Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 6

Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o’r Dilyw?

Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o’r Dilyw?

Dinistriodd Duw y bobl ddrwg, ond achubodd Noa a’i deulu. Genesis 7:​11, 12, 23

Fe lawiodd yn drwm am 40 o ddyddiau a 40 o nosweithiau, ac fe gododd lefel y dŵr i orchuddio’r ddaear i gyd. Bu farw’r holl bobl ddrwg.

Gadawodd yr angylion gwrthryfelgar eu cyrff dynol a throi’n gythreuliaid.

Goroesodd y rhai a oedd yn yr arch. Yn y pen draw, bu farw Noa a’i deulu, ond yn y dyfodol bydd Jehofah yn eu hatgyfodi nhw gyda’r gobaith o fyw am byth.

Bydd Duw unwaith eto yn dinistrio’r bobl ddrwg ac yn achub y rhai da. Mathew 24:​37-​39

Mae Satan a’i gythreuliaid yn dal wrthi’n camarwain pobl.

Fel yn nyddiau Noa, mae llawer heddiw yn gwrthod arweiniad cariadus Jehofah. Bydd Jehofah yn dinistrio pawb sy’n ddrwg cyn bo hir.—2 Pedr 2:​5, 6.

Mae Tystion Jehofah, fel Noa, yn gwrando ar Dduw ac yn gwneud beth y mae’n ei ofyn.