Yn Ôl Mathew 24:1-51

  • YR ARWYDD O BRESENOLDEB CRIST (1-51)

    • Rhyfeloedd, prinder bwyd, daeargrynfeydd (7)

    • Pregethu’r newyddion da (14)

    • Trychineb mawr (21, 22)

    • Arwydd Mab y dyn (30)

    • Y goeden ffigys (32-34)

    • Fel dyddiau Noa (37-39)

    • Aros yn wyliadwrus (42-44)

    • Y gwas ffyddlon a gwas drwg (45-51)

24  Tra oedd Iesu yn mynd allan o’r deml, daeth ei ddisgyblion ato i ddangos iddo adeiladau’r deml.  Atebodd yntau drwy ddweud wrthyn nhw: “Onid ydych chi’n gweld yr holl bethau hyn? Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ni fydd carreg yn cael ei gadael yma ar garreg ar unrhyw gyfri heb gael ei bwrw i lawr.”  Tra oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato o’r neilltu, gan ddweud: “Dyweda wrthon ni, pryd bydd y pethau hyn yn digwydd, a beth fydd yr arwydd o dy bresenoldeb* ac o gyfnod olaf y system hon?”*  Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Gwyliwch nad oes neb yn eich camarwain,  oherwydd bydd llawer yn dod ar sail fy enw i, yn dweud, ‘Fi ydy’r Crist,’ ac yn camarwain llawer.  Rydych chi’n mynd i glywed am ryfeloedd a chlywed sôn am ryfeloedd. Peidiwch â dychryn, oherwydd mae’n rhaid i’r pethau hyn ddigwydd, ond dydy’r diwedd ddim eto.  “Oherwydd bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd ’na brinder bwyd a daeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall.  Dechrau cyfnod o boen* ydy’r holl bethau hyn.  “Yna bydd pobl yn eich erlid ac yn eich lladd chi, a bydd yr holl genhedloedd yn eich casáu chi o achos fy enw i. 10  Hefyd, bydd llawer yn cael eu baglu ac yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd. 11  Bydd llawer o gau broffwydi yn codi ac yn camarwain llawer; 12  ac oherwydd bod drygioni* yn cynyddu, bydd cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri. 13  Ond bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau* hyd y diwedd yn cael ei achub. 14  A bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna bydd y diwedd yn dod. 15  “Felly, pan welwch chi’r peth ffiaidd sy’n achosi dinistr, yr hwn y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll mewn lle sanctaidd (gad i’r darllenwr ddefnyddio ei ddeall), 16  yna mae’n rhaid i’r rhai yn Jwdea ddechrau ffoi i’r mynyddoedd. 17  Mae’n rhaid i’r dyn ar ben y tŷ beidio â dod i lawr i fynd â’r eiddo allan o’i dŷ, 18  ac mae’n rhaid i’r dyn sydd yn y cae beidio â dod yn ôl i gymryd ei gôt. 19  Gwae’r merched* beichiog a’r rhai sy’n magu plant yn y dyddiau hynny! 20  Daliwch ati i weddïo na fyddwch chi’n gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar ddydd y Saboth; 21  oherwydd yr adeg honno bydd ’na drychineb mawr o’r fath sydd ddim wedi digwydd o ddechrau’r byd hyd nawr ac na fydd yn digwydd byth eto. 22  Yn wir, oni bai fod y dyddiau hynny yn cael eu torri’n fyr, ni fyddai neb yn cael ei achub; ond o achos y rhai sydd wedi eu dewis bydd y dyddiau hynny yn cael eu torri’n fyr. 23  “Yna os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch! Dyma’r Crist,’ neu, ‘Dacw ef!’ peidiwch â chredu’r peth. 24  Oherwydd y bydd gau Gristiau a gau broffwydi yn codi a byddan nhw’n rhoi arwyddion mawr ac yn cyflawni pethau rhyfeddol er mwyn camarwain, os posib, hyd yn oed y rhai sydd wedi eu dewis. 25  Edrychwch! Rydw i wedi eich rhybuddio chi o flaen llaw. 26  Felly, os bydd pobl yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch! Y mae yn yr anialwch,’ peidiwch â mynd allan; ‘Edrychwch! Y mae y tu mewn i’r tŷ,’* peidiwch â chredu’r peth. 27  Oherwydd fel y mae’r mellt yn dod o’r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd presenoldeb* Mab y dyn. 28  Le bynnag y bydd y corff marw, yno y bydd yr eryrod yn heidio at ei gilydd. 29  “Yn syth ar ôl trychineb y dyddiau hynny, bydd yr haul yn cael ei dywyllu, ac ni fydd y lleuad yn rhoi ei goleuni, a bydd y sêr yn syrthio o’r nef, a bydd grymoedd y nefoedd yn cael eu hysgwyd. 30  Yna bydd arwydd Mab y dyn yn ymddangos yn y nef, a bydd holl lwythau’r ddaear yn eu curo eu hunain mewn galar, a byddan nhw’n gweld Mab y dyn yn dod ar gymylau’r nef gyda grym a gogoniant mawr. 31  A bydd yn anfon ei angylion allan gyda sain trwmped mawr, a byddan nhw’n casglu at ei gilydd y rhai sydd wedi cael eu dewis o’r pedwar gwynt, o un eithaf i’r nefoedd hyd at eu heithaf arall. 32  “Nawr dysgwch y wers hon oddi wrth y goeden ffigys: Cyn gynted ag y bydd ei changen ifanc yn dyner ac yn deilio, rydych chi’n gwybod bod yr haf yn agos. 33  Felly chithau hefyd, pan welwch chi’r holl bethau hyn, fe fyddwch chi’n gwybod ei fod ef yn agos wrth y drysau. 34  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi na fydd y genhedlaeth hon ar unrhyw gyfri yn mynd heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd. 35  Bydd nef a daear yn mynd heibio, ond ni fydd fy ngeiriau i ar unrhyw gyfri yn mynd heibio. 36  “Ynglŷn â’r dydd hwnnw a’r awr honno does neb yn gwybod, nid angylion y nefoedd na’r Mab, dim ond y Tad. 37  Oherwydd yn union fel yr oedd dyddiau Noa, felly y bydd presenoldeb* Mab y dyn. 38  Oherwydd fel yr oedden nhw yn y dyddiau hynny cyn y Dilyw, yn bwyta ac yn yfed, dynion a merched* yn priodi, hyd nes y diwrnod yr aeth Noa i mewn i’r arch, 39  ac ni wnaethon nhw dalu sylw nes i’r Dilyw ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd, felly y bydd presenoldeb Mab y dyn. 40  Yna y bydd dau ddyn yn y cae; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael ar ôl. 41  Bydd dwy ddynes* yn malu gwenith â melin law; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei gadael ar ôl. 42  Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pa ddydd y bydd eich Arglwydd yn dod. 43  “Ond meddyliwch am hyn: Petai perchennog y tŷ wedi gwybod pa amser o’r nos* yr oedd y lleidr yn dod, fe fyddai wedi aros yn effro a pheidio â gadael i’r lleidr dorri i mewn i’w dŷ. 44  Oherwydd hyn, dangoswch chithau hefyd eich bod chi’n barod, oherwydd bod Mab y dyn yn dod ar awr nad ydych chi’n ei disgwyl. 45  “Pwy yn wir yw’r gwas* ffyddlon a chall* a benodwyd gan ei feistr i fod yn gyfrifol am weision eraill y tŷ, i roi iddyn nhw eu bwyd ar yr amser iawn? 46  Hapus yw’r gwas hwnnw os yw ei feistr yn dod ac yn ei weld yn gwneud y gwaith hwn! 47  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn ei benodi i fod yn gyfrifol am ei holl eiddo. 48  “Ond petai’r gwas hwnnw yn ddrwg ac yn dweud yn ei galon, ‘Mae fy meistr yn oedi,’ 49  ac yn dechrau curo ei gyd-weision ac yn bwyta ac yn yfed gyda’r meddwon, 50  bydd meistr y gwas hwnnw yn dod ar ddiwrnod nad yw’n ei ddisgwyl ac ar awr nad yw’n ei gwybod, 51  a bydd ef yn ei gosbi â’r gosb fwyaf llym ac yn ei osod gyda’r rhagrithwyr. Yno y bydd yn wylo ac yn crensian ei ddannedd.

Troednodiadau

Gweler Geirfa.
Neu “yr oes hon?” Gweler Geirfa.
Llyth., “o boenau geni; o wewyr esgor.”
Llyth., “anghyfraith,” hynny yw, dirmygu cyfreithiau Duw.
Neu “sy’n dyfalbarhau.”
Neu “menywod.”
Neu “yn yr ystafelloedd mewnol.”
Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa.
Neu “menywod.”
Neu “dwy fenyw.”
Neu “ym mha wylfa.”
Neu “caethwas.”
Neu “doeth.”