Dyma’r Dyddiau Diwethaf!
Pennod 11
Dyma’r Dyddiau Diwethaf!
1. Pam mae llawer bron â digalonni wrth weld be’ sy’n digwydd yn y byd, ond ble medrwn ni gael hyd i esboniad dibynadwy ar y pethau hyn?
SUT daeth ein byd cythryblus i’r sefyllfa hon? I ble ’rŷm ni’n mynd? Ydych chi wedi gofyn cwestiynau fel hyn? Mae llawer yn teimlo’n ddigalon wrth weld be’ sy’n digwydd yn y byd heddiw. Mae rhyfela, afiechyd a thorcyfraith yn gwneud i bobl deimlo’n ansicr ynglŷn â’r dyfodol. Prin bod llywodraethwyr amlwg yn medru cynnig unrhyw obaith. Ond yn ei Air mae Duw yn rhoi esboniad y medrwn ymddiried ynddo am ein dyddiau gofidus ni. Mae’r Beibl yn dangos yn eglur ac mewn ffordd ddibynadwy ble ’rydym ni ’nawr yn nhrefn amser. Yn ôl y Beibl dyma “ddyddiau diwethaf” y drefn bresennol.—2 Timotheus 3:1.
2. Pa gwestiwn ofynnodd disgyblion Iesu iddo, a be’ oedd ei ateb?
2 Ystyriwch er enghraifft, yr ateb roddodd Iesu dri diwrnod cyn iddo farw, pan ofynnodd ei ddisgyblion iddo: “Beth fydd yr arwydd o’th ddyfodiad [“presenoldeb,” NW] ac o ddiwedd y byd [“trefn pethau,” NW]?” a (Mathew 24:3) Wrth ateb, soniodd Iesu am ddigwyddiadau mawr yn y byd a sefyllfaoedd arbennig fyddai’n dangos fod y drefn annuwiol hon wedi cychwyn ar ei dyddiau diwethaf.
3. Pam aeth sefyllfa’r ddaear yn waeth pan ddechreuodd Iesu lywodraethu?
3 Fel gwelsom ni yn y bennod o’r blaen, yn ôl cronoleg y Beibl mae Teyrnas Dduw eisoes wedi dechrau llywodraethu. Sut gall hynny fod? Mae pethau wedi gwaethygu, nid gwella. Mewn un ystyr mae hyn yn cadarnhau fod Teyrnas Dduw wedi dechrau teyrnasu. Sut felly? Wel, mae Salm 110:2 yn dweud wrthym y byddai Iesu am gyfnod yn llywodraethu ‘yng nghanol ei elynion.’ Yn wir, y peth cynta’ wnaeth e fel Brenin nefol oedd bwrw Satan a’i angylion-cythraul i lawr i’r ddaear. (Datguddiad 12:9) ’Roedd effaith hyn yn union fel rhagfynegodd Datguddiad 12:12: “Gwae chwi’r ddaear a’r môr, oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw’r amser sydd ganddo!” ’Rydym ni’n byw ’nawr yn yr ‘amser byr’ hwnnw.
4. Be’ ’di rhai nodweddion y dyddiau diwethaf, a be’ maen’ nhw’n ei ddangos? (Gweler bocs.)
4 ’Dyw hi ddim yn syndod felly i ateb Iesu pan gafodd ei holi ynglŷn ag arwydd ei bresenoldeb ac o ddiwedd y drefn wneud argraff. Mae gwahanol agweddau’r arwydd i’w gweld yn y bocs ar dudalen 102. Sylwch fel mae’r apostolion Cristnogol Paul, Pedr, ac Ioan yn rhoi manylion pellach inni am y dyddiau diwethaf. Mae’n wir fod llawer o nodweddion yr arwydd yn sôn am ddigwyddiadau trist. Ond eto, fe ddylai’r ffaith fod y proffwydoliaethau hyn yn cael eu cyflawni ein hargyhoeddi ni fod diwedd y drefn ddrwg bresennol yn agos. Gadewch inni edrych yn fanwl ar rai o nodweddion amlwg y dyddiau diwethaf.
NODWEDDION Y DYDDIAU DIWETHAF
5, 6. Sut mae proffwydoliaethau am ryfela a newyn yn cael eu cyflawni?
5“Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.” (Mathew 24:7; Datguddiad 6:4) “Lladdfa enfawr, y fwyaf brwnt a gwaedlyd yn hanes y ddaear, anhrefn llwyr,” oedd disgrifiad yr awdur Ernest Hemingway o Ryfel Byd I. Yn ôl y llyfr The World in the Crucible—1914-1919, daeth “dimensiwn newydd i ryfel; dyn yn ymladd dyn gyda ffyrnigrwydd diymatal, ar raddfa y tu hwnt i reswm a disgwyl. Rhyfel am y tro cyntaf yn ei gyfanrwydd erchyll.” Wedyn daeth Rhyfel Byd II, rhyfel llawer mwy difaol na Rhyfel Byd I. Fe dd’wedodd yr athro hanes Hugh Thomas, “Mae’r gwn peiriant, y tanc, y B-52, y bom niwclear, a’r taflegryn, wedi rheoli’r ugeinfed ganrif. Dyma gyfnod o ryfeloedd mwy gwaedlyd a dinistriol nag unrhyw oes arall.” Mae’n wir bod sôn wedi bod am ddiarfogi wedi i’r Rhyfel Oer ddod i ben, ond yn ôl un adroddiad mae ’na rhyw 10,000 i 20,000 o arfbennau niwclear—hynny ydi tua 900 gwaith yn fwy na grym tanio Rhyfel Byd II—yn dal ar gael.
6 “Bydd adegau o newyn.” (Mathew 24:7; Datguddiad 6:5, 6, 8) Oddi ar 1914 mae o leia’ 20 newyn mawr wedi bod, yn effeithio ar ardaloedd oedd yn cynnwys Bangladesh, Burundi, Cambodia, Tsieina, Ethiopia, Gwlad Groeg, India, Nigeria, Rwsia, Rwanda, Somalia, a’r Swdan. Ond nid diffyg bwyd ydi achos newyn bob amser. “Er fod cyflenwad bwyd y byd wedi cynyddu’n gynt na’r boblogaeth yn gymharol ddiweddar, mae ’na o leia’ 800 miliwn o bobl yn dal i fod yn dlawd iawn, . . . yn methu prynu digon o’r bwyd sydd ar gael i fedru gwrthsefyll cyflwr diffyg maeth cronig,” ydi barn rhai gwyddonwyr amaethyddol ac economegwyr. Mae gwleidyddiaeth yn ymyrryd weithiau. Mae’r Dr. Abdelgalil Elmekki o Brifysgol Toronto yn crybwyll dwy enghraifft sy’n dangos sut y bu i filoedd newynu tra ’roedd eu gwledydd yn allforio mwy na digon o fwyd. ’Roedd hi’n fwy pwysig i’r llywodraethau hynny godi arian tramor i ariannu’u rhyfeloedd na bwydo’u dinasyddion. Casgliad y Dr. Elmekki? Yn aml “mater o bolisi llywodraeth a dosbarthu” ydi newyn.
7. Be’ wyddom ni am blâu heddiw?
7 “Plâu.” (Luc 21:11; Datguddiad 6:8) Fe gollodd o leia’ 21 miliwn eu bywydau o’r ffliw Sbaenaidd yn 1918-1919. “Yn hanes y byd ’does dim un afiechyd wedi lladd cymaint o bobl mor gyflym,” oedd geiriau A. A. Hoehling yn The Great Epidemic. Heddiw, mae plâu yn dal i fod ac yn dal i ladd. Bob blwyddyn, mae canser yn lladd pum miliwn o bobl, mae afiechydon diarëig yn lladd rhagor na thair miliwn o fabanod a phlant, a thwbercwlosis yn difa tair miliwn. O blith yr heintiau anadlu mae niwmonia yn lladd 3.5 miliwn o blant dan bump oed bob blwyddyn. Ac yn anhygoel, mae ’na 2.5 biliwn—hanner poblogaeth y byd—yn diodde’ salwch oherwydd diffyg dŵr neu ddŵr wedi’i heintio neu oherwydd glanweithdra gwael. Wrth i AIDS gynyddu mae’n dod yn amlwg fod ymdrech dyn i ddileu afiechydon yn methu, er gwaetha’i gynnydd mawr ym myd meddygaeth.
8. Sut mae pobl yn dangos eu bod nhw’n “ariangar”?
8 “Bydd dynion yn . . . ariangar.” (2 Timotheus 3:2) Mae’n ymddangos fod pobl ym mhob rhan o’r byd yn awchu am fwy a mwy o gyfoeth. Mesur “llwyddiant” heddiw ydi maint eich cyflog, ac eiddo yn fesur o’ch “safle.” “Fe fydd materoliaeth yn parhau i fod yn un o rymoedd pennaf cymdeithas America,” oedd datganiad is-lywydd asiantaeth hysbysebu, gan ychwanegu, “. . . ac mae’n rym fydd yn dylanwadu’n gynyddol ar farchnadoedd mawr eraill hefyd.” Ydi hyn yn digwydd fan lle’r ydych chi’n byw?
9. Be’ ydi’ch sylwadau chi am yr hyn a ragwelodd y Beibl ynglŷn ag ymddygiad amharchus plant at eu rhieni?
9 “Heb barch i’w rhieni.” (2 Timotheus 3:2) Yn ôl rhieni, athrawon ac eraill sy’n siarad o brofiad, mae llawer o blant heddiw yn anghwrtais ac anufudd. Mae’n bosib’ fod rhai o’r plant ’ma’n dilyn esiampl wael eu rhieni. Mae mwy a mwy o blant yn gwrthryfela yn erbyn yr ysgol, y gyfraith, crefydd a’u rhieni, ac yn colli ffydd ynddyn’ nhw. D’wedodd un athro profiadol, “Yn gyffredinol ’does dim parch ganddyn’ nhw at unrhyw beth.” Ond hyfrydwch ydi gweld plant sy’n ofni Duw yn rhoi esiampl dda i eraill yn y ffordd maen’ nhw’n ymddwyn.
10, 11. Be’ sy’n dangos fod pobl yn anwar ac heb deimladau cynnes?
10 “Yn anwar.” (2 Timotheus 3:3) Ystyr y gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu’n “anwar” ydi ‘heb ei ddofi, gwyllt, yn ddiffygiol mewn teimladau tyner a chydymdeimlad.’ Dyna ddisgrifiad da o’r rhai sy’n achosi trais heddiw! D’wedodd un erthygl olygyddol, “Mae angen stumog y dyddiau hyn i ddarllen am y pethau erchyll, trawmatig, a gwaedlyd sy’n llenwi’r newyddion.” Sylwodd un swyddog diogelwch nad ydi pobl ifanc heddiw ddim eisiau gwybod be’ sy’n mynd i ddigwydd iddyn’ nhw o ganlyniad i’r hyn maen’ nhw’n ei wneud. “‘’Dyw ’fory’n poeni dim arna’ i. Heddiw sy’n bwysig.’ Dyna’u hagwedd nhw.”
11 “Yn ddi-serch.” (2 Timotheus 3:3) Mae’r ymadrodd hwn yn cyfieithu’r gair Groeg sydd â’r ystyr “bod yn galed a dideimlad” ac sy’n golygu “bod yn ddiffygiol mewn teimladau cynnes, naturiol at aelodau’r teulu.” (The New International Dictionary of New Testament Theology) Ie, peth annisgwyl ac annaturiol ydi cartre’ heb deimladau cynnes. Mae adroddiadau am gamdrin cymheiriaid priodas, plant, a hyd yn oed rieni yn eu henaint wedi dod yn gywilyddus o gyffredin heddiw. Sylwadau un tîm ymchwil oedd: “Mae ymddygiad treisiol—taro neu wthio rhywun, a hyd yn oed drywanu neu saethu rhywun—yn digwydd yn fwy aml y tu mewn i gylch y teulu nag yn unrhyw ran arall o’n cymdeithas.”
12. Pam mae’n bosib’ dweud mai dim ond ffurf allanol crefydd sy’ gan bobl?
12 “Yn cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi.” (2 Timotheus 3:5) Mae’r Beibl yn gallu dylanwadu ar fywydau pobl er gwell. (Effesiaid 4:22-24) Ond mae ’na lawer o bobl heddiw sy’n ymddangos yn grefyddol yr un pryd yn gwneud pethau drwg yn slei bach, pethau sy’n atgas gan Dduw. Mor aml y byddwn ni’n clywed am arweinwyr crefyddol nad ydyn’ nhw’n gweld dim byd o’i le mewn dweud celwydd, dwyn, neu ymddwyn yn anfoesol. Mae ’na grefyddau sy’n pregethu cariad ond ar yr un pryd yn cefnogi rhyfel. Yn y cylchgrawn India Today, sylwadau’r erthygl olygyddol oedd, “Yn enw’r Creawdwr Goruchaf mae dyn wedi mynd ati i weithredu’r creulonderau mwyaf erchyll yn erbyn ei gyd-ddyn.” Yn wir, man cychwyn dau wrthdaro mwyaf ffrwydrol a gwaedlyd ein cyfnod ni—Rhyfeloedd Byd I a II—oedd Gwledydd Cred.
13. Pa dystiolaeth sy’ ’na fod y ddaear yn cael ei difetha?
13 “Dinistrio’r ddaear.” (Datguddiad 11:18) “Mae ’na wrthdaro’n sicr o ddigwydd rhwng dyn a natur cyn bo hir. . . . Dim ond ychydig ddegawdau sy’ gennym i wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth cyn i’r cyfle ddiflannu am byth.” Dyna oedd rhybudd yr Union of Concerned Scientists (UCS), ac o leiaf 1,600 o wyddonwyr eraill, a 104 o enillwyr gwobrau Nobel yn eu plith nhw yn llwyr gytuno. Yn ôl yr adroddiad mae’n bosib’ y bydd effaith gweithgareddau dyn, sy’ mor niweidiol i fywyd, “yn newid y byd gymaint fel y bydd yn anobeithiol cynnal bywyd yn y modd y gwyddom ni amdano.” Yr osôn yn lleihau, dŵr yn cael ei lygru, datfforestu, pridd heb fod yn gynhyrchiol, a mathau o anifeiliaid a phlanhigion yn diflannu am byth—dyma broblemau sy’n haeddu sylw prydlon, yn ôl yr adroddiad. “Wrth inni ymyrryd â’r ddibyniaeth sensitif sy’ rhwng gwahanol weddau ar fyd natur,” meddai’r UCS, “y perygl yw ein bod ar yr un pryd yn dechrau tanseilio ar raddfa eang ddeinameg gymhleth systemau biolegol nad ydym yn eu llwyr ddeall eto.”
14. Sut gallech chi brofi fod Mathew 24:14 yn cael ei gyflawni yn ein dyddiau ni?
14 “Fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:14) Fe ragfynegodd Iesu y byddai’r newydd da am y Deyrnas yn cael ei bregethu’n fyd-eang er tystiolaeth i’r cenhedloedd i gyd. Mae miliynau o Dystion Jehofah, gyda help a bendith dwyfol, yn treulio biliynau o oriau yn eu gwaith pregethu a gwneud disgyblion. (Mathew 28:19, 20) Ydyn’, mae’r Tystion yn sylweddoli y bydden’ nhw’n euog o waed pe na baen’ nhw’n cyhoeddi’r newydd da. (Eseciel 3:18, 19) Hyfrydwch mawr ganddyn’ nhw ydi gweld miloedd bob blwyddyn yn ymateb yn werthfawrogol i neges y Deyrnas gan wneud eu safiad yn wir Gristnogion, hynny ydi, yn Dystion i Jehofah. Braint anghymharol ydi gwas’naethu Jehofah a lledaenu’r wybodaeth o Dduw. Yna, wedi i’r newydd da gael ei bregethu i bawb ar y ddaear, fe ddaw’r drefn ddrwg bresennol i ben.
GWEITHREDWCH YN ÔL Y DYSTIOLAETH
15. Sut bydd y drefn ddrwg bresennol yn gorffen?
15 Sut bydd y drefn hon yn gorffen? Mae’r Beibl yn rhagweld y bydd elfennau gwleidyddol y byd hwn yn ymosod ar “Babilon fawr,” sef ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, a dyma gychwyn y “gorthrymder mawr.” (Mathew 24:21; Datguddiad 17:5, 16) Fe dd’wedodd Iesu y byddai’r “haul” yn ystod y cyfnod hwn ‘yn troi’n dywyll, fyddai ’na ddim golau’n dod o’r lleuad, byddai’r sêr yn syrthio o’r nef, a nerthoedd y nefoedd yn cael eu hysgwyd.’ (Mathew 24:29) Mae’n bosib’ fod hyn oll yn cyfeirio at ddigwyddiadau syfrdanol go iawn yn yr wybren. Beth bynnag, fe ddaw goleuadau disglair byd crefydd i’r amlwg a chael eu dileu. Y pryd hwnnw fe fydd Satan, dan yr enw “Gog yn nhir Magog,” yn ysgogi pobl lwgr i ymosod yn galed ar bobl Jehofah. Ond ’fydd Satan ddim yn llwyddo yn hyn oherwydd bydd Duw yn eu hachub nhw. (Eseciel 38:1, 2, 14-23) Fe ddaw’r “gorthrymder mawr” i’w anterth yn Armagedon, “rhyfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog,” fydd yn cael gwared â phob dim sydd ar ôl o gyfundrefn Satan ar y ddaear. Yna fe ddaw llu o fendithion i’r rhai sy’n goroesi.—Datguddiad 7:9, 14; 11:15; 16:14, 16; 21:3, 4.
16. Sut ydym ni’n gwybod fod y nodweddion proffwydol am y dyddiau diwethaf yn berthnasol i’n hoes ni?
16 Wrth ystyried nodweddion y dyddiau diwethaf un ar y tro, mae’n bosib’ i rywun feddwl eu bod nhw’n fwy perthnasol i gyfnodau gynt. Ond pan ’rydym yn eu hystyried nhw gyda’i gilydd, mae’r nodweddion proffwydol hyn yn pinbwyntio’n dyddiau ni. I egluro: Mae marciau ôl bys unigolyn yn ffurfio patrwm sy’n perthyn i’r person hwnnw a neb arall. Mewn ffordd debyg, mae gan y dyddiau diwethaf eu patrwm o ddigwyddiadau sy’n perthyn i’r oes honno’n unig. Wrth eu cymharu nhw â’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am Deyrnas nefol Duw yn llywodraethu ’nawr, mae’r dystiolaeth yn gosod sail gadarn dros ddod i’r casgliad mai dyma’n wir ydi’r dyddiau diwethaf. Yn fwy na hyn, mae ’na brawf Ysgrythurol pendant y bydd y drefn ddrwg bresennol yn cael ei difa cyn bo hir.
17. O wybod mai dyma’r dyddiau diwethaf, be’ ddylem ni’i wneud?
17 Sut wnewch chi ymateb i’r dystiolaeth mai dyma’r dyddiau diwethaf? Ystyriwch: Os oes ’na storm ddinistriol iawn ar y ffordd, heb oedi, fe fyddwn ni’n mynd ati i drefnu diogelwch. Wel, fe ddylai’r hyn mae’r Beibl yn ei ragweld ar gyfer y drefn bresennol ein hysgogi ni i weithredu’n addas. (Mathew 16:1-3) Mae’n amlwg ein bod ni’n byw yn nyddiau ola’ trefn y byd hwn. Fe ddylai hyn ein gwneud ni’n barod i newid i ennill cymeradwyaeth Duw. (2 Pedr 3:3, 10-12) Fe gyfeiriodd Iesu ato’i hun fel yr un sy’n gyfrifol am ddarparu iachawdwriaeth wrth iddo ddweud y geiriau pwysig hyn: “Cymerwch ofal, rhag i’ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i’r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth fel magl; oherwydd fe ddaw ar bawb sy’n trigo ar wyneb y ddaear gyfan. Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngŵydd Mab y Dyn.”—Luc 21:34-36.
[Troednodyn]
a Mae rhai Beiblau’n defnyddio’r ymadrodd “byd” yn lle “trefn pethau.” Mae Expository Dictionary of New Testament Words gan W.E.Vine yn dweud fod y gair Groeg ai·onʹ “yn dynodi cyfnod amhendant o ran ei hyd, neu amser o’i ystyried mewn perthynas â’r hyn sy’n digwydd yn y cyfnod.” Mae Greek and English Lexicon to the New Testament gan Parkhurst (tudalen 17) yn cynnwys yr ymadrodd “y drefn sydd ohoni” wrth drafod defnyddio ai·oʹnes (lluosog) yn Hebreaid 1:2. Felly mae defnyddio’r ymadrodd “trefn pethau” yn cytuno â’r testun Groeg gwreiddiol.
RHOI PRAWF AR EICH GWYBODAETH
Be’ ragfynegodd y Beibl am ddigwyddiadau yn y byd pan fyddai Crist yn dechrau teyrnasu?
Beth ydi rhai nodweddion y dyddiau diwethaf?
Be’ sy’n eich argyhoeddi chi mai dyma’r dyddiau diwethaf?
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Box on page 102]
RHAI NODWEDDION Y DYDDIAU DIWETHAF
•Rhyfela heb ei debyg.—Mathew 24:7; Datguddiad 6:4.
Newyn.—Mathew 24:7; Datguddiad 6:5, 6, 8.
•Plâu.—Luc 21:11; Datguddiad 6:8.
•Drygioni ar gynnydd.—Mathew 24:12.
•Difetha’r ddaear.—Datguddiad 11:18.
•Daeargrynfâu.—Mathew 24:7.
•Amserau enbyd.—2 Timotheus 3:1.
•Ariangarwch.—2 Timotheus 3:2.
•Diffyg parch i rieni.—2 Timotheus 3:2.
•Dim teimladau cynnes, naturiol.—2 Timotheus 3:3.
•Caru pleser yn fwy na charu Duw.—2 Timotheus 3:4.
•Dim hunanddisgyblaeth.—2 Timotheus 3:3.
•Dim cariad at ddaioni.—2 Timotheus 3:3.
•Anwybyddu peryg’ sy’ ar fin dod.—Mathew 24:39.
•Gwatwarwyr yn gwrthod prawf y dyddiau diwethaf. —2 Pedr 3:3, 4.
•Pregethu Teyrnas Dduw yn fyd-eang.—Mathew 24:14.
[Llun-tudalen lawn ar dudalen 101]