Cymraeg
Beth Yw’r Watch Tower Bible and Tract Society?
https://cms-imgp.jw-cdn.org/img/p/502015180/univ/art/502015180_univ_sqr_xl.jpg
ijwfq erthygl 42

Beth Yw’r Watch Tower Bible and Tract Society?

Beth Yw’r Watch Tower Bible and Tract Society?

 Corfforaeth ddielw yw’r Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania a sefydlwyd ym 1884 o dan gyfraith Gwerinlywodraeth Pensylfania, Unol Daleithiau America. Fe’i defnyddir gan Dystion Jehofa i gefnogi eu gwaith byd-eang, sy’n cynnwys cyhoeddi Beiblau a llenyddiaeth sy’n seiliedig ar y Beibl.

 Yn ôl ei siarter, mae amcanion y gorfforaeth yn rhai “crefyddol, addysgiadol, ac elusennol,” a’i phrif bwrpas yw “pregethu a dysgu efengyl Teyrnas Dduw dan arweiniad Iesu Grist.” Mae aelodaeth y gorfforaeth drwy wahoddiad yn unig, ac nid yw’n seiliedig ar faint mae unigolyn wedi ei gyfrannu’n ariannol. Mae aelodau a chyfarwyddwyr y gorfforaeth yn cynorthwyo Corff Llywodraethol Tystion Jehofa.

Endidau Cyfreithiol Sy’n Cydweithredu

 Yn ogystal â’r Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania, mae Tystion Jehofa yn defnyddio dwsinau o endidau cyfreithiol mewn amryw wledydd. Mae rhai o’r endidau hyn yn cynnwys yn eu henwau termau fel “Watch Tower,” “Watchtower,” neu gyfieithiad o un o’r rhain.

 Mae’r endidau cyfreithiol hyn wedi ein galluogi i gyflawni llawer ers eu sefydlu, er enghraifft:

  •   Ysgrifennu a chyhoeddi. Rydyn ni wedi cyhoeddi rhyw 253 miliwn o Feiblau. Mae ein cyhoeddiadau ar gael mewn mwy na 1,050 o ieithoedd. Mae’r wefan jw.org yn caniatáu i bobl ddarllen y Beibl ar lein am ddim mewn mwy na 300 o ieithoedd ac i gael atebion i gwestiynau fel, “Beth yw Teyrnas Dduw?

  •   Addysg. Rydyn ni’n rhedeg gwahanol ysgolion sy’n rhoi hyfforddiant ar gynnwys y Beibl. Er enghraifft, er 1943, mae rhyw 10,000 o Dystion Jehofa wedi elwa ar hyfforddiant dwys Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower, sydd wedi eu helpu nhw i wasanaethu fel cenhadon neu i osod sylfaen dda i’n gwaith byd-eang ac yna ei gryfhau. A phob wythnos, mae miliynau o bobl, gan gynnwys rhai nad ydyn nhw’n Dystion, yn cael eu dysgu am y Beibl mewn cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal ym mhob un o’n cynulleidfaoedd. Rydyn ni hefyd yn cynnal dosbarthiadau llythrennedd ac wedi cynhyrchu gwerslyfr mewn 136 o ieithoedd sy’n dysgu pobl i ddarllen ac i ysgrifennu.

  •   Gwaith Elusennol. Rydyn ni wedi rhoi cymorth materol i’r rhai sy’n dioddef ar ôl trychinebau​—un ai rhai sydd wedi eu hachosi gan ddyn, fel yr hil-laddiad ym 1994 yn Rwanda, neu rai naturiol, fel y daeargryn yn 2010 a drawodd Haiti.

 Er bod llawer wedi ei wneud drwy gyfrwng y corfforaethau a’r endidau cyfreithiol a ddefnyddiwn, nid yw ein gwaith yn dibynnu arnyn nhw. Mae gan bob Cristion gyfrifoldeb personol i fod yn ufudd i’r gorchymyn oddi wrth Dduw i bregethu ac i ddysgu’r newyddion da. (Mathew 24:14; 28:19, 20) Credwn mai Duw sy’n cefnogi ein gwaith ac mai Ef “sy’n gwneud iddo dyfu.”—1 Corinthiaid 3:6, 7.