Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell

Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell

 A ydych chi’n optimistig am y dyfodol? Mae llawer o bobl yn ceisio cadw agwedd bositif er gwaetha’r problemau difrifol rydyn ni’n eu hwynebu heddiw. Ond ydy hi’n rhesymol inni ddisgwyl y bydd pethau’n gwella? Ydy! Mae’r Beibl yn rhoi gobaith cadarn am ddyfodol gwell.

 Pa obaith mae’r Beibl yn ei roi?

 Mae’r Beibl yn cydnabod bod dynolryw yn wynebu problemau aruthrol. Ond, mae’n addo na fyddwn ni’n gorfod diodde’r problemau hyn am byth. Ystyriwch rai esiamplau penodol.

  •   Problem: Llawer yn ddigartref

     Mae’r Beibl yn dweud: “Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw.”—Eseia 65:21.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Bydd gan bobl eu cartrefi eu hunain.

  •   Problem: Diweithdra a thlodi

     Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo.”—Eseia 65:22.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Bydd gan bawb waith sy’n dod â boddhad a llawenydd; fydd neb yn gweithio’n ofer.

  •   Problem: Anghyfiawnder

     Mae’r Beibl yn dweud: ‘Bydd tywysogion yn rheoli yn deg.’—Eseia 32:1.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Fydd pobl byth eto’n gorfod wynebu anghyfiawnder hiliol, cymdeithasol, nac economaidd. Bydd pawb yn cael eu trin yn deg.

  •   Problem: Newyn a diffyg maeth

     Mae’r Beibl yn dweud: “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”—Salm 72:16.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Bydd digonedd o fwyd iach ar gael i bawb. Fydd neb yn mynd i’w wely yn llwgu neu’n dioddef o ddiffyg maeth.

  •   Problem: Trosedd a thrais

     Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Micha 4:4.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Bydd pawb yn teimlo’n saff ac yn ddiogel oherwydd fydd ’na ddim pobl ddrwg o gwmpas. “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir.”—Salm 37:10, 29.

  •   Problem: Rhyfel

     Mae’r Beibl yn dweud: “Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.”—Eseia 2:4.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Bydd heddwch dros y byd i gyd. (Salm 72:7) Fydd neb yn gorfod galaru am eu bod nhw wedi colli anwylyn mewn rhyfel, nac yn gorfod ffoi rhag rhyfel.

  •   Problem: Salwch a heintiau

     Mae’r Beibl yn dweud: “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—Eseia 33:24.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Fydd neb bellach yn dioddef o anableddau neu’n mynd yn sâl. (Eseia 35:5, 6) Mae’r Beibl hyd yn oed yn addo “Fydd dim marwolaeth.”—Datguddiad 21:4.

  •   Problem: Niwed i’r amgylchedd

     Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.

     Beth mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol: Bydd y ddaear gyfan yn baradwys i fodau dynol byw ynddi, fel y bwriadodd Duw yn wreiddiol.—Genesis 2:15; Eseia 45:18.

 Ydy gobaith y Beibl yn rhy dda i fod yn wir?

 Mae’n hollol ddealladwy os ydych chi’n meddwl hynny. Ond, rydyn ni’n eich annog i edrych yn fanylach ar yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol. Pam? Mae addewidion y Beibl yn wahanol i’r hyn mae pobl yn ei addo a’i ragfynegi. Addewidion Duw sydd yn y Beibl. Dyma pam mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr:

  •   Mae Duw yn ddibynadwy. Mae’r Beibl yn dweud “dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd!” (Titus 1:2) Ar ben hynny, dim ond Duw sydd â’r gallu i ragfynegi’r dyfodol. (Eseia 46:10) Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o enghreifftiau sy’n profi bod yr hyn mae Duw yn ei ragfynegi wastad yn dod yn wir. Am fwy o wybodaeth, gwyliwch y fideo Sut Gallwn Ni Fod yn Sicr Fod y Beibl yn Wir?

  •   Mae gan Dduw’r gallu i ddatrys ein problemau. Mae’r Beibl yn dweud bod gan Dduw y pŵer i wneud “beth bynnag mae e eisiau.” (Salm 135:5, 6) Mewn geiriau eraill, does dim byd yn gallu rhwystro Duw rhag cyflawni ei addewidion. Ar ben hynny, mae Duw eisiau ein helpu ni am ei fod yn ein caru.—Ioan 3:16.

 Mae’n ddigon naturiol i feddwl, ‘Os ydy Duw eisiau ein helpu ni, ac mae ganddo’r pŵer i wneud hynny, pam mae gynnon ni gymaint o broblemau o hyd?’ I ateb y cwestiwn hwnnw, gwyliwch y fideo Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

 Sut bydd y gobaith hwn yn cael ei wireddu?

 Bydd Duw yn defnyddio ei Deyrnas, sef llywodraeth yn y nef, i gyflawni ei addewidion. Mae wedi penodi Iesu Grist yn Rheolwr dros y Deyrnas honno, ac mae wedi rhoi awdurdod iddo ofalu am y ddaear a’r bobl arni. Pan oedd Iesu ar y ddaear, iachaodd y rhai sâl, bwydodd y rhai oedd yn llwgu, rheolodd y tywydd, a gwnaeth ef hyd yn oed atgyfodi’r meirw. (Marc 4:39; 6:41-44; Luc 4:40; Ioan 11:43, 44) Drwy wneud hynny, dangosodd beth bydd yn ei wneud fel Brenin Teyrnas Dduw.

 Gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw? i ddysgu mwy am sut bydd Teyrnas Dduw yn eich helpu chi.

 Pryd bydd y gobaith hwn yn cael ei gyflawni?

 Yn fuan! Sut gallwn ni fod yn sicr? Mae’r Beibl wedi rhagfynegi digwyddiadau a fyddai’n dangos bod Teyrnas Dduw ar fin dechrau reoli dros y byd i gyd. (Luc 21:10, 11) Ac mae’r pethau hynny’n digwydd heddiw.

 I ddysgu mwy, darllenwch yr erthygl “Pryd Daw Teyrnas Dduw i Reoli’r Ddaear?

 Sut gall gobaith y Beibl eich helpu chi heddiw?

 Dywedodd un ysgrifennwr y Beibl fod gobaith y Beibl “fel angor i’n bywydau ni.” (Hebreaid 6:19) Fel mae angor yn sadio llong mewn storm, mae gobaith cadarn y Beibl am y dyfodol yn gallu ein helpu ni i wynebu stormydd bywyd. Gall ein gobaith amddiffyn ein sefydlogrwydd emosiynol a meddyliol, a hyd yn oed ein hiechyd corfforol.—1 Thesaloniaid 5:8.