Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 26

Pam Mae Drygioni a Dioddefaint yn y Byd?

Pam Mae Drygioni a Dioddefaint yn y Byd?

Pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd, cwestiwn naturiol yw: “Pam?” Gallwn fod yn hapus bod y Beibl yn rhoi atebion clir i’r cwestiwn hwnnw!

1. Sut gwnaeth Satan ddod â drygioni i’r byd?

Gwrthryfelodd Satan y Diafol yn erbyn Duw. Roedd Satan eisiau rheoli dros eraill, felly dylanwadodd ar Adda ac Efa i ddilyn ei esiampl a gwrthryfela hefyd. Fe wnaeth hyn drwy ddweud celwydd wrth Efa. (Genesis 3:1-5) Gwnaeth iddi feddwl bod Jehofa yn dal rhywbeth yn ôl a fyddai’n gwneud bywyd yn well iddi. Awgrymodd y byddai pobl yn hapusach o beidio ag ufuddhau i Dduw. Dywedodd Satan wrth Efa na fyddai hi’n marw. Hwn oedd y celwydd cyntaf a dyna pam mae’r Beibl yn dweud bod Satan “yn gelwyddog ac yn dad i gelwydd!”—Ioan 8:44.

2. Beth oedd penderfyniad Adda ac Efa?

Roedd Jehofa yn hael iawn wrth Adda ac Efa. Dywedodd fod hawl iddyn nhw fwyta o bob un goeden yng Ngardd Eden ac eithrio un. (Genesis 2:15-17) Serch hynny, penderfynon nhw fwyta ffrwyth y goeden honno hefyd. Efa oedd y gyntaf i gymryd “peth o’i ffrwyth” a’i fwyta. Yn nes ymlaen, gwnaeth Adda fwyta’r ffrwyth hefyd. (Genesis 3:6) Roedd y ddau yn anufudd i Dduw. Gan fod Adda ac Efa yn berffaith, byddai gwneud y peth iawn yn dod yn naturiol iddyn nhw. Ond drwy ddewis bod yn anufudd, gwnaethon nhw bechu a gwrthod awdurdod Duw. Roedd canlyniadau’r penderfyniad hwnnw yn boenus iawn.​—Genesis 3:16-19.

3. Sut mae penderfyniad Adda ac Efa wedi effeithio arnon ni?

Pan bechodd Adda ac Efa, daethon nhw’n amherffaith. Ar ôl hynny, dim ond bywyd amherffaith roedden nhw’n gallu ei drosglwyddo i’w disgynyddion. Mae’r Beibl yn dweud am Adda: “Daeth pechod i’r byd trwy un dyn, a daeth marwolaeth drwy bechod. Felly lledaenodd marwolaeth i bawb.”​—Rhufeiniaid 5:12.

Mae nifer o resymau pam rydyn ni’n dioddef. Weithiau rydyn ni’n dioddef oherwydd ein penderfyniadau gwael. Weithiau rydyn ni’n dioddef oherwydd penderfyniadau drwg pobl eraill. Weithiau rydyn ni’n dioddef am ein bod ni yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir.​—Darllenwch Pregethwr 9:11.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch pam nad Duw sy’n gyfrifol am yr holl ddrygioni a dioddefaint yn y byd heddiw, a sut mae’n teimlo o’n gweld ni’n dioddef.

4. Yr un sy’n gyfrifol am ein dioddefaint

Mae llawer o bobl yn credu mai Duw sy’n rheoli’r holl fyd. Ydy hynny’n wir? Gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch Iago 1:13 a 1 Ioan 5:19, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Ai Duw sy’n gyfrifol am y dioddefaint a’r drygioni yn y byd?

5. Ystyriwch beth sydd wedi digwydd o dan reolaeth Satan

Darllenwch Genesis 3:1-6, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa gelwydd a ddywedodd Satan?​—Gweler adnodau 4 a 5.

  • Sut awgrymodd Satan fod Jehofa yn dal rhywbeth da yn ôl rhag bodau dynol?

  • Yn ôl Satan, a oes rhaid i bobl ufuddhau i Jehofa er mwyn bod yn hapus?

Darllenwch Pregethwr 8:9, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Heb lywodraeth Jehofa, beth sydd wedi digwydd i’r byd?

  1. Roedd Adda ac Efa yn berffaith ac yn byw ym Mharadwys. Ond gwrandawon nhw ar Satan a gwrthryfela yn erbyn Jehofa

  2. Ar ôl i Adda ac Efa wrthryfela, ymledodd pechod, dioddefaint, a marwolaeth i’r byd i gyd

  3. Bydd Jehofa yn dod â phechod, dioddefaint, a marwolaeth i ben. Unwaith eto, bydd pobl yn berffaith ac yn byw ym Mharadwys

6. Mae Jehofa yn gweld ein dioddefaint ac eisiau ein helpu

Ydy Duw yn ddall i’r pethau rydyn ni’n eu dioddef? Ystyriwch beth ddywedodd y Brenin Dafydd a’r apostol Pedr. Darllenwch Salm 31:7 a 1 Pedr 5:7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut rydych chi’n teimlo o wybod bod Jehofa yn sylwi arnon ni ac eisiau ein helpu pan fyddwn ni’n dioddef?

7. Bydd Duw yn rhoi terfyn ar bob dioddefaint

Darllenwch Eseia 65:17 a Datguddiad 21:3, 4, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam y mae’n gysur gwybod y bydd Jehofa yn dileu effeithiau’r holl bethau drwg sydd wedi digwydd i fodau dynol?

Oeddech chi’n gwybod?

Pan ddywedodd Satan y celwydd cyntaf, roedd yn pardduo enw da Jehofa fel Brenin teg a chariadus. Yn fuan iawn, bydd Jehofa yn dod â dioddefaint i ben a chlirio ei enw. Hynny yw, fe fydd yn profi mai ei ffordd ef o lywodraethu sydd orau. Mae adfer enw da Jehofa yn un o’r materion pwysicaf yn y bydysawd.​—Mathew 6:9, 10.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae dioddefaint yn rhan o fwriad Duw ar ein cyfer.”

  • Beth fyddech chi’n ei ddweud?

CRYNODEB

Satan y Diafol a’r bodau dynol cyntaf sy’n bennaf gyfrifol am y drygioni yn y byd. Mae Jehofa yn gweld ein dioddefaint ac eisiau ein helpu. Yn fuan iawn, fe fydd yn dileu dioddefaint yn gyfan gwbl.

Adolygu

  • Pa gelwydd a ddywedodd Satan y Diafol wrth Efa?

  • Sut mae gwrthryfel Adda ac Efa wedi effeithio ar bob un ohonon ni?

  • Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn gweld ein dioddefaint ac eisiau ein helpu?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch sut mae’r Beibl yn diffinio pechod.

“Beth Ydy Pechod?” (Erthygl ar jw.org)

Darllenwch fwy am yr her a gododd Satan y Diafol yng Ngardd Eden.

“Pam Mae Duw yn Gadael Inni Ddioddef?” (Y Tŵr Gwylio, Ionawr 1, 2014)

Gwelwch beth mae un dyn wedi ei ddysgu am y dioddefaint o’i gwmpas.

Bellach Dydw i Ddim ar Fy Mhen Fy Hun (5:09)