Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 19

Ydy Tystion Jehofa yn Wir Gristnogion?

Ydy Tystion Jehofa yn Wir Gristnogion?

Mae Tystion Jehofa yn credu eu bod nhw’n wir Gristnogion. Pam? Ystyriwch y sail i’w credoau, eu henw unigryw, a’u cariad tuag at ei gilydd.

1. Beth yw sail credoau Tystion Jehofa?

Dywedodd Iesu am Dduw: “Dy air di ydy’r gwir.” (Ioan 17:​17) Fel Iesu, mae Tystion Jehofa wastad wedi seilio eu credoau ar Air Duw. Ystyriwch ein hanes yn yr oes fodern. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, aeth grŵp o bobl ati i astudio’r Beibl yn ofalus. Fe wnaethon nhw seilio eu credoau ar beth oedd yn y Beibl, hyd yn oed pan oedd y credoau hynny yn wahanol i ddysgeidiaeth yr eglwysi. Yna dechreuon nhw rannu ffrwyth eu hymchwil â phobl eraill. a

2. Pam rydyn ni’n defnyddio’r enw Tystion Jehofa?

Mae Jehofa yn galw ei addolwyr yn dystion gan eu bod nhw’n dweud y gwir amdano. (Hebreaid 11:4–12:1) Er enghraifft, flynyddoedd maith yn ôl, dywedodd Duw wrth ei bobl: “Chi ydy fy nhystion i.” (Darllenwch Eseia 43:10.) Enw arall ar Iesu yw “y Tyst Ffyddlon.” (Datguddiad 1:5) Felly, ym 1931 dewison ni’r enw Tystion Jehofa, enw rydyn ni’n falch o’i ddwyn.

3. Sut mae Tystion Jehofa yn efelychu cariad Iesu?

Roedd Iesu’n caru ei ddisgyblion. Roedden nhw fel teulu iddo. (Darllenwch Marc 3:35.) Yn yr un modd, mae Tystion Jehofa yn deulu unedig byd-eang. Dyna pam rydyn ni’n galw ein gilydd yn frodyr a chwiorydd. (Philemon 1, 2) Rydyn ni hefyd yn ufuddhau i’r gorchymyn: “Carwch yr holl frawdoliaeth.” (1 Pedr 2:​17) Mae Tystion Jehofa yn dangos eu cariad mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft, maen nhw’n helpu eu brodyr a chwiorydd o gwmpas y byd pan fyddan nhw mewn angen.

CLODDIO’N DDYFNACH

Edrychwch yn fanylach ar hanes Tystion Jehofa i weld mwy o dystiolaeth ein bod ni’n wir Gristnogion.

Mae gwir Gristnogion yn seilio eu credoau ar y Beibl ac yn eu rhannu ag eraill

4. Rydyn ni’n seilio ein credoau ar y Beibl

Dywedodd Jehofa y byddai ein dealltwriaeth o’r Beibl yn gwella. Darllenwch Daniel 12:4, BCND, a’r troednodyn, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth a fyddai’n cynyddu ymhlith pobl Dduw wrth iddyn nhw barhau i astudio’r Beibl?

Ystyriwch sut roedd grŵp o bobl, gan gynnwys Charles Russell, yn astudio Gair Duw. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Yn y fideo, pa ddull oedd Charles Russell a Myfyrwyr y Beibl eraill yn ei ddefnyddio i astudio’r Beibl?

Oeddech chi’n gwybod?

O bryd i’w gilydd, rydyn ni wedi cywiro rhai o’n daliadau. Pam? Fel mae’r wawr yn goleuo’r tir yn raddol, felly mae Duw yn datgelu mwy am ei Air yn raddol. (Darllenwch Diarhebion 4:18.) Felly er nad yw’r Beibl yn newid, rydyn ni’n addasu ein daliadau wrth inni ddeall y Beibl yn well.

5. Rydyn ni’n byw yn unol â’n henw

Pam dewison ni’r enw Tystion Jehofa? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Pam mae’r enw Tystion Jehofa yn addas?

Pam mae Jehofa wedi dewis pobl i fod yn dystion iddo? Gan fod cynifer o gelwyddau am Dduw, mae Jehofa wedi dewis pobl i dystio mai ef yw’r gwir Dduw. Ystyriwch ddau o’r celwyddau hynny.

Mae rhai crefyddau’n dysgu bod Duw am i bobl ddefnyddio delwau i’w addoli. Sut bynnag, darllenwch Lefiticus 26:1, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth yw’r gwir? Sut mae Jehofa’n teimlo am eilunod?

Mae rhai crefyddau yn dysgu bod Duw ac Iesu’n un person. Sut bynnag, darllenwch Ioan 20:17, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth yw’r gwir? Ai un person yw Duw ac Iesu?

  • Sut mae gwybod bod Jehofa wedi anfon ei Dystion i rannu’r gwir amdano ef a’i Fab yn gwneud ichi deimlo?

6. Rydyn ni’n caru ein gilydd

Mae’r Beibl yn cymharu Cristnogion â’r gwahanol rannau o’r corff dynol. Darllenwch 1 Corinthiaid 12:25, 26, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth dylai gwir Gristnogion ei wneud pan fydd Cristnogion eraill yn dioddef?

  • Beth rydych chi wedi ei weld am y cariad ymhlith Tystion Jehofa?

Pan fydd Tystion Jehofa mewn un rhan o’r byd yn dioddef, bydd Tystion eraill ar draws y byd yn ymateb yn syth. I weld un enghraifft, gwyliwch y FIDEO. Yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Sut mae’r cymorth y mae Tystion Jehofa yn ei roi ar ôl trychinebau yn dangos eu cariad?

Mae gwir Gristnogion yn dangos cariad tuag at bobl mewn angen

BYDD RHAI YN DWEUD: “Crefydd newydd yw Tystion Jehofa.”

  • Ers pryd mae Jehofa wedi galw ei addolwyr yn dystion?

CRYNODEB

Mae Tystion Jehofa yn wir Gristnogion. Rydyn ni’n deulu byd-eang o addolwyr sy’n seilio ein credoau ar y Beibl ac sy’n cyhoeddi’r gwir am Jehofa.

Adolygu

  • Pam dewison ni’r enw Tystion Jehofa?

  • Sut rydyn ni’n trin ein gilydd?

  • Ydych chi’n meddwl bod Tystion Jehofa’n wir Gristnogion?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch un enghraifft o ddysgeidiaeth y mae Tystion Jehofa wedi’i phrofi’n anghywir.

Mae Pobl Dduw yn Anrhydeddu Ei Enw (7:08)

Gwelwch atebion i’ch cwestiynau am Dystion Jehofa.

“Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa” (tudalen we)

Roedd Stephen yn cymryd rhan mewn troseddau casineb. Beth a welodd ymhlith Tystion Jehofa a wnaeth iddo newid?

“Roedd Fy Mywyd yn Mynd o Ddrwg i Waeth” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2015)

a Mae ein prif gylchgrawn, Y Tŵr Gwylio, wedi cyhoeddi gwirioneddau’r Beibl yn ddi-baid ers 1879.