Neidio i'r cynnwys

Faint o Enwau Sydd Gan Dduw?

Faint o Enwau Sydd Gan Dduw?

Ateb y Beibl

 Dim ond un enw personol sydd gan Dduw. Mae’n cael ei ysgrifennu יהוה yn Hebraeg, ac yn aml yn cael ei drosi yn “Jehofa” yn Gymraeg. a Drwy ei broffwyd Eseia, dywedodd Duw: “Myfi yw Jehofah: Dyna yw fy enw.” (Eseia 42:8, Jenkins-Herbert Morgan) Mae’r enw hwn yn ymddangos tua 7,000 o weithiau yn llawysgrifau hynafol y Beibl​—yn amlach o lawer nag unrhyw derm arall ar gyfer Duw, neu unrhyw enw personol arall o ran hynny. b

Oes gan Jehofa enwau eraill?

 Er bod y Beibl yn defnyddio un enw personol yn unig i gyfeirio at Dduw, mae’n defnyddio llawer o deitlau a disgrifiadau ar ei gyfer. Mae’r rhestr ganlynol o rai o’r teitlau a’r disgrifiadau hynny yn dangos sut mae pob un yn datgelu agwedd ar natur neu bersonoliaeth Jehofa.

Teitl

Cyfeiriad

Ystyr

Yr Alffa a’r Omega

Datguddiad 1:8; 21:6; 22:13

“Y Cyntaf a’r Olaf,” neu’r “Dechrau a’r Diwedd,” sy’n golygu nad oedd ’na Dduw Hollalluog cyn Jehofa, a fydd ’na’r un ar ei ôl chwaith. (Eseia 43:10) Alffa ac omega yw llythrennau cyntaf ac olaf y wyddor Roeg.

Allah

(Dim)

Yn tarddu o’r Arabeg, nid yw’r gair “Allah” yn enw personol, ond yn deitl sy’n golygu “Duw.” Mae cyfieithiadau o’r Beibl yn Arabeg ac ieithoedd eraill yn defnyddio “Allah” yn gyfystyr â “Duw.”

Arglwydd

Salm 135:5, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Perchennog neu feistr; Hebraeg ʼA·ddônʹ ac ʼAddo·nimʹ.

Arglwydd y Lluoedd, Arglwydd y Sabaoth

Eseia 1:9, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Rhufeiniaid 9:​29, Beibl Cysegr-lân

Pennaeth ar filoedd ar filoedd o angylion. Gall y teitl “Arglwydd y Sabaoth” hefyd gael ei drosi “Jehofa y lluoedd.”​—Amos 9:​5, J T Evans.

Brenin tragwyddoldeb

1 Timotheus 1:17, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Does dim dechrau na diwedd i’w deyrnasiad.

Bugail

Salm 23:1

Yn gofalu am ei addolwyr.

Craig

Salm 18:​2, 46

Lloches ddiogel a ffynhonnell achubiaeth.

Creawdwr

Effesiaid 3:9, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Daeth â phopeth i fodolaeth.

Crochenydd

Eseia 64:8

Ag awdurdod dros unigolion a chenhedloedd, fel mae gan grochenydd awdurdod dros ei glai.​—Rhufeiniaid 9:​20, 21.

Dedwydd Dduw, Duw Hapus

1 Timotheus 1:​11, Epistolau Bugeiliol, Richard Davies; New World Translation

Llawenydd a hapusrwydd yw rhai o’i brif nodweddion.​—Salm 104:31.

Duw

Genesis 1:1

Un sy’n cael ei addoli; Un cryf. Mae’r gair Hebraeg ʼElo·himʹ yn lluosog, sy’n dynodi mawredd, urddas, neu ragoriaeth Jehofa.

Duw y duwiau

Deuteronomium 10:17

Y Duw goruchaf, yn wahanol i’r “eilunod diwerth” sy’n cael eu haddoli gan rai.​—Eseia 2:8.

Eiddigeddus

Exodus 34:14

Yn mynnu mai ef yn unig sydd i gael ei addoli. Mae’r term hefyd wedi cael ei gyfieithu “nid yw’n goddef cystadleuwyr” ac “yn mynnu ymroddiad llwyr.”​—New World Translation, gweler hefyd y troednodyn.

Goruchaf

Salm 47:2

Ef sydd â’r safle uchaf un.

Gwaredwr, Prynwr

Eseia 41:14, Beibl Cymraeg Newydd; Salm 19:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Yn adennill dynolryw, neu’n ei phrynu’n ôl oddi wrth bechod a marwolaeth drwy aberth pridwerthol Iesu Grist.​—Ioan 3:​16.

Gwneuthurwr

Eseia 27:11, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Daeth â phopeth i fodolaeth.​—Datguddiad 4:​11.

Gwrandawr gweddi

Salm 65:2, Lewis Valentine

Yn gwrando’n bersonol ar bob gweddi sy’n cael ei gofyn mewn ffydd.

Hen Ddihenydd, Un Hynafol

Daniel 7:9, 13, 22, Beibl Cymraeg Diwygiedig; beibl.net

Doedd ganddo ddim dechreuad; roedd yn bodoli am dragwyddoldeb cyn bod unrhyw un neu unrhyw beth arall yn bodoli.​—Salm 90:2.

Hollalluog

Salm 68:14

 grym anorchfygol. Mae’r ymadrodd Hebraeg ʼEl Shad·daiʹ, “Duw Hollalluog,” yn codi saith gwaith yn y Beibl.

Iachawdwr

Eseia 12:2, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Yn achub rhag peryg neu ddinistr.

Meistr, Meistr Sofran

Genesis 15:2, Actau 4:24

Â’r awdurdod uchaf; Hebraeg ʼAddo·naiʹ.

Tad

Mathew 6:9

Yr un sy’n rhoi bywyd.

Yr Un Sanctaidd

Diarhebion 9:​10

Yn fwy sanctaidd (moesol lân a phur) nag unrhyw fod arall.

Ydwyf yr Hwn Ydwyf

Exodus 3:14, Beibl Cysegr-lân

Yn dod yn beth bynnag sydd ei angen er mwyn cyflawni ei ewyllys. Mae’r ymadrodd hwn hefyd wedi cael ei gyfieithu “Byddaf yr hyn a fyddaf” neu “Ydwyf Beth Bynnag yr Wyf am Fod.” (Y Beibl Cyssegr-lan, 1908, troednodyn; Exodus, Maurice Loader) Mae’r disgrifiad hwn yn helpu i esbonio’r enw personol, Jehofa, yn yr adnod nesaf.​—Exodus 3:​15, D. Francis Roberts.

Enwau llefydd yn yr Ysgrythurau Hebraeg

 Mae enwau rhai llefydd yn y Beibl yn cynnwys enw personol Duw, ond nid enwau eraill ar gyfer Duw ydy’r rhain.

Enw’r lle

Cyfeiriad

Ystyr

Jehofa-jire

Genesis 22:13, 14, Beibl Cysegr-lân

Jehofa Sy’n Darparu.

Jehofa-nissi

Exodus 17:15, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Jehofa Yw “Fy Fflag” neu “Fy Maner.” (beibl.net; troednodyn, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae Jehofa yn Dduw y gall ei bobl droi ato i’w hamddiffyn a’u helpu.​—Exodus 17:13-​16.

Jehofa-shalom

Barnwyr 6:​23, 24, Beibl Cymraeg Diwygiedig

Heddwch yw Jehofa.

Jehofa-shammah

Eseciel 48:35, troednodyn, Beibl Cyssegr-lan, 1908

Mae Jehofa Yno.

Rhesymau dros wybod a defnyddio enw Duw

  •   Mae’n rhaid fod Duw yn meddwl bod ei enw personol, Jehofa, yn bwysig, oherwydd fe wnaeth ei gynnwys filoedd o weithiau yn y Beibl.​—Malachi 1:​11.

  •   Fe wnaeth Mab Duw, Iesu, bwysleisio pwysigrwydd enw Duw dro ar ôl tro. Er enghraifft, gweddïodd ar Jehofa: “Sancteiddier dy enw.”​—Mathew 6:9, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Ioan 17:6, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  •   Mae’r rhai sy’n dod i wybod enw Duw a’i ddefnyddio yn cymryd y camau cyntaf tuag at ddod yn ffrind i Jehofa. (Salm 9:​10, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Malachi 3:​16, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae perthynas o’r fath yn eu galluogi i elwa ar addewid Duw: “Am iddo lynu wrthyf, fe’i gwaredaf; fe’i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.”​—Salm 91:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  •   Mae’r Beibl yn cydnabod bod ’na rai “sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau’ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‘dduwiau’ ac ‘arglwyddi’ eraill).” (1 Corinthiaid 8:​5, 6) Eto, mae’n enwi Jehofa fel yr unig wir Dduw.​—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

a Mae rhai ysgolheigion Hebraeg yn ffafrio’r trosiad “Iahwe” ar gyfer enw Duw.

b Mae ffurf fer yr enw dwyfol, “Jah,” yn ymddangos tua 50 gwaith yn y Beibl, gan gynnwys ei ddefnydd yn y gair “Haleliwia,” neu “Aleliwia,” sy’n golygu Molwch Jah.​—Datguddiad 19:1; beibl.net; Beibl Cysegr-lân.