Cyntaf Ioan 5:1-21

  • Ffydd yn Iesu yn concro’r byd (1-12)

    • Beth mae caru Duw yn ei olygu (3)

  • Hyder yng ngrym gweddi (13-17)

  • Bod yn wyliadwrus mewn byd drwg (18-21)

    • Y byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg (19)

5  Mae pob un sy’n credu mai Iesu yw’r Crist yn blentyn i Dduw, ac mae pob un sy’n caru’r Tad, Duw, yn caru plant Duw.  Dyma sut rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n caru plant Duw, pan fyddwn ni’n caru Duw ac yn cadw ei orchmynion.  Oherwydd dyma beth mae caru Duw yn ei olygu, ein bod ni’n cadw ei orchmynion; ac eto dydy ei orchmynion ddim yn feichus,  oherwydd bod pawb sydd wedi cael ei eni o Dduw yn concro’r byd. A hon yw’r fuddugoliaeth sydd wedi concro’r byd: ein ffydd ni.  Pwy sy’n gallu concro’r byd? Onid yr un sydd â ffydd mai Iesu yw Mab Duw?  Hwn yw’r un a ddaeth drwy gyfrwng dŵr a gwaed, Iesu Grist, nid â’r dŵr yn unig, ond â’r dŵr ac â’r gwaed. Ac mae’r ysbryd yn tystiolaethu, oherwydd yr ysbryd yw’r gwir.  Oherwydd mae ’na dri pheth sy’n datgelu’r gwir am Iesu:  yr ysbryd a’r dŵr a’r gwaed; ac mae’r tri yn gytûn.  Os ydyn ni’n derbyn tystiolaeth dynion, mae tystiolaeth Duw yn fwy. Oherwydd dyma’r dystiolaeth mae Duw’n ei rhoi, y dystiolaeth mae ef wedi ei rhoi am ei Fab. 10  Mae gan y person sy’n rhoi ei ffydd ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo ef ei hun. Mae’r person sydd heb ffydd yn Nuw wedi ei wneud ef yn gelwyddog, gan nad yw wedi rhoi ei ffydd yn y dystiolaeth a roddodd Duw ynglŷn â’i Fab. 11  A dyma’r dystiolaeth, bod Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol inni, ac mae’r bywyd hwn yn ei Fab. 12  Mae gan yr un sy’n derbyn y Mab y bywyd hwn; yr un sydd ddim yn derbyn Mab Duw, dydy’r bywyd hwn ddim ganddo. 13  Rydw i’n ysgrifennu’r pethau hyn atoch chi er mwyn ichi wybod bod gynnoch chi fywyd tragwyddol, chi sydd wedi rhoi eich ffydd yn enw Mab Duw. 14  A dyma’r hyder* sydd gynnon ni tuag ato: beth bynnag rydyn ni’n gofyn amdano yn ôl ei ewyllys, mae’n ein clywed ni. 15  Ac os ydyn ni’n gwybod ei fod yn gwrando arnon ni ynglŷn â beth bynnag rydyn ni’n gofyn amdano, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i gael y pethau rydyn ni’n gofyn amdanyn nhw, gan ein bod ni wedi gofyn iddo ef amdanyn nhw. 16  Os ydy rhywun yn gweld ei frawd yn cyflawni pechod sydd ddim yn haeddu marwolaeth, bydd ef yn gofyn, a bydd Duw yn rhoi bywyd iddo, yn wir, fe fydd yn rhoi bywyd i’r rhai sydd ddim yn cyflawni pechod sy’n haeddu marwolaeth. Mae ’na bechod sy’n haeddu marwolaeth. Dydw i ddim yn gofyn i unrhyw un weddïo ynglŷn â phechod o’r fath. 17  Mae pob anghyfiawnder yn bechod, ac eto mae ’na bechod sydd ddim yn haeddu marwolaeth. 18  Rydyn ni’n gwybod dydy pob un sydd wedi cael ei eni o Dduw ddim yn dal ati i bechu, ond mae’r un sydd wedi cael ei eni o Dduw* yn ei wylio, a dydy’r un drwg ddim yn gallu cael gafael arno. 19  Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n dod o Dduw, ond mae’r byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg. 20  Ond rydyn ni’n gwybod bod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi rhoi dealltwriaeth* inni er mwyn inni allu cael gwybodaeth am yr un sy’n wir. Ac rydyn ni mewn undod â’r un sy’n wir, drwy gyfrwng ei Fab Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw a ffynhonnell bywyd tragwyddol. 21  Blant bach, cadwch draw oddi wrth eilunod.

Troednodiadau

Neu “hyder i siarad.”
Hynny yw, Iesu Grist, Mab Duw.
Llyth., “dirnadaeth feddyliol; gallu deallusol.”