Neidio i'r cynnwys

A Gaiff y Ddaear ei Dinistrio Ryw Ddydd?

A Gaiff y Ddaear ei Dinistrio Ryw Ddydd?

Ateb y Beibl

 Chaiff ein planed byth mo’i dinistrio, na’i llosgi, na’i chyfnewid am blaned arall. Mae’r Beibl yn dweud bod Duw wedi creu’r ddaear i fod yn gartref i’r ddynoliaeth am byth.

  •   “Mae’r rhai addfwyn . . . wedi eu bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.”—Mathew 5:5.

  •   “[Duw] wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini, er mwyn iddi beidio gwegian byth.”—Salm 104:5.

  •   “Mae’r ddaear yn aros am byth.”—Pregethwr 1:4.

  •   “Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a’i gosod yn ei lle—nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.”—Eseia 45:18.

A Fydd Dyn yn Difetha’r Ddaear yn Llwyr?

 Ni fydd Duw yn caniatáu i ddyn ddifetha’r ddaear yn llwyr drwy lygredd, rhyfel, nac unrhyw beth arall. I’r gwrthwyneb, bydd Duw yn “dinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.” (Datguddiad 11:18) Sut bydd Duw yn gwneud hynny?

 Bydd Duw yn disodli’r llywodraethau dynol sydd wedi methu gofalu am y ddaear a rhoi Teyrnas nefol berffaith yn eu lle. (Daniel 2:44; Mathew 6:9, 10) Brenin y Deyrnas honno fydd Mab Duw, Iesu Grist. (Eseia 9:6, 7) Pan oedd Iesu ar y ddaear dangosodd ei fod yn gallu rheoli grymoedd natur. (Marc 4:35-41) Fel Brenin Teyrnas Dduw, bydd gan Iesu reolaeth lawn dros y ddaear a grymoedd natur. Bydd yn adfer y ddaear, nes bod yr holl fyd yn debyg i’r hyn a fu yng ngardd Eden gynt.—Salm 37:29; Mathew 19:28.

Onid yw’r Beibl yn dweud y caiff y ddaear ei dinistrio gan dân?

 Nac ydy. Mae’r camsyniad hwn wedi ei seilio ar gamddealltwriaeth o’r adnod yn 2 Pedr 3:7 sy’n dweud bod “y nefoedd a’r ddaear bresennol wedi eu cadw i fynd drwy dân.” Ystyriwch ddau bwynt pwysig sy’n ein helpu ni i ddeall y geiriau hynny:

  1.   Yn y Beibl, mae’r geiriau “nefoedd,” “daear,” a “tân” yn cyfeirio at fwy nag un peth. Er enghraifft, mae Salm 96:1 yn dweud: “Y ddaear gyfan, canwch i’r ARGLWYDD!” Yma, mae “daear” yn cyfeirio at y gymdeithas ddynol.

  2.   Mae’r cyd-destun yn dangos beth yw ystyr y nefoedd, y ddaear, a’r tân yn 2 Pedr 3:7. Yn adnodau 5 a 6 ceir cymhariaeth â’r Dilyw yn nyddiau Noa. Bryd hynny, cafodd hen fyd ei ddinistrio, ond ni wnaeth y blaned ddiflannu. Y gymdeithas ddynol greulon oedd y “ddaear” a ddinistriwyd gan y Dilyw. (Genesis 6:11, BCND) Dinistriwyd math o “nefoedd” hefyd gan y Dilyw, sef y bobl a oedd yn rheoli’r gymdeithas ar y ddaear. Yr hyn a gafodd ei ddinistrio felly oedd nid y blaned, ond y bobl ddrwg. Fe wnaeth Noa a’i deulu oroesi, ac roedden nhw’n byw ar y ddaear ar ôl y Dilyw.—Genesis 8:15-18.

 Yn debyg i ddyfroedd y Dilyw, bydd y dinistr, neu’r “tân” y mae sôn amdano yn 2 Pedr 3:7 yn rhoi terfyn nid ar y blaned, ond ar y bobl ddrwg. Mae Duw yn addo “nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu.” (2 Pedr 3:13, BCND) Caiff y “ddaear newydd,” sef y gymdeithas ddynol newydd, ei rheoli gan y “nefoedd newydd,” sef llywodraeth newydd—Teyrnas Dduw. O dan y Deyrnas honno, caiff y ddaear ei throi’n baradwys heddychlon.—Datguddiad 21:1-4.