Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Bedydd?

Beth Yw Bedydd?

Ateb y Beibl

 Mae bedydd yn cyfeirio at berson yn cael ei drochi mewn dŵr ac yn dod allan ohono. a Mae hynny’n esbonio pam cafodd Iesu ei fedyddio mewn afon weddol fawr. (Mathew 3:13, 16) Yn yr un modd, pan ddaeth dyn o Ethiopia at “le lle roedd dŵr,” gofynnodd i gael ei fedyddio.—Actau 8:36-40.

Ystyr bedydd

 Mae’r Beibl yn cymharu bedydd i gael eich claddu. (Rhufeiniaid 6:4; Colosiaid 2:12) Mae bedydd trochiad yn symbol o rywun yn marw i’w hen ffordd o fyw a dechrau bywyd newydd fel Cristion wedi ei gysegru i Dduw. Mae bedydd a’r camau sy’n arwain ato yn drefn Duw i berson gael cydwybod lân wedi ei seilio ar ei ffydd yn aberth Iesu Grist. (1 Pedr 3:21, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Felly, dysgodd Iesu fod rhaid i’w ddisgyblion gael eu bedyddio.​—Mathew 28:19, 20.

Ydy bedydd trochiad yn golchi pechod i ffwrdd?

 Nac ydy. Mae’r Beibl yn dysgu mai dim ond drwy waed Iesu cawn ni ein glanhau oddi wrth bechod. (Rhufeiniaid 5:8, 9; 1 Ioan 1:7) Ond er mwyn elwa ar aberth Iesu mae rhaid i berson roi ffydd yn Iesu, newid ei ffordd o fyw i fyw yn unol â dysgeidiaethau Iesu, a chael ei fedyddio.—Actau 2:38; 3:19.

Ydy’r Beibl yn dysgu bedyddio babanod?

 Nac ydy. Dydy’r syniad o fedyddio babanod ddim yn ymddangos yn y Beibl. Mae rhai eglwysi’n perfformio defod lle mae’r baban yn cael ei “fedyddio.” Bydd y gweinidog yn taenellu diferion o ddŵr ar dalcen y baban ac yna’n ei enwi. Mae bedydd Cristnogol ar gyfer y rhai sy’n ddigon hen i ddeall a chredu yn y “newyddion . . . da am Dduw yn teyrnasu.” (Actau 8:12) Mae’n cael ei gysylltu â chlywed gair Duw, ei dderbyn, ac edifarhau—pethau mae babi yn methu eu gwneud.—Actau 2:22, 38, 41.

 Yn ychwanegol, mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn ystyried plant ifanc Cristnogion yn sanctaidd, neu’n lân yn ei olwg, oherwydd ffyddlondeb eu rhieni. (1 Corinthiaid 7:14) Petasai bedydd plant yn ddilys fydden nhw ddim angen i deilyngdod rhywun arall gael ei ymestyn iddyn nhw. b

Camsyniadau am fedydd Cristnogol

 Camsyniad: Mae taenellu neu dywallt diferion o ddŵr ar unigolyn yn lle trochiad llwyr yn dderbyniol.

 Ffaith: Mae pob bedydd yn y Beibl yn fedydd trochiad. Er enghraifft, pan wnaeth y disgybl Philip fedyddio dyn o Ethiopia, aethon nhw “i lawr i’r dŵr” ar gyfer y bedydd. Wedyn daethon nhw “yn ôl allan o’r dŵr.”—Actau 8:36-39. c

 Camsyniad: Mae’r Beibl yn awgrymu y cafodd babanod eu cynnwys pan gafodd teuluoedd cyfan eu bedyddio. Er enghraifft, mae’n dweud am swyddog carchar yn Philipi: “Cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio.”—Actau 16:31-34.

 Ffaith: Mae hanes tröedigaeth y swyddog carchar yn dangos bod y rhai a gafodd eu bedyddio yn deall ‘gair yr Arglwydd’ ac roedden nhw “mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.” (Actau 16:32, 34) Mae’r ffeithiau hynny yn arwain at y casgliad na fyddai unrhyw fabanod yn nheulu swyddog y carchar yn cael eu cynnwys yn y bedydd am nad oedden nhw’n gallu deall gair Jehofa.

 Camsyniad: Dysgodd Iesu fedydd babanod drwy ddweud mai rhai fel nhw sy’n derbyn teyrnasiad Duw.—Mathew 19:13-15; Marc 10:13-16.

 Ffaith: Doedd Iesu ddim yn trafod bedydd pan ddywedodd y geiriau hynny. Yn hytrach, roedd yn dangos y byddai rhaid i’r rhai oedd yn gymwys ar gyfer Teyrnas Dduw fod yn debyg i blant—yn ostyngedig ac yn barod i ddysgu.—Mathew 18:4; Luc 18:16, 17.

a Mae’r gair Groeg a gyfieithir “bedydd” yn dod o wreiddyn sy’n golygu “trochi.” Gweler y Theological Dictionary of the New Testament, Cyfrol I, tudalen 529.

b Yn ôl yr International Standard Bible Encyclopedia, “does unlle yn y T[estament] N[ewydd] sy’n sôn am fedydd babanod.” Dechreuodd yr arferiad oherwydd roedd gan bobl “syniad anghywir o beth oedd bedydd yn gallu ei wneud,” hynny yw, bod bedydd yn golchi pechodau i ffwrdd.—Cyfrol 1, tudalennau 416-417.

c O dan y pennawd “Bedydd (yn y Beibl),” mae’r New Catholic Encyclopedia yn dweud: “Mae’n amlwg fod bedydd yn yr Eglwys gynnar yn golygu cael eich trochi.”—Cyfrol 2, tudalen 59.