Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 5

Gwerth Arweiniad gan Oedolion

Gwerth Arweiniad gan Oedolion

BETH MAE ARWEINIAD GAN OEDOLION YN EI GYNNWYS?

Mae plant angen arweiniad a chyngor gan oedolion. A chithau’n rhiant, chi sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni’r rôl hon; y gwir yw, mae’n ddyletswydd. Ond, gall oedolion eraill helpu i arwain y plant hefyd.

PWYSIGRWYDD ARWEINIAD GAN OEDOLION

Mewn sawl gwlad, dydy plant ddim yn treulio llawer o amser gydag oedolion. Ystyriwch:

  • Mae plant yn treulio oriau maith yn yr ysgol, lle mae llawer mwy o ddisgyblion nag athrawon ac oedolion eraill.

  • Mae rhai pobl ifanc yn mynd adref o’r ysgol i dŷ gwag gan fod eu rhieni’n dal yn y gwaith.

  • Yn ôl un astudiaeth, mae plant rhwng 8 a 12 mlwydd oed yn yr Unol Daleithiau yn treulio ar gyfartaledd tua chwe awr bob dydd ar gyfryngau adloniant. *

Dywed y llyfr Hold On to Your Kids: “Dydy pobl ifanc ddim yn troi at eu mamau, eu tadau, eu hathrawon, nac oedolion cyfrifol eraill er mwyn cael eu hyfforddi, eu siapio, a’u harwain, ond yn troi at . . . eu cyfoedion.”

SUT I ROI ARWEINIAD

Treuliwch amser gyda’ch plant.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dysga blentyn y ffordd orau i fyw, a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.”—Diarhebion 22:6.

Mae’n naturiol i blant barchu arweiniad eu rhieni. Dywed arbenigwyr fod plant, hyd yn oed arddegwyr, yn dal i werthfawrogi cyngor eu rhieni yn fwy na chyngor eu cyfoedion. “Mae rhieni yn parhau i fod y dylanwad mwyaf ar agweddau ac ymddygiad eu plant o’u glasoed nes eu bod yn oedolion ifanc,” meddai Dr Laurence Steinberg yn y llyfr You and Your Adolescent. Ychwanega fod “arddegwyr eisiau gwybod eich barn ac yn gwrando ar yr hyn yr ydych yn ei ddweud, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cyfaddef hynny nac yn cytuno â phopeth.”

Manteisiwch ar dueddiad naturiol eich plant i’ch parchu. Treuliwch amser gyda nhw a sôn wrthyn nhw am eich safbwyntiau, eich gwerthoedd, a’ch profiadau.

Trefnwch gwmni da iddyn nhw.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.”—Diarhebion 13:20.

A fedrwch chi feddwl am oedolyn a fydd yn esiampl dda i’ch arddegwr? Beth am drefnu i’r person hwnnw dreulio amser gyda’ch plentyn? Wrth gwrs, ni ddylech esgeuluso’ch cyfrifoldeb o fod yn rhiant. Ond gall anogaeth rhywun dibynadwy na fyddai byth yn niweidio’ch plentyn ychwanegu at yr hyfforddiant rydych chi’n ei roi. Dywed y Beibl fod Timotheus, hyd yn oed pan oedd yn oedolyn, wedi elwa ar fod yn ffrind i’r apostol Paul, ac fe wnaeth Paul elwa ar gyfeillgarwch Timotheus hefyd.—Philipiaid 2:20, 22.

Heddiw, mae ’na lawer o deuluoedd sydd ddim yn byw gyda’i gilydd o dan yr un to, ac weithiau mae teidiau, neiniau, a’r teulu estynedig yn byw mewn gwahanol rannau o’r byd. Os mai dyna yw eich sefyllfa chi, ceisiwch greu cyfleoedd i’ch arddegwyr ddysgu oddi wrth oedolion sydd â’r rhinweddau rydych chi eisiau i’ch plant eu mabwysiadu.

^ Par. 9 Darganfyddodd yr astudiaeth fod rhai arddegwyr yn treulio bron i naw awr y dydd ar gyfryngau adloniant. Nid yw’r ystadegau hyn am blant ac arddegwyr yn cynnwys amser a dreuliwyd ar lein yn yr ysgol neu’n gwneud gwaith cartref.