Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 27

Gobeithia yn Jehofa

Gobeithia yn Jehofa

“Gobeithia yn yr ARGLWYDD. Bydd yn ddewr ac yn hyderus.”—SALM. 27:14.

CÂN 128 Dyfalbarhau i’r Diwedd

CIPOLWG *

1. (a) Pa obaith mae Jehofa wedi ei roi inni? (b) Beth mae ‘gobeithio yn Jehofa’ yn ei olygu? (Gweler “Esboniad.”)

 MAE Jehofa wedi rhoi gobaith anhygoel i’r rhai addfwyn sy’n ei garu. Nid yn unig y bydd ef yn dod â diwedd i salwch, tristwch, a marwolaeth, ond bydd hefyd yn rhoi inni’r fraint o’i helpu i droi’r ddaear yn baradwys. (Dat. 21:3, 4; Salm 37:9-11) Ar ben hynny, bydd yn bosib inni gael perthynas agosach byth â Jehofa. Onid ydy hynny yn rhyfeddol! A gan fod Jehofa wastad yn cadw at ei air, mae gynnon ni bob rheswm i ‘obeithio yn Jehofa,’ * a chredu y bydd ei addewidion yn dod yn wir. (Salm 27:14) Drwy ddisgwyl yn amyneddgar ac yn llawen am i fwriad Duw gael ei gyflawni, rydyn ni’n dangos mai dyna’n union rydyn ni’n ei wneud—gobeithio yn Jehofa.—Esei. 55:10, 11.

2. Beth mae Jehofa eisoes wedi ei wneud?

2 Mae Jehofa eisoes wedi profi ei fod yn cadw ei addewidion. Er enghraifft, meddylia am un ohonyn nhw yn llyfr Datguddiad. Dywedodd y byddai pobl o bob cenedl, llwyth, ac iaith yn ei wasanaethu mewn undod yn ein dyddiau ni. Rydyn ni’n adnabod y grŵp arbennig hwnnw fel y “dyrfa fawr.” (Dat. 7:9, 10) Y peth rhyfeddol amdanyn nhw ydy eu bod nhw’n un teulu mawr, er eu bod nhw’n ddynion, merched, a phlant o bob oed, cefndir, a hil. (Salm 133:1; Ioan 10:16) Maen nhw hefyd yn pregethu’n selog ac wastad yn barod i rannu’r gobaith am y dyfodol ag unrhyw un fydd yn gwrando. (Math. 28:19, 20; Dat. 14:6, 7; 22:17) Os wyt ti’n rhan o’r dyrfa fawr, mae’n debyg bod y gobaith am ddyfodol gwell yn agos iawn at dy galon.

3. Beth mae Satan eisiau ei wneud?

3 Mae’r Diafol eisiau dwyn dy obaith oddi arnat ti, a gwneud iti feddwl bod Jehofa yn malio dim amdanat ti. Mae hefyd eisiau iti feddwl na fydd Jehofa yn cadw ei addewidion. Ond os bydd Satan yn llwyddo, bydd hynny’n ddigon i wneud inni golli hyder, a hyd yn oed stopio gwasanaethu Jehofa. Dyna’n union gwnaeth ef drio ei wneud i Job.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon? (Job 1:9-12)

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld pa dactegau a ddefnyddiodd Satan i drio gwneud i Job gefnu ar Jehofa. (Darllen Job 1:9-12.) Byddwn ni hefyd yn trafod beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Job, a pham mae hi mor bwysig inni gofio bod Duw yn ein caru ni, a’i fod yn cadw at ei air.

SATAN YN TRIO GWNEUD I JOB GOLLI GOBAITH

5-6. Beth ddigwyddodd i Job mewn cyfnod byr?

5 Roedd bywyd yn mynd yn dda i Job. Roedd ganddo berthynas agos â Jehofa. Roedd ganddo deulu mawr a hapus, ac roedd yn gyfoethog hefyd. (Job 1:1-5) Ond collodd bron iawn pob dim mewn un diwrnod. Ei gyfoeth oedd y peth cyntaf i fynd. (Job 1:13-17) Yna bu farw pob un o’i blant. Mae colli un plentyn yn ddigon o sioc i riant, ac yn achosi cymaint o alar a phoen ynddo’i hun. Ond dychmyga golli deg o blant ar unwaith! Yn sicr, roedd Job a’i wraig yn mynd drwy’r felin. Does dim syndod bod Job wedi rhwygo ei ddillad yn ei alar, ac wedi syrthio ar ei liniau yn ei ddagrau!—Job 1:18-20.

6 Nesaf, aeth Satan ar ôl iechyd Job a dwyn pob gronyn o urddas oddi arno. (Job 2:6-8; 7:5) Bellach, roedd pawb yn osgoi Job, y dyn roedden nhw’n arfer mynd ato am gyngor. (Job 31:18) Cafodd ei wrthod gan ei frodyr, ei ffrindiau da, a hyd yn oed ei weision ei hun!—Job 19:13, 14, 16.

Gall llawer o frodyr a chwiorydd heddiw gydymdeimlo â Job (Gweler paragraff 7) *

7. (a) Pam roedd Job yn meddwl ei fod yn dioddef, ond beth gwnaeth ef wrthod ei wneud? (b) O edrych ar y llun, sut gallai Cristion heddiw wynebu treial tebyg i Job a’i wraig?

7 Roedd Satan eisiau i Job gredu bod Jehofa yn ei gosbi am rywbeth. Felly, defnyddiodd Satan wynt cryf i chwythu’r tŷ i lawr ar ben plant Job. (Job 1:18, 19) A defnyddiodd dân o’r nef, neu fellt, i ladd anifeiliaid Job a’r gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw. (Job 1:16) Yn amlwg, grym goruwchnaturiol o ryw fath oedd y tu ôl i’r pethau hyn, felly daeth Job i’r casgliad mai Jehofa oedd yn gyfrifol. I Job, roedd yn ymddangos yn rhesymol i gredu ei fod wedi ypsetio Jehofa. Er hynny i gyd, gwrthododd Job felltithio ei Dad nefol. Yn hytrach, gwnaeth ef gydnabod ei fod wedi cael llawer o bethau da oddi wrth Jehofa dros y blynyddoedd, ac felly os oedd wedi derbyn y da, dylai hefyd fod yn barod i dderbyn y drwg. Felly dywedodd: “Boed i enw’r ARGLWYDD gael ei foli!” (Job 1:20, 21; 2:10) Hyd hynny, roedd Job wedi llwyddo i aros yn ffyddlon er ei fod wedi colli popeth. Ond nid dyna oedd diwedd triciau Satan.

8. Pa dacteg defnyddiodd Satan ar Job nesaf?

8 Tacteg nesaf Satan oedd gwneud i Job deimlo’n ddiwerth. Defnyddiodd dri dyn, oedd yn galw eu hunain yn ffrindiau, i ddweud wrth Job ei fod wedi dod â’r holl bethau drwg arno’i hun, hynny yw, mae’n rhaid ei fod wedi gwneud rhywbeth i’w haeddu. (Job 22:5-9) Roedden nhw hefyd yn ceisio ei berswadio bod ’na ddim pwynt trio plesio Duw. (Job 4:18; 22:2, 3; 25:4) Yn y bôn, roedden nhw’n ceisio gwneud i Job deimlo nad oedd Duw yn ei garu, na fyddai’n edrych ar ei ôl, a bod unrhyw ymdrech i’w wasanaethu yn ofer. Mae’n hawdd dychmygu sut byddai Job wedi anobeithio’n llwyr.

9. Beth helpodd Job i fod yn ddewr ac yn gryf?

9 Meddylia—dyna lle oedd Job yn eistedd yn y llwch a’r lludw, a’r boen yn ddi-baid. (Job 2:8) Roedd ei ffrindiau yn gwneud dim ond ei dynnu i lawr drwy ei gyhuddo dro ar ôl tro o fod yn ddyn drwg a diwerth. Roedd pwysau ei dreialon yn ei lorio, a’i galon yn deilchion ar ôl colli ei blant. Roedd Job yn fud. (Job 2:13–3:1) Ond ni waeth beth roedd ei ffrindiau yn ei feddwl, doedd hynny ddim yn dangos bod Job am gefnu ar ei Greawdwr. Dychmyga’r cryfder yn llais Job, efallai wrth iddo edrych i fyw llygaid ei ffrindiau a dweud: “Bydda i’n [ffyddlon] hyd fy medd.” (Job 27:5) Beth helpodd Job i fod mor ddewr a chryf er gwaethaf popeth roedd wedi mynd trwyddo? Hyd yn oed yn ei ddyddiau duaf, daliodd yn dynn yn y gobaith y byddai Jehofa yn dod â’i ddioddefaint i ben ryw ddydd. Roedd yn gwybod, hyd yn oed petai’n marw, fyddai Jehofa ddim yn anghofio amdano.—Job 14:13-15.

SUT GALLWN NI EFELYCHU JOB?

10. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o hanes Job?

10 Mae hanes Job yn ein dysgu ni na all Satan ein gorfodi ni i gefnu ar Jehofa, a bod Jehofa yn gweld popeth sy’n digwydd. Mae’r hanes hefyd yn ein helpu ni i weld y darlun mawr. Gad inni ystyried rhai gwersi penodol gallwn ni eu dysgu o esiampl Job.

11. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono os ydyn ni’n dal ati i drystio Jehofa? (Iago 4:7)

11 Profodd Job ein bod ni’n gallu wynebu unrhyw dreial, a llwyddo i wrthwynebu Satan, os ydyn ni’n dal ati i drystio Jehofa. Drwy wneud hynny, gallwn ni fod yn sicr y bydd y Diafol yn ffoi oddi wrthon ni.—Darllen Iago 4:7.

12. Sut roedd gobaith yr atgyfodiad yn cryfhau Job?

12 Mae’n hanfodol ein bod ni’n dal yn dynn yng ngobaith yr atgyfodiad. Ofn marwolaeth ydy un o’r pethau mae Satan yn ei ddefnyddio fwyaf i drio gwneud inni gefnu ar ein ffydd. Cofia fod Satan wedi honni y byddai Job yn gwneud unrhyw beth, gan gynnwys stopio gwasanaethu Jehofa, er mwyn achub ei fywyd ei hun. Ond gwnaeth Job ei brofi’n anghywir. Hyd yn oed ar ei isaf, ac yntau’n sicr ei fod am farw, roedd ei obaith a’i hyder yng nghyfiawnder a daioni Jehofa yn ei gadw’n gryf. Roedd gobaith Job yn yr atgyfodiad mor real iddo, roedd yn sicr y byddai popeth yn iawn unwaith i Jehofa ei atgyfodi, hyd yn oed os nad oedd pethau’n cael eu datrys tra oedd yn dal yn fyw. Mae’r un peth yn wir i ni heddiw. Os ydy gobaith yr atgyfodiad yn real inni, fydd hyd yn oed bygythiad marwolaeth ddim yn gwneud inni gefnu ar Jehofa.

13. Pam mae angen inni dalu sylw i’r tactegau roedd Satan yn eu defnyddio yn erbyn Job?

13 Mae’n hynod o bwysig inni dalu sylw i’r tactegau a ddefnyddiodd Satan yn erbyn Job, oherwydd mae’n dal i ddefnyddio’r un rhai heddiw. A phan ddywedodd Satan fod “pobl [nid jyst Job] yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau,” roedd yn cyhuddo pob un ohonon ni. (Job 2:4, 5) Drwy ddweud hynny, roedd Satan yn awgrymu nad ydyn ni’n caru Jehofa, ac y byddwn ni’n troi yn ei erbyn cyn gynted ag y bydd ein bywydau yn y fantol. Ac ar ben hynny, mae’n honni nad ydy Duw yn ein caru ni, nac yn sylwi ar ein hymdrechion i’w blesio. Ond am ein bod ni’n gwybod am driciau Satan, ac yn gobeithio yn Jehofa, fydd ei dactegau ddim yn ein twyllo.

14. Beth mae treialon yn rhoi cyfle inni ei wneud? Eglura.

14 Mae profiad Job hefyd yn dangos bod treialon yn rhoi cyfle inni ddysgu amdanon ni’n hunain. Yn achos Job, daeth rhai o’i wendidau i’r amlwg, a gwnaeth ef rywbeth amdanyn nhw. Er enghraifft, gwelodd fod angen iddo fod yn fwy gostyngedig. (Job 42:3) Gwelodd brawd o’r enw Nikolay, * fod hyn yn wir. Cafodd ei roi yn y carchar er gwaethaf problemau iechyd gwael. Dywedodd: “Mae’r carchar fel peiriant pelydr-X. Mae’n dangos sut fath o berson ydyn ni ar y tu mewn.” Fel Job, unwaith rydyn ni’n gwybod beth ydy ein gwendidau, gallwn ni weithio i’w cywiro.

15. Ar bwy dylen ni wrando, a pham?

15 Mae angen inni wrando ar Jehofa, nid ar ein gelynion. Dyna wnaeth Job pan resymodd Jehofa ag ef. Yn syml, roedd Duw yn dweud: ‘Wyt ti’n gallu gweld fy nerth yn y greadigaeth? Dw i’n gwybod am bopeth sydd wedi digwydd iti. Wyt ti’n meddwl mod i’n methu gofalu amdanat ti?’ Gwrandawodd Job yn astud ar hyn ac ymateb yn ostyngedig, gan ddweud: “O’r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i, ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun.” (Job 42:5) Ond lle oedd Job pan ddywedodd hyn? Mae’n debyg roedd yn dal i eistedd yn y llwch a’r lludw, ei gorff yn friwiau i gyd, a’r hiraeth am ei blant yn dal i frifo. Er hynny i gyd, gwnaeth Jehofa atgoffa Job ei fod yn ei garu, a bod Job yn ei blesio.—Job 42:7, 8.

16. Yn ôl Eseia 49:15, 16, beth dylen ni ei gofio wrth wynebu treialon?

16 Heddiw, rydyn ni mewn sefyllfa debyg i Job, am fod pobl yn dweud celwyddau amdanon ni, ac yn gwneud inni deimlo ein bod ni’n dda i ddim. Maen nhw’n ymosod ar ein henw da, nid yn unig fel unigolion, ond fel cyfundrefn, ac yn ‘dweud pethau drwg amdanon ni.’ (Math. 5:11) Ond mae hanes Job hefyd yn dangos inni fod Duw yn ein caru ni, a’i fod yn credu y byddwn ni’n aros yn ffyddlon iddo hyd yn oed pan fyddwn ni’n wynebu treialon. Fydd Jehofa byth yn cefnu ar y rhai sy’n gobeithio ynddo. (Darllen Eseia 49:15, 16.) Felly, paid â thalu unrhyw sylw i eiriau cas gelynion Duw! Fel dywedodd James, brawd o Dwrci, ar ôl i’w deulu fynd drwy dreialon anodd: “Roedden ni’n gwybod y byddai gwrando ar gelwyddau am bobl Dduw yn tanseilio ein ffydd. Felly, gwnaethon ni ganolbwyntio ar ein gobaith ar gyfer y dyfodol, ac aros yn brysur yn ein gwasanaeth i Jehofa. Oherwydd hynny, gwnaethon ni lwyddo i gadw ein llawenydd.” Fel Job, rydyn ni hefyd yn gwrando ar Jehofa, a dydy celwyddau ein gelynion ddim yn chwalu ein gobaith!

BYDD DY OBAITH YN DY GYNNAL DI

Cafodd Job ei fendithio am ei ffyddlondeb, a gwnaeth ef a’i wraig fyw bywydau hir a hapus (Gweler paragraff 17) *

17. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl y dynion a merched ffyddlon yn Hebreaid pennod 11?

17 Mae’n wir bod Job wedi aros yn ddewr ac yn gryf drwy gydol ei dreialon. Ond gwnaeth yr apostol Paul sôn am “dyrfa enfawr” o ddynion a merched ffyddlon eraill yn ei lythyr at yr Hebreaid. (Heb. 12:1) Gwnaethon nhw i gyd wynebu treialon gwahanol, ond arhosodd pob un yn ffyddlon i Jehofa. (Heb. 11:36-40) Er hynny, wnaeth yr un ohonyn nhw weld pob un o addewidion Duw yn cael eu cyflawni. Ond ydy hynny yn golygu bod eu ffyddlondeb a’u gwaith caled wedi bod yn wastraff amser? Ddim o bell ffordd! Y ffaith amdani yw, roedden nhw’n gobeithio yn Jehofa. Roedden nhw’n gwbl sicr eu bod nhw wedi ei blesio, ac y bydden nhw’n gweld yr addewidion hynny yn dod yn wir yn y pen draw. (Heb. 11:4, 5) Gall eu hesiampl nhw ein gwneud ni’n fwy penderfynol byth o ddal ati i obeithio yn Jehofa.

18. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud? (Hebreaid 11:6)

18 Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n mynd o ddrwg i waeth. (2 Tim. 3:13) Ac mae Satan yn dal yn brysur yn ceisio ein twyllo ni a’n dal ni allan. Ond ni waeth pa heriau sydd o’n blaenau ni, rydyn ni eisiau bod yn benderfynol o weithio’n galed i Jehofa, a bod yn gwbl hyderus ein bod ni “wedi ymddiried yn y Duw byw.” (1 Tim. 4:10) Ond cofia sut gwnaeth Duw fendithio Job. Onid ydy hynny yn profi bod “tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!” (Iago 5:11) Felly gad i ninnau hefyd aros yn ffyddlon i Jehofa, yn hollol sicr y bydd yn “gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri.”—Darllen Hebreaid 11:6.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

^ Rydyn ni’n gyfarwydd iawn ag amynedd Job a’r treialon a wynebodd. Ond beth gallwn ni ei ddysgu o’i brofiad? Yn gyntaf, all Satan ddim ein gorfodi ni i gefnu ar Jehofa. Yn ail, mae Jehofa yn gwybod am bopeth sy’n digwydd inni. Ac yn drydydd, bydd Jehofa yn dod â’n holl dreialon i ben un diwrnod, yn union fel y gwnaeth yn achos Job. Os ydyn ni’n byw ein bywyd yn hollol sicr o’r ffeithiau hyn, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n gobeithio yn Jehofa.

^ ESBONIAD: Yn syml, mae’r gair Hebraeg sy’n cael ei drosi “gobaith” yn golygu “disgwyl am” rywbeth yn awyddus. Mae hefyd yn gallu cyfleu’r syniad o drystio rhywun, neu ddibynnu arno.—Salm 25:2, 3; 62:5.

^ Newidiwyd rhai enwau.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Job a’i wraig yn teimlo’r boen o golli eu plant.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Daliodd Job ati hyd ddiwedd ei dreialon. Mae Job a’i wraig yn meddwl am gymaint mae Jehofa wedi eu bendithio nhw a’u teulu.