Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Roedd Ninefe yn ddinas gydag adeiladau a gerddi godidog

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Beth ddigwyddodd i Ninefe ar ôl dyddiau Jona?

ERBYN y seithfed ganrif COG, Asyria oedd ymerodraeth fwyaf y byd. “Roedd yn mynd o Cyprus yn y gorllewin i Iran yn y dwyrain, ac ar un adeg roedd hyd yn oed yn cynnwys yr Aifft,” meddai blog Yr Amgueddfa Brydeinig. Ei phrifddinas, Ninefe, oedd y ddinas fwyaf yn y byd. Roedd ganddi erddi godidog, palasau crand, a llyfrgelloedd anferth. Mae arysgrifau o Ninefe gynt yn dangos bod y Brenin Ashurbanipal, fel brenhinoedd eraill Asyria, wedi galw ei hun yn “frenin y byd.” Ar y pryd roedd hi’n ymddangos yn amhosib concro Asyria a Ninefe.

Grym byd Asyria oedd ymerodraeth fwyaf y byd ar y pryd

Ond pan oedd Asyria ar ei chryfaf, rhagfynegodd proffwyd Jehofa, Seffaneia: “Bydd [Jehofa] . . . yn dinistrio Asyria. Bydd dinas Ninefe yn adfeilion; yn sych fel anialwch diffaith.” Hefyd rhagfynegodd proffwyd Jehofa, Nahum: “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur! . . . Distryw, difrod, a dinistr! . . . Fydd neb yn gallu edrych yn hir—Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud, ‘Mae Ninefe’n adfeilion!’” (Seff. 2:13; Nah. 2:9, 10; 3:7) Wrth glywed y proffwydoliaethau hynny, efallai bod pobl wedi meddwl: ‘Ydy hynny’n bosib? Allai Asyria gael ei choncro o gwbl?’ Mae’n rhaid oedd hi’n anodd credu y gallai hynny ddigwydd.

Daeth Ninefe yn ddiffeithwch llwyr!

Er hynny, dyna’n union ddigwyddodd! Erbyn diwedd y seithfed ganrif COG roedd Asyria wedi cael ei choncro gan y Babiloniaid a’r Mediaid. Ymhen amser, roedd pawb wedi gadael Ninefe ac wedi anghofio amdani’n llwyr! Yn ôl un cyhoeddiad gan Amgueddfa Gelf Fetropolitanaidd Efrog Newydd, “Erbyn y canol oesoedd, roedd y ddinas wedi ei chladdu, doedd dim ar ôl ohoni i’w weld, ac roedd pobl ond yn gwybod amdani o ddarllen y Beibl.” Ac erbyn yr 19eg ganrif, meddai’r Biblical Archaeology Society, “doedd neb yn gallu dweud yn iawn os oedd prifddinas fawr Asyria erioed wedi bodoli.” Ond yna ym 1845, gwnaeth yr archaeolegwr Austen Henry Layard ddechrau cloddio safle Ninefe. Daeth ef o hyd i adfeilion oedd yn dangos bod Ninefe arfer bod yn ddinas odidog.

Mae’r ffaith bod pob manylyn am broffwydoliaeth Ninefe wedi cael ei gyflawni yn cryfhau ein ffydd y bydd proffwydoliaethau’r Beibl ynglŷn â diwedd grymoedd gwleidyddol heddiw hefyd yn cael eu cyflawni.—Dan. 2:44; Dat. 19:15, 19-21.