Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

 PENNOD UN

Beth Yw’r Gwir am Dduw?

Beth Yw’r Gwir am Dduw?
  • Oes gan Dduw wir ddiddordeb ynoch chi?

  • Sut un yw Duw? Oes ganddo enw?

  • Allwch chi ddod yn agos at Dduw?

1, 2. Pam mae gofyn cwestiynau fel arfer yn beth da?

YDYCH chi erioed wedi sylwi ar y ffordd mae plant yn gofyn cwestiynau? Mae llawer o blant yn dechrau gofyn cwestiynau cyn gynted ag y maen nhw’n siarad. Gyda llygaid mawr yn llawn disgwyl, maen nhw’n edrych i fyny atoch chi a gofyn pethau fel: Pam mae’r awyr yn las? Beth mae’r sêr wedi eu gwneud ohono? Pwy ddysgodd yr adar i ganu? Rydych yn trio eich gorau glas i roi ateb ond nid yw bob amser yn hawdd. Mae hyd yn oed eich ateb gorau yn arwain at gwestiwn arall: Pam?

2 Nid plant yw’r unig rai sy’n gofyn cwestiynau. Wrth inni dyfu i fyny, rydyn ni’n dal i ofyn cwestiynau, a hynny er mwyn ein rhoi ein hunain ar ben ffordd, osgoi peryglon, neu, yn syml, o ran diddordeb. Sut bynnag, mae fel petai llawer wedi peidio â gofyn cwestiynau, yn enwedig y rhai mwyaf pwysig. Neu, o leiaf, maen nhw’n rhoi’r gorau i chwilio am yr atebion.

3. Pam mae llawer yn rhoi’r gorau i chwilio am atebion i’r cwestiynau pwysicaf?

3 Meddyliwch am y cwestiwn ar glawr y llyfr hwn, neu’r rhai  sy’n codi yn y rhagair, ac ar ddechrau’r bennod hon. Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf pwysig y gallwch eu gofyn. Eto, mae llawer wedi rhoi’r gorau i geisio cael hyd i’r atebion. Pam? Ydy’r atebion i’w cael yn y Beibl? Teimlo y mae rhai fod yr atebion yn rhy anodd. Mae eraill yn poeni y gall gofyn cwestiynau godi cywilydd arnyn nhw. Ac mae rhai yn penderfynu mai’r peth gorau yw gadael cwestiynau fel hyn i arweinwyr ac athrawon crefyddol. Beth ydych chi’n ei feddwl?

4, 5. Beth yw rhai o gwestiynau mawr bywyd sy’n codi, a pham dylen ni geisio’r atebion?

4 Mae’n debyg iawn eich bod chi’n awyddus i gael atebion i gwestiynau mawr bywyd. Mae’n siŵr eich bod chi’n gofyn o bryd i’w gilydd: ‘Beth yw pwrpas bywyd? Ai’r bywyd hwn yw’r cyfan sydd? Sut un yw Duw mewn gwirionedd?’ Peth da yw gofyn cwestiynau o’r fath, a phwysig iawn yw peidio â rhoi’r ffidil yn y to nes eich bod chi’n darganfod atebion derbyniol a dibynadwy. Dywedodd yr athro enwog Iesu Grist: “Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.”—⁠Mathew 7:7.

5 Os ydych yn dal ati i geisio atebion i gwestiynau pwysig bywyd, bydd yr ymchwil yn talu ar ei ganfed ichi. (Diarhebion 2:1-5) Yn wahanol i beth mae rhai pobl yn ei ddweud wrthych chi, mae atebion ar gael, ac fe allwch ddod o hyd iddyn nhw yn y Beibl. Dydy’r atebion ddim yn rhy gymhleth. Gwell fyth, maen nhw’n dod â gobaith a llawenydd inni. Ac maen nhw’n gallu ein helpu ni i fyw bywyd bodlon nawr. I gychwyn, gadewch inni ystyried cwestiwn sydd wedi poeni llawer o bobl.

YDY DUW YN DDI-HID A CHALON-GALED?

6. Pam mae llawer yn meddwl nad yw Duw yn malio dim am ddioddefaint dynol?

6 ‘Ydy, y mae,’ yw ateb llawer o bobl i’r cwestiwn hwnnw. ‘Petai Duw yn ein caru ni,’ meddan nhw, ‘oni fyddai’r byd yn lle gwahanol i’r hyn a welwn?’ Wrth edrych o gwmpas  gwelwn fyd llawn rhyfel, casineb, a digalondid. Fel unigolion, rydyn ni’n mynd yn sâl, rydyn ni’n dioddef, ac yn gweld pobl sy’n annwyl iawn inni yn marw. Felly, bydd llawer yn dweud, ‘Petawn ni a’n problemau o bwys i Dduw oni fyddai’n rhwystro’r pethau hyn rhag digwydd?’

7. (a) Sut mae athrawon crefyddol wedi arwain llawer i feddwl bod Duw yn galon-galed? (b) Beth, mewn gwirionedd, mae’r Beibl yn ei ddysgu am dreialon bywyd?

7 Yn waeth fyth, weithiau mae athrawon crefyddol yn arwain pobl i feddwl bod Duw yn galon-galed. Sut felly? Pan fo trychineb yn digwydd, maen nhw’n dweud mai ewyllys Duw sydd ar waith. I bob pwrpas, mae athrawon o’r fath yn rhoi’r bai ar Dduw am y pethau drwg sy’n digwydd. Ai dyna’r gwir am Dduw? Beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu? Mae Iago 1:13 yn ateb: “Ni ddylai neb sy’n cael ei demtio ddweud, ‘Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn’; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb.” Felly, nid yw’r drygioni a welwch chi yn y byd o’ch cwmpas byth yn tarddu o Dduw. (Darllenwch Job 34:10-12.) Yn sicr, mae Duw yn caniatáu i bethau drwg ddigwydd. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng caniatáu i rywbeth ddigwydd a’i achosi.

8, 9. (a) Pa eglureb allech chi ei defnyddio i ddangos y gwahaniaeth rhwng caniatáu drygioni a’i achosi? (b) Pam byddai’n annheg inni weld bai ar benderfyniad Duw i adael i ddynolryw fynd ei ffordd afreolus ei hun?

8 Er enghraifft, ystyriwch sefyllfa tad doeth a chariadus gyda mab sydd wedi tyfu i fyny ond yn dal i fyw gartref o hyd. Os yw’r mab yn gwrthryfela a phenderfynu gadael y cartref, nid yw’r tad yn ei rwystro. Mae’r mab yn dewis byw bywyd drwg ac yn mynd i helynt. Ai’r tad yw achos problemau’r mab? Nage. (Luc 15:11-13) Yn yr un modd, dydy Duw ddim wedi rhwystro pobl rhag ymddwyn yn ddrwg, ond nid ef yw achos y problemau sydd wedi dilyn. Yn sicr, felly, byddai’n annheg i feio Duw am holl drafferthion dynolryw.

9 Mae gan Dduw resymau da dros ganiatáu i ddynolryw  ymddwyn yn ddrwg. Fel ein Creawdwr doeth a grymus, does dim rhaid iddo esbonio ei resymau inni. Sut bynnag, oherwydd ei gariad y mae’n dewis gwneud hynny. Byddwch yn dysgu mwy am y rhesymau hyn ym Mhennod 11. Ond gallwch fod yn hollol sicr nad Duw sy’n gyfrifol am y problemau rydyn ni’n eu hwynebu. I’r gwrthwyneb, ef yw’r unig obaith am atebion llwyddiannus!—⁠Eseia 33:2.

10. Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Duw yn dad-wneud pob effaith drygioni?

10 Ar ben hynny, mae Duw yn sanctaidd. (Eseia 6:3) Golyga hyn ei fod yn bur ac yn lân. Does dim arlliw o ddrygioni yn perthyn iddo. Felly, gallwn ymddiried ynddo yn llwyr. Yn sicr, allwn ni ddim dweud hynny am ddynolryw sydd weithiau yn troi’n llwgr. Does gan hyd yn oed yr unigolyn mwyaf gonest mewn awdurdod mo’r grym i ddad-wneud y difrod a achosir gan bobl ddrwg. Ond mae Duw yn hollalluog. Mae’r grym ganddo ef i ddad-wneud holl effeithiau drygioni ar ddynolryw a dyna’n sicr a wna. Pan fydd Duw yn gweithredu, fe fydd yn gwneud hynny mewn modd a fydd yn rhoi terfyn ar ddrygioni am byth!—⁠Darllenwch Salm 37:9-11.

SUT MAE DUW YN TEIMLO AM YR ANGHYFIAWNDER RYDYN NI’N EI WYNEBU?

11. (a) Sut mae Duw’n teimlo am anghyfiawnder? (b) Sut mae Duw’n teimlo am eich dioddefaint chi?

11 Yn y cyfamser, sut mae Duw yn teimlo am yr hyn sy’n digwydd yn y byd ac yn eich bywyd chi? Wel, mae’r Beibl yn dysgu bod Duw yn “caru barn.” (Salm 37:28) Felly y mae ganddo ef ddiddordeb mawr yn yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg. Mae ef yn casáu pob math o anghyfiawnder. Yn ôl y Beibl, pan welodd Duw fod yr hen fyd gynt yn llawn drygioni, “gofidiodd yn fawr.” (Genesis 6:5, 6) Dydy Duw ddim wedi newid. (Malachi 3:6) Mae’n dal i gasáu pob dioddefaint sy’n digwydd yn y byd. Mae’n gas gan Dduw  weld pobl yn dioddef. “Y mae gofal ganddo amdanoch,” dywed y Beibl.—⁠Darllenwch 1 Pedr 5:7.

Mae’r Beibl yn dysgu mai Jehofa yw Creawdwr cariadus y bydysawd

12, 13. (a) Pam mae gennym briodoleddau da fel cariad, a sut mae cariad yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n edrych ar y byd? (b) Pam medrwch chi fod yn sicr y bydd Duw yn bendant yn gwneud rhywbeth am broblemau’r byd?

12 Sut gallwn ni fod yn sicr fod Duw yn casáu gweld dioddefaint? Dyma dystiolaeth bellach. Mae’r Beibl yn dysgu bod dyn wedi ei greu ar ddelw Duw. (Genesis 1:26) Felly, mae gennyn ni briodoleddau da oherwydd bod gan Dduw briodoleddau da. Er enghraifft, a ydy gweld pobl ddiniwed yn dioddef yn eich poeni chi? Os ydy’r fath anghyfiawnder yn eich poeni chi, byddwch yn sicr fod Duw yn teimlo yn gryfach fyth amdano.

13 Un o’r pethau gorau amdanon ni, fodau dynol, yw ein gallu i garu. Mae hynny hefyd yn adlewyrchu Duw. Yn ôl y Beibl, “cariad yw Duw.” (1 Ioan 4:8) Rydyn ni’n caru oherwydd bod Duw yn caru. A fyddai cariad yn eich ysgogi chi i roi terfyn ar y dioddef a’r anghyfiawnder a welwch yn y byd? Petai’r pŵer gennych, a fyddech chi yn gwneud hynny? Wrth gwrs y byddech! Gallwch fod yr un mor sicr y bydd Duw yn dileu dioddefaint ac anghyfiawnder. Nid breuddwydion ofer na gobeithion gwag mo’r addewidion y mae sôn amdanyn nhw yn rhagair y llyfr hwn. Bydd addewidion Duw yn sicr o gael eu gwireddu! Ond er mwyn i chi rhoi eich ffydd mewn addewidion o’r fath y mae’n rhaid i chi wybod mwy am y Duw a’u gwnaeth.

 MAE DUW AM I CHI EI ADNABOD

Os ydych chi eisiau i rywun ddod i’ch adnabod chi, oni fyddwch chi’n dweud eich enw? Mae Duw yn datgelu ei enw inni yn y Beibl

14. Beth yw enw Duw, a pham dylen ni ei ddefnyddio?

14 Os ydych chi eisiau i rywun ddod i’ch adnabod chi, beth byddwch yn ei wneud? Oni fyddwch chi’n dweud eich enw wrthyn nhw? Oes gan Dduw enw? Yn ôl llawer o grefyddau, “Duw” neu “Arglwydd” yw ei enw ond nid enwau personol mo’r geiriau hyn. Teitlau ydy’r rhain yn union fel “brenin” ac “arlywydd.” Mae’r Beibl yn dysgu bod gan Dduw lawer o deitlau gyda “Duw” ac “Arglwydd” yn eu plith. Sut bynnag, mae’r Beibl hefyd yn dysgu bod gan Dduw enw personol: Jehofa. Yn ôl Salm 83:18: “Tydi, yr  hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt oruchaf ar yr holl ddaear.” (Y Beibl Cysegr-lân) Os nad ydy’r enw hwn yn ymddangos yn eich cyfieithiad chi o’r Beibl, cyfeiriwch at yr erthygl “Yr Enw Dwyfol—⁠Ei Ddefnydd a’i Ystyr,” sydd i’w gweld yn yr Atodiad o’r llyfr hwn i ddysgu’r rheswm pam. Y gwir yw bod enw Duw yn ymddangos filoedd o weithiau mewn hen lawysgrifau’r Beibl. Felly, mae Jehofa am ichi wybod ei enw a’i ddefnyddio. Mewn ffordd, mae’n defnyddio’r Beibl i’w gyflwyno ei hun ichi.

15. Beth yw ystyr yr enw Jehofa?

15 Rhoddodd Duw enw sy’n llawn ystyr iddo’i hun. Mae ei enw, Jehofa, yn golygu bod Duw yn medru cyflawni pob un o’i addewidion ac yn medru rhoi ar waith unrhyw fwriad sydd ganddo. * Mae enw Duw yn unigryw, yr unig un o’i  fath. Iddo ef yn unig y mae’n perthyn. Mewn sawl ffordd, mae Jehofa yn unigryw. Sut felly?

16, 17. Beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o’r teitlau canlynol: (a) “yr Hollalluog”? (b) “Brenin tragwyddoldeb”? (c) “Creawdwr”?

16 Mae Salm 83:18 yn dweud am Jehofa: “Ti yn unig . . . yw’r Goruchaf.” Yn yr un modd, Jehofa yn unig sy’n dwyn y teitl “yr Hollalluog.” Dywed Datguddiad 15:3: “Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd o Arglwydd Dduw hollalluog, cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, O Frenin y cenhedloedd.” Mae’r teitl “yr Hollalluog” yn ein dysgu mai Jehofa yw’r bod mwyaf grymus sydd. Mae ei rym heb ei ail; y pŵer mwyaf sydd. Yn 1 Timotheus 1:17, gelwir Jehofa yn “Frenin tragwyddoldeb.” Mae’r teitl hwn yn ein hatgoffa ni fod Jehofa yn unigryw mewn ystyr arall, hynny yw, ef yn unig sydd wedi bodoli erioed. Dywed Salm 90:2: “O dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ti sydd Dduw.” Onid yw’r syniad hwnnw yn un syfrdanol?

17 Mae Jehofa hefyd yn unigryw gan mai ef yn unig yw’r Creawdwr. Fel hyn mae Datguddiad 4:11 yn darllen: “Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, oherwydd tydi a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crëwyd hwy.” Beth bynnag y gallwch feddwl amdano—⁠y bodau ysbrydol anweledig yn y nefoedd, y sêr sy’n llenwi awyr y nos, y ffrwythau sy’n tyfu ar y coed a’r pysgod sy’n nofio yn y cefnforoedd a’r afonydd—⁠mae’r pethau hyn i gyd yn bodoli oherwydd Jehofa yw’r Creawdwr!

ALLWCH CHI FOD YN AGOS AT JEHOFA?

18. Pam mae rhai pobl yn teimlo na fedran nhw fyth dod yn agos at Dduw, ond beth mae’r Beibl yn ei ddysgu?

18 Bydd darllen am briodoleddau godidog Jehofa yn gwneud i rai pobl deimlo ychydig yn anesmwyth. Mae arnyn nhw ofn fod Duw yn rhy uchel, ac na allan nhw fyth agosáu ato a theimlo eu bod nhw o bwys i Dduw sydd mor ddyrchafedig. Ond, ydy’r syniad hwn yn iawn? I’r gwrthwyneb, mae’r Beibl yn dweud hyn am Jehofa: “Eto nid yw ef nepell oddi  wrth yr un ohonom.” (Actau 17:27) Mae’r Beibl yn ein cymell ni: “Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.”—⁠Iago 4:8.

19. (a) Sut medrwn ni ddechrau agosáu at Dduw a pha les gawn ni o ganlyniad? (b) Pa briodoleddau Duw sy’n apelio fwyaf atoch chi?

19 Sut gallwch chi nesáu at Dduw? I ddechrau, parhewch i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud nawr—dysgu am Dduw. Dywedodd Iesu: “A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.” (Ioan 17:3) Ydy, mae’r Beibl yn dweud bod dysgu am Jehofa a Iesu yn arwain at ‘fywyd tragwyddol.’ Fel y nodwyd eisoes, “Cariad yw Duw.” (1 Ioan 4:16) Mae gan Jehofa hefyd lu o briodoleddau hyfryd ac apelgar. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn Dduw “trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb.” (Exodus 34:6) Mae “yn dda a maddeugar.” (Salm 86:5) Mae Duw yn amyneddgar. (2 Pedr 3:9) Mae ef yn ffyddlon. (1 Corinthiaid 1:9) Wrth ichi ddarllen mwy o’r Beibl, byddwch yn gweld sut mae Jehofa wedi dangos y priodoleddau hyn a llawer eraill yr un mor ddeniadol.

20-22. (a) A yw’r ffaith na allwn ni weld Duw yn ein rhwystro ni rhag dod yn agos ato? Eglurwch. (b) Beth gall rhai pobl sydd â bwriadau da eich annog i’w wneud, ond beth dylech chi ei wneud?

20 Yn wir, ni allwch chi weld Duw, oherwydd ei fod yn Ysbryd anweledig. (Ioan 1:18; 4:24; 1 Timotheus 1:17) Sut bynnag, wrth ddysgu amdano drwy bori tudalennau’r Beibl, gallwch ddod i’w adnabod yn bersonol. Fel y dywedodd y Salmydd, fe allwch “edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD.” (Salm 27:4; Rhufeiniaid 1:20) Wrth i chi ddysgu mwy am Jehofa, bydd ef yn dod yn fwy byw i chi a bydd mwy o reswm gennych chi wedyn i’w garu a theimlo’n agos ato.

Mae’r cariad sydd gan dad da tuag at ei blant yn adlewyrchu’r cariad mwyaf sydd gan ein Tad nefol tuag aton ni

21 Fe ddewch i ddeall pam mae’r Beibl yn ein dysgu ni i feddwl am Jehofa fel Tad inni. (Mathew 6:9) Nid yn unig y mae ein bywyd yn dod oddi wrtho ef ond mae’n awyddus inni gael y bywyd gorau posibl—yn union fel y byddai unrhyw dad yn dymuno i’w blant. (Salm 36:9) Hefyd, mae’r Beibl yn dysgu y gall unigolion ddod yn ffrindiau i  Jehofa. (Iago 2:23) Dychmygwch—gallwch ddod yn ffrind i Greawdwr y bydysawd!

22 Wrth ichi ddysgu mwy o’r Beibl, fe allai rhai pobl sy’n llawn bwriadau da geisio eich perswadio’n gryf i roi’r gorau i’r astudiaethau hyn. Efallai byddan nhw’n poeni y byddwch chi’n cefnu ar yr hyn rydych chi’n credu ynddo. Ond, da chi, peidiwch â gadael i neb eich rhwystro chi rhag creu’r cyfeillgarwch gorau y medrwch ei gael.

23, 24. (a) Pam dylech chi barhau i ofyn cwestiynau am yr hyn rydych chi’n ei ddysgu? (b) Beth yw pwnc y bennod nesaf?

23 Wrth gwrs, fe fydd rhai pethau na fyddwch yn eu deall ar y cychwyn. Gall gofyn am help wneud i rywun deimlo braidd yn fach ond peidiwch â dal yn ôl oherwydd embaras. Dywedodd Iesu mai peth da yw bod yn ostyngedig, yn debyg i blentyn bach. (Mathew 18:2-4) Ac mae plant, fel y gwyddon ni, yn gofyn llawer iawn o gwestiynau. Mae Duw eisiau ichi ddod o hyd i’r atebion. Mae’r Beibl yn canmol rhai a oedd yn awyddus i ddysgu am Dduw. Roedden nhw’n chwilio’r Ysgrythurau yn ofalus i sicrhau eu bod nhw’n dysgu’r gwirionedd.—⁠Darllenwch Actau 17:11.

24 Rhoi sylw manwl i’r Beibl yw’r ffordd orau i ddysgu am Jehofa. Mae’n wahanol i bob un llyfr arall. Ym mha ffordd? Bydd y bennod nesaf yn ystyried y pwnc hwnnw.

^ Par. 15 Cewch hyd i ragor o wybodaeth am ystyr ac ynganiad enw Duw yn yr erthygl “Yr Enw Dwyfol—Ei Ddefnydd a’i Ystyr,” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.