Neidio i'r cynnwys

Pam Digwyddodd yr Holocost? Pam Na Wnaeth Duw ei Stopio?

Pam Digwyddodd yr Holocost? Pam Na Wnaeth Duw ei Stopio?

 Mae llawer o bobl sy’n gofyn y cwestiynau hyn wedi profi colled fawr ac yn edrych nid am atebion yn unig ond am gysur. Mae eraill yn gweld yr Holocost fel un o’r pethau mwyaf erchyll yn hanes dynolryw, ac maen nhw’n ei chael hi’n anodd credu yn Nuw.

Camsyniadau cyffredin am Dduw a’r Holocost

 Myth: Mae’n anghywir i ofyn pam caniataodd Duw i’r Holocost ddigwydd.

 Ffaith: Mae pobl ffyddlon iawn wedi cwestiynu pam mae Duw yn caniatáu drygioni. Er enghraifft, gofynnodd y proffwyd Habacuc i Dduw: “Pam wyt ti’n gadael i’r fath ddrygioni fynd yn ei flaen? Does dim i’w weld ond dinistr a thrais!” (Habacuc 1:3) Yn hytrach na cheryddu Habacuc, gwnaeth Duw yn siŵr bod ei gwestiynau’n cael eu cofnodi yn y Beibl i bawb eu darllen.

 Myth: Does dim ots gan Dduw pan mae pobl yn dioddef.

 Ffaith: Mae Duw yn casáu drygioni a’r dioddefaint mae’n ei achosi. (Diarhebion 6:16-19) Yn nyddiau Noa, roedd Duw “wedi ei frifo a’i ddigio” oherwydd y trais oedd yn lledaenu ar y ddaear. (Genesis 6:5, 6) Heb os, gwnaeth yr Holocost achosi llawer o boen i Dduw.—Malachi 3:6.

 Myth: Cosb Duw ar yr Iddewon oedd yr Holocost.

 Ffaith: Gadawodd Duw i Jerwsalem gael ei dinistrio gan y Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf. (Mathew 23:37–24:2) Ond ers hynny dydy Duw ddim wedi dangos ffafriaeth at unrhyw grŵp ethnig penodol na’u cosbi nhw. Yng ngolwg Duw, “mae’n union yr un fath i’r Iddew ac i bawb arall.”—Rhufeiniaid 10:12.

 Myth: Pe bai Duw cariadus a hollbwerus yn bodoli, byddai ef wedi atal yr Holocost rhag digwydd.

 Ffaith: Er nad ydy Duw byth yn achosi dioddefaint, weithiau mae’n ei ganiatáu dros dro.—Iago 1:13; 5:11.

Pam gwnaeth Duw ganiatáu i’r holocost ddigwydd?

 Gadawodd Duw i’r holocost ddigwydd am yr un rheswm y mae wedi caniatáu’r holl ddioddefaint dynol: i ateb cwestiynau pwysig a godwyd amser maith yn ôl. Mae’r Beibl yn dangos yn glir mai’r Diafol, nid Duw, sy’n rheoli’r byd ar hyn o bryd. (Luc 4:1, 2, 6; Ioan 12:31) Gall dwy ffaith syml o’r Beibl helpu i esbonio pam caniataodd Duw i’r Holocost ddigwydd.

  1.   Creodd Duw ddynolryw gydag ewyllys rhydd. Dywedodd Duw wrth Adda ac Efa, y bodau dynol cyntaf, beth roedd yn ei ddisgwyl ganddyn nhw, ond ni wnaeth eu gorfodi nhw i ufuddhau. Gwnaethon nhw’r penderfyniad i ddewis drostyn nhw eu hunain beth oedd yn dda ac yn ddrwg, ac mae eu penderfyniad drwg—a phenderfyniadau tebyg gan bobl eraill drwy gydol hanes—wedi dod â chanlyniadau trychinebus i ddynolryw. (Genesis 2:17; 3:6; Rhufeiniaid 5:12) Fel mae’r llyfr Statement of Principles of Conservative Judaism yn ei ddweud: “Mae llawer o ddioddefaint y byd yn dod yn uniongyrchol o’n camddefnydd o’r ewyllys rhydd sydd wedi ei roi inni.” Yn lle cymryd ein hewyllys rhydd oddi arnon ni, mae Duw wedi rhoi amser i bobl geisio rheoli eu hunain ar wahân iddo.

  2.   Mae Duw yn gallu dad-wneud niwed yr Holocost ac y mae am ei wneud. Mae Duw yn addo atgyfodi miliynau o bobl sydd wedi marw, gan gynnwys dioddefwyr yr Holocost. Bydd hefyd yn cael gwared ar y boen mae goroeswyr yr Holocost yn ei theimlo oherwydd yr atgofion erchyll. (Eseia 65:17; Actau 24:15) Mae cariad Duw tuag at ddynolryw yn sicrhau y bydd ei addewidion yn cael eu gwireddu.—Ioan 3:16.

 Roedd llawer o ddioddefwyr a goroeswyr yr Holocost yn gallu aros yn ffyddlon a dod o hyd i bwrpas mewn bywyd. Gwnaethon nhw hyn drwy ddeall pam mae Duw wedi caniatáu drygioni a sut mae’n bwriadu dad-wneud ei effaith.