Neidio i'r cynnwys

Sut Gallwch Chi Ddod i Adnabod Duw yn Well?

Sut Gallwch Chi Ddod i Adnabod Duw yn Well?

Ateb y Beibl

 Os ydych chi’n gwneud ymdrech i ddysgu am Dduw a trio ei blesio mi fydd “yntau’n nesáu atoch chi.” (Iago 4:8) Wedi’r cwbl, mae’r Beibl yn dweud, “dydy ef ddim yn bell oddi wrth unrhyw un ohonon ni.”—Actau 17:27.

 Sut i ddod i adnabod Duw

 Darllenwch y Beibl

  •  Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r holl Ysgrythurau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw.”—2 Timotheus 3:16.

  •  Ystyr: Er bod Duw wedi ysbrydoli dynion i ysgrifennu’r Beibl, Duw ei hun ydy’r awdur. Yn y llyfr hwnnw, mae Duw wedi datgelu nid yn unig beth mae ef yn ei fwriadu inni, ond hefyd ei rinweddau, er enghraifft ei gariad, ei gyfiawnder, a’i drugaredd.—Exodus 34:6; Deuteronomium 32:4.

  •  Beth allwch chi ei wneud? Darllenwch y Beibl bod dydd. (Josua 1:8) Meddyliwch am beth rydych chi’n ei ddarllen, a gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth mae hyn yn ei ddysgu imi am Dduw fel Person?’—Salm 77:12.

     Er enghraifft, darllenwch Jeremeia 29:11, ac yna gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth mae Duw eisiau imi—bendith neu niwed? Ydy ef yn Dduw creulon, neu ydy ef eisiau imi gael dyfodol da?’

 Edrychwch ar y greadigaeth

  •  Mae’r Beibl yn dweud: “Rydyn ni’n gallu deall ei rinweddau anweledig os ydyn ni’n astudio’r ffordd mae’r byd wedi cael ei greu. Rydyn ni’n gallu dysgu amdano drwy edrych yn fanwl ar y pethau mae ef wedi eu creu.”—Rhufeiniaid 1:20.

  •  Ystyr: Yn union fel mae llun yn datgelu rhywbeth am yr arlunydd, neu mae peiriant cymhleth yn datgelu rhywbeth am y dylunydd, mae creadigaeth Duw yn datgelu rhannau o’i bersonoliaeth. Er enghraifft, rydyn ni’n gweld doethineb Duw yn y ffordd rhyfeddol a chymhleth mae’r ymennydd yn gweithio, ac mae ei bŵer yn amlwg o feddwl am gymaint o egni sydd yn yr haul a’r sêr.—Salm 104:24; Eseia 40:26.

  •  Beth allwch chi ei wneud? Cymerwch amser i edrych ar fyd natur a dysgu amdano. Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth mae rhyfeddodau natur yn ei ddysgu imi am Dduw?’ a Gan ddweud hynny, allwn ni ddim dysgu popeth am Dduw o edrych ar greadigaeth. Dyna pam mae wedi rhoi’r Beibl inni.

 Defnyddiwch enw Duw

  •  Mae’r Beibl yn dweud: “Bydda i’n amddiffyn yr un sy’n fy nabod i. Pan fydd e’n galw arna i, bydda i’n ateb.”—Salm 91:14, 15.

  •  Ystyr: Jehofa ydy enw Duw, ac mae’n talu sylw arbennig i’r rhai sy’n adnabod yr enw hwnnw ac yn ei barchu. b (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân; Malachi 3:16, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae Duw wedi cyflwyno ei hun inni drwy ddweud wrthon ni beth yw ei enw bersonol. Dywedodd: “Jehofa ydw i. Dyna yw fy enw.”—Eseia 42:8, Cyfieithiad y Byd Newydd.

  •  Beth allwch chi ei wneud? Defnyddiwch enw Jehofa wrth sôn amdano.

 Siaradwch â Jehofa mewn gweddi

  •  Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy’n galw arno.”—Salm 145:18.

  •  Ystyr: Mae Jehofa yn agosáu at y rhai sy’n gweddïo arno mewn ffydd. Mae gweddi yn rhan o’n haddoliad ac yn dangos cymaint rydyn ni’n parchu Duw.

  •  Beth allwch chi ei wneud? Gweddïwch yn aml. (1 Thesaloniaid 5:17) Dywedwch wrth Dduw yn union sut rydych chi’n teimlo a beth sy’n eich poeni chi.—Salm 62:8. c

 Adeiladwch eich ffydd yn Nuw

  •  Mae’r Beibl yn dweud: “Heb ffydd mae’n amhosib plesio Duw’n dda.”—Hebreaid 11:6.

  •  Ystyr: I agosáu at Dduw, mae’n rhaid cael ffydd ynddo. Mae hynny’n golygu mwy na dim ond credu ei fod yn bodoli. Mae’n golygu trystio ynddo’n llwyr, hynny ydy, trystio y bydd ei addewidion yn dod yn wir a bod ei safonau yn ddoeth. Wedi’r cwbl, mae tryst yn hanfodol mewn unrhyw berthynas.

  •  Beth allwch chi ei wneud? Dydy ffydd go iawn ddim yn ddall. Mae wedi ei seilio ar wybodaeth. (Rhufeiniaid 10:17) Felly astudiwch y Beibl i weld drostoch chi’ch hunan eich bod chi’n gallu trystio Duw a’i gyngor. Bydd Tystion Jehofa yn fodlon astudio’r Beibl gyda chi. d

 Gwnewch beth sy’n plesio Duw

  •  Mae’r Beibl yn dweud: “Dyma beth mae caru Duw yn ei olygu, ein bod ni’n cadw ei orchmynion.”—1 Ioan 5:3.

  •  Ystyr: Mae Jehofa yn agos at y rhai sy’n ei garu, ac sydd yn dangos hynny drwy wneud eu gorau glas i ufuddhau iddo.

  •  Beth allwch chi ei wneud? Wrth ichi astudio’r Beibl, cymerwch sylw o beth mae Duw yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi. Gofynnwch i chi’ch hun, ‘Pa newidiadau alla i eu gwneud er mwyn plesio Duw?’—1 Thesaloniaid 4:1.

 Rhowch gyngor Duw ar waith a gwelwch sut mae’n gofalu amdanoch chi

  •  Mae’r Beibl yn dweud: “Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD!”—Salm 34:8.

  •  Ystyr: Mae Duw eisiau ichi weld drostoch chi’ch hun pa mor dda ydy ef. Ac unwaith ichi deimlo ei gariad a’i gefnogaeth byddwch chi eisiau closio ato.

  •  Beth allwch chi ei wneud? Wrth ichi ddarllen y Beibl, rhowch gyngor Duw ar waith a sylwch ar y gwahaniaeth mae’n ei wneud. (Eseia 48:17, 18) Sylwch hefyd ar sut mae Duw wedi helpu pobl eraill i drechu heriau, i gael hyd i hapusrwydd go iawn, ac i wella nid yn unig eu bywydau nhw’u hunain ond hefyd bywydau eu teuluoedd. e

 Camsyniadau am adnabod Duw

 Camsyniad: Mae Duw yn rhy bwerus a phwysig i eisiau bod yn agos aton ni.

 Ffaith: Mae’n wir mai Duw ydy’r Person mwyaf pwerus a phwysig yn y bydysawd, ond mae ef eisiau inni glosio ato. A dweud y gwir, mae’r Beibl yn llawn enghreifftiau o ddynion a merched a ddaeth yn ffrindiau agos i Dduw.—Actau 13:22; Iago 2:23.

 Camsyniad: Allwn ni ddim dod i adnabod Duw am ei fod yn rhy anodd inni ei ddeall.

 Ffaith: Mae ’na rai bethau am Dduw sy’n anodd inni ei ddeall, fel y ffaith ei fod yn ysbryd anweledig, ond mae hi’n bosib dod i’w adnabod. Mae’r Beibl hyd yn oed yn dweud wrthon ni fod rhaid inni ddod i adnabod Duw er mwyn cael bywyd tragwyddol. (Ioan 17:3) Mae’r Beibl yn esbonio inni, mewn ffordd syml, sut fath o bersonoliaeth sydd gan Dduw, beth mae’n ei fwriadu i ni a’r ddaear, a beth yw ei safonau. (Eseia 45:18, 19; 1 Timotheus 2:4) Mae’r Beibl hefyd yn datgelu enw Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Oherwydd hyn i gyd, gallwn ni nid yn unig ddod i adnabod Duw, ond hefyd closio ato.—Iago 4:8.

a I weld enghreifftiau o ddoethineb Duw ym myd natur, gwelwch y gyfres, “Wedi ei Ddylunio?

b Mae’r enw Jehofa yn golygu, “Mae Ef yn Achosi i Fod.” Drwy ddatgelu ei enw inni, mae Duw yn dweud i bob pwrpas: ‘Bydda i’n achosi i fy nymuniad a fy mwriad i ddod yn realiti. Dw i bob tro yn cadw at fy ngair.’

c Gwelwch yr erthygl Why Pray? Will God Answer Me?

d Am fwy o wybodaeth gwyliwch y fideo Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd?

e Gwelwch yr gyfres “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau.”