Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Oeddwn I’n Ffrwydro ar Ddim”

“Oeddwn I’n Ffrwydro ar Ddim”
  • Ganwyd: 1975

  • Gwlad Enedigol: Mecsico

  • Hanes: Tymer gwyllt; carcharor

FY NGHEFNDIR

 Ces i fy ngeni yn San Juan Chancalaito, tref fechan yn nhalaith Chiapas, Mecsico. Mae fy nheulu yn perthyn i lwyth y Tsiol, grŵp ethnig o dras y Maia. Roedd gan fy rhieni 12 o blant, y pumed plentyn oeddwn i. Pan oeddwn yn blentyn, gwnaeth fy mrodyr a chwiorydd astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Yn anffodus, wnes i ddim rhoi cyngor y Beibl ar waith pan oeddwn yn iau.

 Erbyn imi gyrraedd 13 oed, oeddwn i’n cymryd cyffuriau ac yn dwyn oddi wrth eraill. Dyna’r adeg gadewais i’r cartref a mynd o un lle i’r llall. Yn 16, dechreuais i weithio ar blanhigfa mariwana. Oeddwn i wedi bod yno am ryw flwyddyn, ac un noson pan oedden ni wrthi’n cludo llwyth mawr o fariwana mewn cwch, daeth dynion o gartél cyffuriau arall yn gynnau i gyd ac ymosod arnon ni. Neidiais i’r afon i ffoi rhag y bwledi a mynd gyda’r llif nes fy mod i’n ddigon pell i ffwrdd. Wedyn, wnes i ffoi i’r Unol Daleithiau.

 Yno, wnes i barhau i ddelio mewn cyffuriau ac es i fwy o drwbl. Yn 19 oed, ces i fy arestio a fy anfon i garchar am ladrata a cheisio lladd. Yn y carchar, wnes i ymuno â gang a gwneud mwy o bethau treisgar. O ganlyniad i hynny gwnaeth yr awdurdodau fy nhrosglwyddo i garchar diogelwch uchel yn Lewisburg, Pennsylvania.

 Fan honno yng ngharchar Lewisburg, aeth fy ymddygiad o ddrwg i waeth. Gan fod gen i datŵs gang yn barod, roedd hi’n hawdd ymuno â’r un gang yn y carchar hwn. Des i’n fwy treisgar, yn mynd o un ffeit i’r llall. Ar un achlysur wnes i ymuno i gwffio yn erbyn gang arall ar fuarth y carchar. Gwnaethon ni gwffio’n ffyrnig, gan ddefnyddio batiau pêl-fas a phwysau ymarfer corff. A defnyddiodd gwarchodwyr y carchar nwy dagrau i stopio’r ymladd. Wedi hynny, ces i fy rhoi mewn uned arbennig i garcharorion peryg. Oeddwn i’n mynd yn grac, yn ffrwydro ar ddim ac yn defnyddio iaith amharchus. Roedd hi’n hawdd imi roi crasfa i bobl. A dweud y gwir, roeddwn i’n ei fwynhau. Doedd fy ymddygiad ddim yn fy mhoeni o gwbl.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Yn yr uned arbennig, roeddwn i’n gaeth i fy nghell rhan fwyaf y diwrnod, felly dechreuais i ddarllen y Beibl i basio’r amser. Hwyrach ymlaen rhoddodd gwarchodwraig gopi o’r llyfr You Can Live Forever in Paradise on Earth imi. a Wrth imi ddarllen y llawlyfr i astudio’r Beibl, wnes i gofio llawer o’r pethau oeddwn i wedi eu dysgu yn blentyn pan astudiais y Beibl gyda’r Tystion. Yna sylweddolais pa mor isel oeddwn i wedi syrthio o achos fy mhersonoliaeth dreisgar. Meddyliais am fy nheulu. Gan fod dwy o fy chwiorydd wedi dod yn Dystion Jehofa, fe wawriodd arnaf ‘Maen nhw am fyw am byth.’ Dyma fi’n gofyn imi fy hun, ‘Pam na alla’ i?’ Dyna pryd wnes i benderfyniad cadarn i newid.

 Ond, roeddwn i’n gwybod fy mod i angen help i newid. Felly, yn gyntaf, gweddïais ar Jehofa Dduw a chrefu arno i fy helpu. Wedyn, ysgrifennais at swyddfa gangen Tystion Jehofa yn yr Unol Daleithiau gan ofyn am astudiaeth Feiblaidd. Trefnodd swyddfa’r gangen i gynulleidfa gerllaw gysylltu â mi. Ar y pryd, doedd gen i ddim caniatâd i gael ymwelwyr heblaw am aelodau’r teulu, felly gwnaeth Tyst o’r gynulleidfa ddechrau postio llythyrau anogol a llenyddiaeth Feiblaidd imi. Gwnaeth hyn gryfhau fy nymuniad i newid.

 Un cam enfawr ymlaen oedd pan benderfynais i adael y gang oeddwn i wedi bod yn aelod ohono am flynyddoedd lawer. Roedd arweinydd y gang yn yr uned arbennig hefyd, felly es i ato yn ystod un o’n cyfnodau hamdden a dweud wrtho fy mod i eisiau dod yn un o Dystion Jehofa. Er mawr syndod imi, dywedodd: “Os wyt ti o ddifri, cer amdani. Dw i’n methu ymyrryd ym mhethau Duw. Ond os wyt ti jest eisiau gadael y gang, ti’n gwybod beth fydd yn digwydd.”

 Dros y ddwy flynedd nesaf, sylwodd staff y carchar ambell newid yn fy mhersonoliaeth. O ganlyniad i hynny roedden nhw’n fy nhrin yn fwy ystyrlon. Er enghraifft gwnaeth y gwarchodwyr stopio rhoi gefynnau ar fy nwylo wrth fy hebrwng o’m cell i’r ystafell ymolchi. Daeth un o’r gwarchodwyr ataf a fy annog i ddal ati i newid. Gwnaeth awdurdodau’r carchar fy nhrosglwyddo i wersyll diogelwch isaf ger y prif garchar am fy mlwyddyn olaf yn y carchar. Yn 2004, wedi imi gael fy ngharcharu am ddeng mlynedd, ces i fy rhyddhau a fy allgludo i Fecsico ar fws carchar.

 Yn fuan ar ôl cyrraedd Mecsico, ces i hyd i un o Neuaddau’r Deyrnas Tystion Jehofa. Es i i’r cyfarfod cyntaf mewn gwisg carchar—yr unig ddillad taclus oedd gen i. Er gwaethaf y ffordd oeddwn i’n edrych, ges i groeso mawr gan y Tystion. Pan welais i eu caredigrwydd, teimlais fy mod i ymhlith gwir Gristnogion. (Ioan 13:35) Yn y cyfarfod hwnnw trefnodd henuriaid y gynulleidfa imi gael astudiaeth Feiblaidd ffurfiol. Ces i fy medyddio’n un o Dystion Jehofa flwyddyn wedyn, ar 3 Medi 2005.

 Yn Ionawr 2007, dechreuais i wasanaethu fel gweinidog llawn amser, gan dreulio 70 awr y mis yn dysgu eraill am y Beibl. Yn 2011, fe wnes i raddio o’r Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl (a elwir bellach Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas). Roedd yr ysgol o gymorth mawr imi allu cyflawni fy nghyfrifoldebau yn y gynulleidfa.

Nawr mae gen i’r pleser o ddysgu eraill i fod yn heddychlon

 Yn 2013, gwnes i briodi fy annwyl wraig, Pilar. Meddai Pilar gyda mymryn o hiwmor ei bod yn ei chael hi’n anodd credu’r pethau dw i’n eu dweud wrthi am fy ngorffennol. Dydw i erioed wedi llithro yn ôl i fy ffyrdd blaenorol o fyw. Mae fy ngwraig a minnau’n credu bod y person ydw i heddiw yn tystiolaethu i’r grym sydd gan y Beibl i’n trawsffurfio.​—Rhufeiniaid 12:2.

FY MENDITHION

 Teimlaf fod geiriau Iesu yn Luc 19:10 yn berthnasol i mi. Yno fe ddywedodd: “Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i’w hachub nhw.” Bellach dydw i ddim yn teimlo fy mod i wedi colli fy ffordd. A dydw i ddim yn mynd o gwmpas yn brifo pobl chwaith. Diolch i’r Beibl, dw i’n mwynhau’r pwrpas mwyaf urddasol mewn bywyd, heddwch gydag eraill ac, yn bwysicaf oll, perthynas dda gyda fy Nghreawdwr, Jehofa.

[TROEDNODYN]

a Cafodd y llyfr hwn ei gyhoeddi gan Dystion Jehofa ond y mae bellach allan o brint. Erbyn hyn eu prif lawlyfr ar gyfer astudio’r Beibl yw Mwynhewch Fywyd am Byth!