Neidio i'r cynnwys

Stopion Nhw i Helpu

Stopion Nhw i Helpu

 Ar ddiwrnod oer a gwyntog yn Alberta, Canada, roedd Bob yn gwneud rhyw 60 milltir yr awr pan rwygodd olwyn gefn ar ochr chwith ei fan. I ddechrau nid oedd Bob yn gwybod beth oedd wedi digwydd, a phenderfynodd geisio gyrru’r tair milltir arall i gyrraedd ei dŷ.

 Mewn llythyr a bostiwyd i Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa, esboniodd Bob beth ddigwyddodd nesaf. “Gwelais lond car o bobl ifanc yn gwneud fel petaen nhw’n mynd heibio, ond yn lle hynny fe wnaethon nhw roi’r ffenestr i lawr a dweud wrtho i fod y teiar wedi byrstio. Fe wnaethon ni stopio’r ceir ar ochr y ffordd a dyma nhw’n cynnig newid y teiar imi. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn siŵr a oedd olwyn sbâr gen i na jac ychwaith. Wrth imi eistedd ar ochr y ffordd yn fy nghadair olwyn, fe wnaethon nhw lusgo eu hunain o dan y fan, cael hyd i’r olwyn sbâr a’r jac, a newid yr olwyn. Roedd hi’n rhynllyd o oer a’r eira’n dechrau lluwchio. Roedden nhw yn eu dillad smart, ond fe wnaethon nhw drwsio’r broblem imi gael cychwyn am adref. Allwn i ddim bod wedi gwneud hyn ar fy mhen fy hun.

 “Hoffwn ddiolch o’r galon i’r pum Tyst ifanc a’m helpodd. Roedden nhw wrthi’n galw ar bobl yn yr ardal yn lledaenu eu neges. Mae’r bobl ifanc yma wir yn dilyn eu pregeth eu hunain. Fe wnaethon nhw fy achub i rhag sefyllfa annifyr dros ben, ac rydw i’n ddiolchgar iawn. Pwy oedd yn gwybod bod y fath angylion ifanc ar y ffordd y diwrnod hwnnw?”