Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

 ATODIAD

A Ddylai Cristnogion Ddefnyddio’r Groes Wrth Addoli?

A Ddylai Cristnogion Ddefnyddio’r Groes Wrth Addoli?

MAE gan filiynau o bobl gariad a pharch mawr tuag at y groes. Yn ôl The Encyclopædia Britannica, y groes yw “prif symbol y grefydd Gristnogol.” Serch hynny, nid yw gwir Gristnogion yn defnyddio’r groes wrth addoli. Pam felly?

Un rheswm pwysig yw’r ffaith nad ar groes y bu farw Iesu. Y gair Groeg a gyfieithir yn gyffredinol gan y gair “croes” yw staw·rosʹ. Ei ystyr sylfaenol yw “polyn neu stanc ar ei sefyll.” Mae’r Companion Bible yn gwneud y sylw hwn: “Nid yw [staw·rosʹ] byth yn golygu dau ddarn o bren wedi eu gosod ar draws ei gilydd ar ongl o unrhyw fath . . . Nid oes dim yng Ngroeg y [Testament Newydd] sydd hyd yn oed yn awgrymu dau ddarn o goedyn.”

Mewn sawl testun, mae ysgrifenwyr y Beibl yn defnyddio gair arall am yr hyn a ddefnyddiwyd i ladd Iesu. Y gair Groeg xuʹlon yw hwn. (Actau 5:30; 10:39; 13:29; Galatiaid 3:13) Yn syml,  ystyr y gair hwn yw “darn o goedyn” neu “ffon, pastwn, pren neu goeden.”

Gan esbonio pam mai stanc syml oedd yn cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer dienyddio, mae’r llyfr Das Kreuz und die Kreuzigung (Y Groes a’r Croeshoeliad), gan Hermann Fulda, yn datgan: “Nid oedd coed ar gael ymhob man lle’r oedd dienyddio cyhoeddus yn digwydd. Felly, roedd trawst syml yn cael ei suddo i’r ddaear. Ar hwnnw byddai dwylo’r troseddwyr yn cael eu clymu neu eu hoelio ar i fyny ac weithiau byddai eu traed yn cael eu clymu neu eu hoelio hefyd.”

Ond, mae’r dystiolaeth fwyaf argyhoeddiadol yn dod o Air Duw. Mae’r apostol Paul yn dweud: “Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae’n ysgrifenedig: ‘Melltith ar bob un a grogir ar bren!’” (Galatiaid 3:13) Yma mae Paul yn dyfynnu Deuteronomium 21:22, 23, sydd yn amlwg yn cyfeirio at bren, nid croes. O gael ei ddienyddio yn y dull hwn, daeth yr unigolyn yn “wrthrych melltith,” felly, ni fyddai’n briodol i Gristnogion addurno’r cartref â delweddau o Grist ar y pren.

Am y tri chan mlynedd cyntaf wedi marwolaeth Crist, nid oes dim tystiolaeth i’r rhai oedd yn honni bod yn Gristnogion ddefnyddio’r groes wrth addoli. Ond, yn y bedwaredd ganrif, cafodd yr Ymerawdwr paganaidd Cystennin dröedigaeth at Gristnogaeth wrthgiliol ac fe aeth ati i hyrwyddo’r groes fel symbol ohoni. Beth bynnag oedd cymhellion Cystennin, nid oedd a wnelo’r groes dim â Iesu Grist. Y gwir yw, tarddiad paganaidd sydd i’r groes. Mae’r New Catholic Encyclopedia yn cyfaddef: “Mae’r groes i’w chael mewn diwylliannau cyn-Gristnogol a di-Gristnogol fel ei gilydd.” Mae amryw arbenigwyr yn y maes wedi cysylltu’r groes ag addoli natur a defodau rhyw paganaidd.

Pam, felly, y cafodd y symbol paganaidd hwn ei hyrwyddo? Yn ôl pob golwg, i’w gwneud hi’n haws i baganiaid dderbyn “Cristnogaeth.” Er hynny, mae defosiwn i unrhyw symbol paganaidd yn bendant yn cael ei gondemnio yn y Beibl. (2 Corinthiaid 6:14-18) Mae’r Ysgrythurau hefyd yn gwahardd pob ffurf ar eilunaddoliaeth. (Exodus 20:4, 5; 1 Corinthiaid 10:14)  Am resymau da, felly, nid yw gwir Gristnogion yn defnyddio’r groes wrth addoli. *

^ Par. 5 Am drafodaeth fwy manwl ar y groes, gweler tudalennau 89-93 y llyfr Reasoning From the Scriptures, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.