol Bethlehem ger Jerwsalem oedd Effrata. Ganwyd Iesu yn y dref honno, yn union fel y rhagfynegodd y broffwydoliaeth!—⁠Mathew 2:1.

Dywedodd proffwydoliaeth arall yn y Beibl y byddai Mab Duw yn cael ei alw “o’r Aifft.” I’r wlad honno y cymerwyd Iesu yn blentyn bach ac fe ddychwelodd o’r Aifft ar ôl marwolaeth Herod, gan gyflawni’r broffwydoliaeth hon.—⁠Hosea 11:1; Mathew 2:15.

Yn y siart  ”Proffwydoliaethau Ynghylch y Meseia,” mae’r adnodau a restrir o dan y pennawd “Proffwydoliaeth” yn cynnwys manylion am y Meseia. Cymharwch y rhain â’r adnodau a restrir o dan y pennawd “Cyflawniad.” Bydd hyn yn gwneud eich ffydd yng ngwirionedd Gair Duw yn gryfach fyth.

Wrth chwilio’r adnodau hyn, cofiwch fod y proffwydoliaethau wedi eu hysgrifennu ganrifoedd cyn i Iesu gael ei eni. Dywedodd Iesu: “Rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy’n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a’r proffwydi a’r salmau.” (Luc 24:44) Fel y gwelwch yn eich copi personol o’r Beibl, cyflawnwyd holl fanylion y proffwydoliaethau hyn i gyd!