Datguddiad i Ioan 21:1-27

  • Nef newydd a daear newydd (1-8)

    • Dim marwolaeth mwyach (4)

    • Gwneud pob peth yn newydd (5)

  • Disgrifio Jerwsalem Newydd (9-27)

21  Ac fe welais nef newydd a daear newydd; oherwydd roedd yr hen nef a’r hen ddaear wedi diflannu, a dydy’r môr ddim yn bodoli mwyach. 2  Fe welais hefyd y ddinas sanctaidd, Jerwsalem Newydd, yn dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw ac wedi ei pharatoi fel priodferch a oedd wedi cael ei haddurno ar gyfer ei gŵr. 3  Gyda hynny, fe glywais lais uchel o’r orsedd yn dweud: “Edrychwch! Mae pabell Duw gyda dynolryw, a bydd ef yn byw gyda nhw, a byddan nhw’n bobl iddo ef. A bydd Duw ei hun gyda nhw. 4  A bydd ef yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.” 5  A dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd: “Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.” Dywedodd hefyd: “Ysgrifenna, oherwydd mae’r geiriau hyn yn ffyddlon* ac yn wir.” 6  A dywedodd wrtho i: “Maen nhw eisoes wedi digwydd! Fi ydy’r Alffa a’r Omega,* y dechrau a’r diwedd. I bwy bynnag sy’n sychedig fe fydda i’n rhoi dŵr am ddim* o ffynnon dŵr y bywyd. 7  Bydd unrhyw un sy’n concro yn etifeddu’r pethau hyn, a bydda i’n Dduw iddo ef a bydd yntau’n fab i mi. 8  Ond o ran y rhai llwfr a’r rhai heb ffydd a’r rhai sy’n ffiaidd yn eu budreddi a llofruddion a’r rhai sy’n anfoesol yn rhywiol* a’r rhai sy’n arfer ysbrydegaeth ac addolwyr eilunod a’r holl rai celwyddog, mae’r llyn sy’n llosgi â thân a sylffwr yn disgwyl amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu’r ail farwolaeth.” 9  Daeth un o’r saith angel a oedd â’r saith powlen yn llawn o’r saith pla diwethaf a dweud wrtho i: “Tyrd, ac fe wna i ddangos iti’r briodferch, gwraig yr Oen.” 10  Felly fe wnaeth fy nghario i ffwrdd yng ngrym yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi’r ddinas sanctaidd Jerwsalem yn dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw 11  ac roedd gogoniant Duw ganddi. Roedd yn disgleirio fel gem hynod o werthfawr, fel gem iasbis yn disgleirio fel grisial clir. 12  Roedd ganddi wal fawr ac uchel a 12 giât a 12 angel wrth y giatiau, ac ar y giatiau roedd enwau 12 llwyth meibion Israel wedi cael eu hysgrifennu. 13  Roedd ’na dair giât i’r dwyrain, tair giât i’r gogledd, tair giât i’r de, a thair giât i’r gorllewin. 14  Hefyd, roedd gan wal y ddinas 12 carreg sylfaen, ac arnyn nhw roedd 12 enw 12 apostol yr Oen. 15  Nawr roedd yr un a oedd yn siarad â mi yn dal corsen aur er mwyn mesur y ddinas a’i giatiau a’i wal. 16  Ac mae’r ddinas wedi ei gosod yn sgwâr, a’i hyd yn gyfartal â’i lled. Ac fe mesurodd y ddinas â’r gorsen, 12,000 stadiwm;* mae ei hyd a’i lled a’i huchder yn gyfartal. 17  Mesurodd hefyd ei wal, 144 cufydd* yn ôl mesur dyn, sydd yr un fath â mesur angel. 18  Nawr roedd y wal wedi ei gwneud o iasbis, a’r ddinas yn aur pur fel gwydr clir. 19  Roedd sylfeini wal y ddinas wedi eu haddurno â phob math o emau gwerthfawr: y sylfaen gyntaf oedd iasbis, yr ail saffir, y drydedd calsedon, y bedwaredd emrallt, 20  y bumed sardonics, y chweched sardion, y seithfed eurfaen, yr wythfed beryl, y nawfed topas, y ddegfed crysopras, yr unfed a’r ddeg hiasinth, y ddeuddegfed amethyst. 21  Hefyd, 12 perl oedd y 12 giât; pob un o’r giatiau wedi ei wneud o un perl. Ac roedd prif stryd y ddinas yn aur pur, fel gwydr tryloyw. 22  Welais i ddim teml ynddi, oherwydd Jehofa Dduw yr Hollalluog ydy ei theml, hefyd yr Oen ydy ei theml. 23  A does dim rhaid i’r haul nac i’r lleuad dywynnu arni, oherwydd bod gogoniant Duw wedi ei goleuo hi, a’i lamp oedd yr Oen. 24  A bydd y cenhedloedd yn cerdded yn ei goleuni, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â’u gogoniant i mewn iddi. 25  Ni fydd ei giatiau yn cael eu cau o gwbl yn ystod y dydd, oherwydd ni fydd nos yn bodoli yno. 26  A byddan nhw’n dod â gogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd i mewn iddi. 27  Ond ni fydd dim byd amhur ac ni fydd neb sy’n gwneud yr hyn sy’n ffiaidd ac sy’n dwyllodrus yn cael mynd i mewn iddi; dim ond y rhai sydd â’u henwau wedi eu hysgrifennu yn sgrôl bywyd yr Oen sy’n cael mynd i mewn.

Troednodiadau

^ Neu “yn ddibynadwy.”
^ Alffa ac Omega ydy’r llythyren gyntaf a’r olaf o’r wyddor Roeg.
^ Neu “heb gost.”
^ Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”
^ Tua 2,220 km (1,379 mi). Roedd stadiwm yn gyfartal â 185 m (606.95 tr).
^ Tua 64 m (210 tr).