Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 24

Jehofa—Y Gorau am Faddau

Jehofa—Y Gorau am Faddau

“Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau. Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy’n galw arnat ti!”—SALM 86:5.

CÂN 42 Gweddi Gwas Jehofa

CIPOLWG *

1. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o eiriau’r Brenin Solomon yn Pregethwr 7:20?

 DYWEDODD y Brenin Solomon: “Does neb drwy’r byd i gyd mor gyfiawn nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.” (Preg. 7:20) Gallwn ni i gyd gytuno â hynny gan ein bod ni i gyd yn pechu ac angen maddeuant gan Jehofa, a gan bobl eraill.—1 Ioan 1:8.

2. Sut mae’n teimlo pan mae ffrind agos yn maddau iti?

2 Mae’n debyg dy fod ti, fel pawb arall, wedi brifo ffrind agos rywbryd neu’i gilydd. Ac am dy fod ti eisiau aros yn ffrind iddo, gwnest ti ymddiheuro. Sut roeddet ti’n teimlo unwaith i dy ffrind faddau iti? Mae’n debyg roedd hynny’n bwysau mawr oddi ar dy feddwl, ac roeddet ti’n hapus i gael dy ffrind yn ôl!

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Er mai Jehofa yw ein ffrind gorau, rydyn ni i gyd yn dweud ac yn gwneud pethau sy’n ei frifo o bryd i’w gilydd. Ond pam gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa yn awyddus i faddau inni? Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng y ffordd mae Jehofa yn maddau a’r ffordd rydyn ni’n maddau? A phwy sy’n cael maddeuant Jehofa?

MAE JEHOFA YN BAROD I FADDAU

4. Pam gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa yn barod i faddau?

4 Mae Jehofa yn ein sicrhau ni yn ei Air ei fod yn barod i faddau. Er enghraifft, pan ddisgrifiodd ei hun i Moses ar Fynydd Sinai, dywedodd drwy angel: “[Jehofa! Jehofa!] mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod.” (Ex. 34: 6, 7) Felly yn amlwg, mae Jehofa yn hynod o garedig ac mae ef wastad yn barod i faddau i rai edifar.—Neh. 9:17; Salm 86:15.

Mae Jehofa yn gwybod am bopeth sydd wedi siapio ein personoliaeth (Gweler paragraff 5)

5. Yn ôl Salm 103:13, 14, beth mae Jehofa yn ei wneud am ei fod yn ein hadnabod ni mor dda?

5 Mae’n rhyfeddol i feddwl bod Jehofa yn gwybod pob manylyn am bob person ar y ddaear. (Salm 139:15-17) Mae hynny yn golygu ei fod yn gwybod am yr holl wendidau rydyn ni wedi eu hetifeddu gan ein rhieni, a’r profiadau sydd wedi siapio ein personoliaeth dros y blynyddoedd. Gan fod Jehofa yn ein hadnabod ni mor dda, mae eisiau maddau’n hael inni.—Salm 78:39; darllen Salm 103:13, 14.

6. Sut mae Jehofa wedi profi ei fod yn awyddus i faddau?

6 Mae Jehofa wedi gwneud mwy na dweud ei fod yn barod i faddau. Mae hefyd wedi profi hynny. Mae’n deall yn iawn ein bod ni i gyd wedi etifeddu pechod a marwolaeth oherwydd beth wnaeth y dyn cyntaf, Adda. (Rhuf. 5:12) A does gynnon ni ddim gobaith o ryddhau ein hunain na neb arall o’r felltith honno. (Salm 49:7-9) Ond, mae ein Duw yn garedig ac yn drugarog. Felly, fel mae Ioan 3:16 yn ei ddangos, anfonodd ei unig Fab, Iesu, i farw droston ni er mwyn i unrhyw un sy’n dangos ffydd ynddo gael ei ryddhau. (Math. 20:28; Rhuf. 5:19; Heb. 2:9) Mae’n rhaid bod gweld ei Fab annwyl yn marw mewn ffordd mor boenus a llawn cywilydd wedi torri calon Jehofa. Fyddai Jehofa byth wedi gadael i’w Fab farw oni bai ei fod wir eisiau maddau inni.

7. Pa enghreifftiau yn y Beibl sy’n dangos bod Jehofa yn awyddus i faddau?

7 Mae’r Beibl yn llawn enghreifftiau o bobl a gafodd faddeuant Jehofa. (Eff. 4:32) Pwy sy’n dod i dy feddwl di? Efallai y Brenin Manasse. Gwnaeth ef bechu’n ofnadwy yn erbyn Jehofa, gan addoli gau dduwiau ac annog eraill i wneud yr un fath. Lladdodd ei blant ei hun fel aberth i’r gau dduwiau hynny a hyd yn oed rhoi eilun dduw yn nheml sanctaidd Jehofa. Does dim syndod bod y Beibl yn dweud: “Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a’i bryfocio.” (2 Cron. 33:2-7) Ond gwnaeth Jehofa faddau hyn i gyd, a hyd yn oed caniatáu iddo fod yn frenin unwaith eto, am ei fod wedi edifarhau go iawn. (2 Cron. 33:12, 13) Gwnaeth y Brenin Dafydd hefyd bechu yn erbyn Jehofa drwy wneud pethau fel godinebu a llofruddio. Ond eto gwnaeth Jehofa faddau iddo am ei fod wedi syrthio ar ei fai ac edifarhau. (2 Sam. 12:9, 10, 13, 14) Felly, yn amlwg, mae Jehofa yn awyddus iawn i faddau. Ond sut mae ei allu i wneud hynny yn unigryw? Gad inni weld.

GALLU UNIGRYW JEHOFA I FADDAU

8. Sut mae rôl unigryw Jehofa fel Barnwr yn effeithio ar ei allu i faddau?

8 Jehofa ydy “Barnwr y byd.” (Gen. 18:25) Mae’n rhaid i farnwr da ddeall y gyfraith i’r dim. Ydy hynny yn wir yn achos Jehofa? Ydy, oherwydd ef sydd wedi gosod y gyfraith. (Esei. 33:22) Does neb yn gwybod beth sy’n dda a drwg cystal â Jehofa. Mae barnwr da hefyd angen ystyried y ffeithiau i gyd cyn gwneud penderfyniad. Ac yn sicr, mae gan Jehofa fantais unigryw yn hynny o beth.

9. Pa wybodaeth mae Jehofa yn ei phwyso a’i mesur cyn iddo faddau?

9 Mae Jehofa yn wahanol i farnwyr dynol am ei fod wastad yn gwybod y ffeithiau i gyd yn berffaith. (Gen. 18:20, 21; Salm 90:8) All pobl ond wneud penderfyniad ar sail beth maen nhw’n ei weld a’i glywed. Ond nid yn unig mae Jehofa yn gallu gweld a chlywed popeth, mae hefyd yn gwybod yn union beth sy’n dylanwadu ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud, gan gynnwys ein geneteg, ein cefndir, ein diwylliant a’n cyflwr emosiynol a meddyliol. Ar ben hynny mae Jehofa yn darllen y galon ac felly yn gwybod beth sy’n ein cymell ni, beth rydyn ni’n ei fwriadu, a beth rydyn ni’n dyheu amdano. Yn wir, does dim byd yn mynd heibio sylw Jehofa. (Heb. 4:13) Felly, yn amlwg, mae maddeuant Jehofa wastad yn seiliedig ar y ffeithiau i gyd.

Mae Jehofa yn gyfiawn ac yn deg. Dydy ef ddim yn dangos ffafriaeth nac yn derbyn breib (Gweler paragraff 10)

10. Pam gallwn ni ddweud bod Jehofa wastad yn gyfiawn ac yn barnu’n deg? (Deuteronomium 32:4)

10 Mae Jehofa wastad yn gyfiawn ac yn barnu’n deg. Pam gallwn ni ddweud hynny? Dydy Jehofa ddim yn dangos ffafriaeth. Felly dydy ef ddim yn maddau i rywun ar sail y ffordd mae’n edrych, ei gyfoeth, ei statws, neu ei alluoedd. (1 Sam. 16:7; Iago 2:1-4) All neb orfodi Jehofa i wneud rhywbeth neu beidio. (2 Cron. 19:7) Dydy ef ddim yn rhuthro i benderfyniad ar sail dicter neu emosiwn. (Ex. 34:7) Felly, heb os, Jehofa ydy’r Barnwr gorau oll.—Darllen Deuteronomium 32:4.

11. Beth sy’n unigryw am faddeuant Jehofa?

11 Roedd ysgrifenwyr yr Ysgrythurau Hebraeg yn deall bod maddeuant Jehofa yn unigryw. Mae hynny’n amlwg o’u dewis o eiriau. Weithiau roedden nhw’n defnyddio gair Hebraeg a oedd, yn ôl un cyfeirlyfr, “ond yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r ffordd mae Jehofa yn maddau i bechaduriaid. Dydy’r gair hwn byth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r ffordd mae un person yn maddau i rywun arall.” Dim ond Jehofa all faddau i rywun yn llwyr. Beth mae hynny’n ei olygu i ni?

12-13. (a) Sut mae rhywun yn teimlo o dderbyn maddeuant Jehofa? (b) Pa mor hir mae maddeuant Jehofa yn para?

12 Mae derbyn y ffaith bod Jehofa wedi maddau inni yn ein hadfywio, ac yn rhoi heddwch meddwl a chydwybod lân inni. Gall hynny ond ddod oddi wrth Jehofa ei hun. (Act. 3:19, BCND) Pan mae Jehofa yn maddau inni, mae ef yn trwsio ei berthynas â ni, fel petasen ni heb bechu yn y lle cyntaf.

13 Unwaith i Jehofa faddau inni, fydd ef ddim yn dal y pechod hwnnw yn ein herbyn, nac yn ein cosbi ni eto amdano. (Esei. 43:25; Jer. 31:34) Mae Jehofa yn rhoi ein pechodau mor bell oddi wrthon ni “ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin.” * (Salm 103:12) Onid ydy myfyrio ar hynny yn rhyfeddol? Allwn ni ddim peidio â diolch i Jehofa am y ffordd mae’n maddau. (Salm 130:4) Ond pwy sy’n cael maddeuant gan Jehofa?

PWY SY’N CAEL MADDEUANT JEHOFA?

14. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn am faddeuant Jehofa?

14 I grynhoi beth rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn, dydy Jehofa ddim yn maddau ar sail pa mor ddifrifol oedd y pechod. Ac yn ei rôl fel Creawdwr, Llywodraethwr, a Barnwr, mae Jehofa yn pwyso a mesur y ffeithiau i gyd cyn penderfynu a fydd yn maddau i rywun. Gad inni edrych yn agosach ar rai o’r ffactorau mae Jehofa’n eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

15. Yn ôl Luc 12:47, 48, beth yw un ffactor mae Jehofa yn ei hystyried?

15 Fel dangosodd Iesu yn Luc 12:47, 48, un ffactor mae Jehofa yn ei hystyried ydy, a oedd y pechadur yn gwybod ei fod yn gwneud rhywbeth drwg? (Darllen.) Mae’n beth difrifol ofnadwy i rywun gynllunio gwneud rhywbeth drwg, gan wybod yn iawn y bydd yn brifo Jehofa. Os bydd rhywun yn gwneud hynny, mae ’na beryg na fydd yn cael maddeuant. (Marc 3:29; Ioan 9:41) Ond mae’n rhaid cyfaddef, weithiau rydyn ni’n ymwybodol ein bod ni wedi gwneud rhywbeth anghywir. Yn yr achos hwnnw, a oes ’na obaith inni? Oes! Ac mae hynny’n dod â ni at ffactor arall mae Jehofa yn ei hystyried.

Gallwn ni fod yn sicr bydd Jehofa yn maddau inni os ydyn ni’n edifarhau go iawn (Gweler paragraffau 16-17)

16. Beth mae edifarhau yn ei olygu, a pham mae hynny’n bwysig os ydyn ni am gael maddeuant Jehofa?

16 Mae Jehofa hefyd yn ystyried a ydy’r pechadur yn edifar. Beth mae hynny’n ei olygu? Os ydy rhywun yn edifar, bydd yn “newid ei ffordd o feddwl, ei agwedd, neu ei fwriadau.” Bydd hefyd yn difaru’r pethau drwg a wnaeth, a theimlo’n drist am ei fod heb wneud y peth iawn. Bydd hefyd yn difaru gadael i’w berthynas â Jehofa fynd yn wan, ac yn sylweddoli mai dyna wnaeth arwain at y pechod. Mae’n debyg dy fod ti’n cofio bod y brenhinoedd Dafydd a Manasse wedi pechu’n ddifrifol. Ond cofia hefyd fod Jehofa wedi maddau iddyn nhw am eu bod nhw wedi edifarhau go iawn. (1 Bren. 14:8) Dydy hi ddim yn ddigon inni ond deimlo’n sori am yr hyn rydyn ni wedi ei wneud. Mae’n rhaid i Jehofa weld tystiolaeth ein bod ni’n wir edifar er mwyn maddau inni. Felly mae’n rhaid inni weithredu. * Sydd eto’n dod â ni at rywbeth arall mae Jehofa yn ei ystyried.

17. Beth mae’n ei olygu i newid ein ffyrdd a pham mae hynny’n hanfodol os ydyn ni am osgoi ailadrodd ein camgymeriadau? (Eseia 55:7)

17 Rhywbeth pwysig arall y mae Jehofa yn ei ystyried ydy’r newidiadau mae rhywun yn eu gwneud. Mae hynny’n cynnwys cefnu’n llwyr ar ei hen ffordd o fyw a dechrau byw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. (Darllen Eseia 55:7.) Mae’n rhaid iddo hefyd ddechrau meddwl fel Jehofa, a bod yn benderfynol o beidio byth â throi’n ôl at ei arferion drwg. (Rhuf. 12:2; Eff. 4:23; Col. 3:7-10) Wrth gwrs, mae maddeuant Jehofa ond yn bosib ar sail ein ffydd yn aberth Iesu. A dyna’n union bydd Jehofa yn ei wneud pan fydd yn gweld ein bod ni’n gwneud ein gorau i newid ein ffordd o fyw.—1 Ioan 1:7.

TRYSTIA Y BYDD JEHOFA YN MADDAU ITI

18. Beth rydyn ni wedi ei drafod am faddeuant Jehofa?

18 Gad inni adolygu rhai o’r prif bwyntiau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon. Jehofa ydy’r gorau yn y bydysawd am faddau. Pam gallwn ni ddweud hynny? Yn gyntaf, mae wastad yn barod i faddau. Yn ail, mae’n gwybod popeth amdanon ni. Felly, ef yw’r Person gorau i wybod a ydyn ni’n wir edifar. Ac yn drydydd, pan mae Jehofa yn maddau, mae’n maddau’n llwyr, ac iddo ef mae hi fel petasen ni heb bechu yn y lle cyntaf. Mae hynny’n golygu y gallwn ni gael cydwybod lân a phlesio Jehofa unwaith eto.

19. Pam gallwn ni fod yn llawen er ein bod ni’n amherffaith ac yn dal i bechu?

19 Wrth gwrs, tra ein bod ni’n dal yn amherffaith, byddwn ni’n dal i bechu. Ond mae Insight on the Scriptures, Cyfrol 2, tudalen 771 yn rhoi cysur inni. Mae’n dweud: “Mae Jehofa yn drugarog ac yn gwybod bod gan ei weision wendidau. Felly does dim rhaid iddyn nhw ddigalonni’n llwyr am eu bod nhw’n gwneud camgymeriadau oherwydd pechod. (Sal 103:8-14; 130:3) Os ydyn nhw’n gwneud eu gorau glas i blesio Jehofa, gallan nhw fod yn llawen. (Php 4:4-6; 1In 3:19-22).” Onid ydy hynny’n galonogol iawn?

20. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

20 Rydyn ni’n ddiolchgar iawn bod Jehofa mor barod i faddau inni pan ydyn ni’n wirioneddol sori ar ôl pechu. Ond sut gallwn ni efelychu maddeuant Jehofa? Ym mha ffyrdd mae ein maddeuant ni’n debyg i faddeuant Jehofa? Ac ym mha ffyrdd mae’n wahanol? Pam mae hi‘n bwysig ein bod ni’n deall y gwahaniaeth? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiynau hynny.

CÂN 45 Myfyrdod Fy Nghalon

^ Mae llawer ohonon ni weithiau’n teimlo nad ydyn ni’n haeddu maddeuant Jehofa, er ei fod yn addo yn y Beibl ei fod yn fodlon maddau i’r rhai edifar. Yn yr erthygl hon byddwn ni’n trafod pam gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa wastad yn cadw at ei Air yn hyn o beth.

^ ESBONIAD: Mae “edifarhau” yn golygu bod rhywun yn newid ei ffordd o feddwl, yn difaru ei hen ffordd o fyw a’r pethau drwg a wnaeth, ac yn difaru peidio â gwneud y peth iawn pan oedd ganddo’r cyfle. Mae gwir edifeirwch yn dwyn ffrwyth ac yn cymell rhywun i newid ei ffordd o fyw.