Neidio i'r cynnwys

Canrif o Gerddoriaeth Sy’n Moli Duw

Canrif o Gerddoriaeth Sy’n Moli Duw

“Dw i eisiau iti fynd i Columbia Studios yn Efrog Newydd i ganu un o’n hemynau ni. Mi fyddan nhw’n gwneud recordiad proffesiynol o’r emyn. Paid â dweud wrth neb.”

William Mockridge

Dyma’r dasg anarferol a gafodd William Mockridge gan Charles Taze Russell tua diwedd 1913. a Cafodd y gân honno, a elwir gan rai “The Sweet By-and-By,” ei chynhyrchu ar ffurf record 78-rpm. Yn nes ymlaen, daeth William i wybod y byddai’r gân honno yn cael ei defnyddio i agor y “Photo-Drama of Creation.” Cyflwyniad gweledol oedd hwn o anerchiadau Beiblaidd a cherddoriaeth wedi eu cyfuno â ffilmiau mud a lluniau wedi eu peintio ar sleidiau gwydr. Cafodd y “Photo-Drama” ei dangos am y tro cyntaf ym mis Ionawr 1914, yn Efrog Newydd.

Roedd record William yn un o fwy na 50 a oedd yn cael eu chwarae ar ffonograffau yn ystod dangosiadau o’r “Photo-Drama” yn yr iaith Saesneg. Er bod y rhan fwyaf o’r gerddoriaeth wedi ei chynhyrchu gan rai eraill, roedd rhai o’r recordiau, gan gynnwys un William, wedi eu comisiynu gan Fyfyrwyr y Beibl, ac fe’u canwyd i eiriau o’r llyfr Hymns of the Millennial Dawn, un o lyfrau canu y Myfyrwyr yr adeg honno.

Rhoi Sylw i’r Geiriau

Am flynyddoedd, roedd y Tystion yn defnyddio caneuon ar gyfer addoli a ysgrifennwyd gan eraill. Ond, roedden nhw ar brydiau yn newid y geiriau i adlewyrchu eu dealltwriaeth o’r Ysgrythurau.

Er enghraifft, teitl un o’r caneuon a ddefnyddiwyd yn y “Photo-Drama” oedd “Our King Is Marching On,” sef addasiad o’r gân “Battle Hymn of the Republic.” Mae’r pennill cyntaf yn dechrau: “Mine eyes have seen the glory of the coming of the Lord.” Ond, newidiodd Myfyrwyr y Beibl y geiriau i “Mine eyes can see the glory of the presence of the Lord.” Pwrpas y newid hwn oedd adlewyrchu eu cred bod teyrnasiad Iesu Grist yn cynnwys nid yn unig ei ddyfodiad, ond hefyd ei bresenoldeb dros gyfnod penodol o amser.​—Mathew 24:3.

Pan gyhoeddwyd Singing and Accompanying Yourselves With Music in Your Hearts ym 1966, gwnaethpwyd ymdrech i gael gwared ar unrhyw gerddoriaeth a oedd yn dod o ffynonellau seciwlar neu a oedd â’i gwreiddiau mewn crefyddau eraill. Yn y flwyddyn honno, ffurfiodd y Tystion gerddorfa fechan a recordio pob un o’r 119 cân yn y llyfr. Defnyddiwyd y recordiadau hyn yn y cynulleidfaoedd i gyfeilio’r canu, ac roedd rhai Tystion yn mwynhau gwrando arnyn nhw gartref hefyd.

Yn 2009, cyhoeddodd Tystion Jehofa lyfr caneuon newydd o’r enw, Canwch i Jehofah. Mae fersiynau lleisiol o’r caneuon hyn wedi eu recordio mewn dwsinau o ieithoedd. Yn 2013, dechreuodd y Tystion gyhoeddi am y tro cyntaf fideos gyda chaneuon ar gyfer plant. Teitl un ohonyn nhw yw Pray Anytime. Mae’r caneuon ar jw.org yn cael eu lawrlwytho filiynau o weithiau bob mis.

Mae llawer wedi dweud eu bod nhw wrth eu boddau yn gwrando ar y gerddoriaeth hon. Ynglŷn â’r llyfr Canwch i Jehofah, ysgrifennodd un ddynes o’r enw Julie: “Mae’r caneuon newydd yn hyfryd! Pan ydw i ar fy mhen fy hun, rwy’n chwarae’r rhai sy’n mynegi’r ffordd rwy’n teimlo. Ac yna rwy’n teimlo bod fy mherthynas â Jehofa yn cryfhau ac fy mod i’n fwy penderfynol nag erioed o roi fy holl fywyd iddo.”

Dyma beth ysgrifennodd un fam o’r enw Heather am y ffordd mae’r fideo Pray Anytime wedi dylanwadu ar ei phlant sy’n saith ac yn naw oed: “Mae’r fideo wedi eu helpu nhw i weddïo, nid yn unig ar ddechrau’r dydd a phan fyddwn ni i gyd gyda’n gilydd, ond unrhyw amser maen nhw’n dymuno siarad â Jehofa.”

a Charles Taze Russell (1852–​1916) oedd yn arwain y ffordd ymhlith Myfyrwyr y Beibl, fel y gelwid Tystion Jehofa yr adeg honno.