Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PROSIECT ASTUDIO

Cadwa’n Effro Drwy Astudio’n Ddwfn

Cadwa’n Effro Drwy Astudio’n Ddwfn

Darllen Daniel 9:​1-19 i ddysgu’r pwysigrwydd o astudio’n ddwfn.

Edrycha ar y cyd-destun. Pa bethau oedd wedi digwydd yn ddiweddar, a sut gwnaethon nhw effeithio ar Daniel? (Dan. 5:29–6:5) Sut byddet ti wedi teimlo petaset ti yno?

Cloddio’n Ddyfnach. Pa lyfrau sanctaidd efallai oedd ar gael i Daniel? (Dan. 9:2; w11-E 1/1 22 ¶2) Pam gwnaeth Daniel gyffesu ei bechodau ef yn ogystal â phechodau cenedl Israel? (Lef. 26:​39-42; 1 Bren. 8:​46-50; dp-E 182-184) Sut mae gweddi Daniel yn dangos ei fod wedi astudio Gair Duw yn ddwfn?—Dan. 9:​11-13.

Meddylia am y gwersi. Gofynna i ti dy hun:

  • ‘Sut galla i gadw fy ffocws er gwaethaf beth sy’n digwydd yn y byd?’ (Mich. 7:7)

  • ‘Sut bydda i’n elwa o astudio Gair Duw yn ddwfn, fel gwnaeth Daniel?’ (w04-E 8/1 12 ¶17)

  • ‘Pa bynciau astudio personol a fydd yn fy helpu “i fod yn wyliadwrus”?’ (Math. 24:​42, 44; w12-E 8/15 5 ¶7-8)