Gwybodaeth am Deithiau Tywys
A ddylwn i drefnu taith dywys o flaen llaw? Dylech. Gofynnwn i bawb drefnu taith dywys ymlaen llaw, boed y grŵp yn fawr neu’n fach, er mwyn inni sicrhau bod digon o le i bawb fwynhau y daith. Os gwelwch yn dda, bwciwch eich taith o leiaf wythnos ymlaen llaw. Dydy teithiau tywys ddim ar gael ar benwythnosau nac y tu allan i oriau gwaith.
Ydy’n bosib mynd ar daith dywys heb drefnu o flaen llaw? Os nad ydych chi wedi bwcio o flaen llaw, efallai na fydd lle ichi ar y daith. Dim ond rhif penodol sy’n gallu mynd ar daith dywys bob diwrnod.
Pryd dylwn i gyrraedd? Er mwyn osgoi cael gormod o bobl yn aros, plîs peidiwch â chyrraedd fwy na hanner awr cyn dechrau eich taith dywys.
Sut galla i drefnu taith dywys? Os ydy’ch grŵp yn cynnwys llai na dau ddeg o bobl, yna cliciwch “Bwcio Taith Dywys—Llai nag 20 o Bobl.” Fel arall, cliciwch “Bwcio Taith Dywys—20 o Bobl neu Fwy.”
Alla i newid neu ganslo taith dywys? Gallwch, drwy glicio ar y botwm “Gweld neu Newid Eich Taith Dywys.”
Beth galla i ei wneud os nad oes taith dywys ar gael ar ddyddiau sy’n gyfleus imi? Daliwch ati i edrych. Efallai bydd taith dywys yn dod ar gael wrth i eraill newid neu ganslo eu teithiau nhw.
Ga i ddod ag anifail anwes? Na. Ni chaniateir anifeiliaid anwes yn y Bethel, ac eithrio cŵn tywys.
Bwcio Taith Dywys—Llai nag 20 o Bobl
Bwcio Taith Dywys—20 neu Fwy o Bobl
Gweld neu Newid Taith Dywys
Lawrlwytho Taflen Daith
Cyfeiriad a Rhif Ffôn
Via della Bufalotta 1281
I-00138 ROMA RM
ITALIA – ITALY
+39 06 872941
Sut i Gyrraedd