Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Maremagnum/Corbis Documentary via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

A Fydd Armagedon yn Dechrau yn Israel?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

A Fydd Armagedon yn Dechrau yn Israel?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae’r Beibl yn disgrifio Armagedon, nid fel rhyfel sy’n effeithio ar un cwr o’r byd yn unig, ond fel rhyfel rhwng y llywodraethau dynol i gyd a Duw.

  •   “[Mae datganiadau] sydd wedi eu hysbrydoli gan gythreuliaid . . . [yn] mynd allan at frenhinoedd y ddaear gyfan, i’w casglu nhw at ei gilydd ar gyfer rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog. . . . A gwnaethon nhw gasglu’r brenhinoedd at ei gilydd i’r lle sy’n cael ei alw’n Hebraeg yn Armagedon.”—Datguddiad 16:14, 16.

 Mae’r gair “Armagedon” yn dod o’r gair Hebraeg Har Meghidôn sy’n golygu “Mynydd Megido.” Dinas ar dir Israel gynt oedd Megido. Dyna pam mae rhai’n credu y bydd rhyfel Armagedon yn digwydd yn Israel. Sut bynnag, nid yw ardal Megido nac unrhyw ardal arall yn y Dwyrain Canol yn ddigon mawr i gynnwys ‘brenhinoedd y ddaear gyfan’ a’u byddinoedd.

 Cafodd llyfr Datguddiad ei ysgrifennu “mewn arwyddion,” hynny yw mewn iaith symbolaidd. (Datguddiad 1:1) Mae Armagedon yn cyfeirio, nid at ardal ddaearyddol lythrennol, ond at sefyllfa fyd-eang pan fydd y cenhedloedd yn dod at ei gilydd i wrthwynebu llywodraeth Duw am y tro olaf.—Datguddiad 19:11-16, 19-21.