Neidio i'r cynnwys

Llyfr Storïau o’r Beibl yn Mynd i’r Ysgol

Llyfr Storïau o’r Beibl yn Mynd i’r Ysgol

Mae’r cyfieithiad Pangasinan o’r llyfr Storïau o’r Beibl, a gafodd ei gyhoeddi yn 2012, yn helpu plant ysgol sy’n siarad yr iaith honno yn Ynysoedd y Philipinau. Mae’r llyfr yn cyd-fynd â chyfarwyddeb Adran Addysg Ynysoedd y Philipinau i ddysgu plant ysgol gynradd yn eu mamiaith.

Mae dros 100 o ieithoedd yn Ynysoedd y Philipinau, ac mae dewis iaith yr addysg wedi bod yn bwnc llosg ers tro byd. Yn 2012, dywedodd Adran Addysg Ynysoedd y Philipinau, “mae defnyddio iaith y cartref” yn helpu plant i ddysgu “yn well ac yn gyflymach.” O ganlyniad, cychwynnwyd rhaglen addysg amlieithog ym mamiaith y plant.

Un o’r ieithoedd a gafodd eu dewis oedd Pangasinan. Ond, cododd broblem. Roedd un pennaeth ysgol, yn ôl y sôn, yn cyfaddef bod prinder llyfrau ar gael yn Pangasinan ar gyfer disgyblion. Felly, roedd amseru’r Tystion Jehofa yn dda pan gyhoeddon nhw Storïau o’r Beibl yn yr iaith Pangasinan yn ystod eu cynhadledd ranbarthol ym mis Tachwedd 2012.

Cafodd tua 10,000 o gopïau eu hargraffu i’w dosbarthu yn y cynadleddau. Roedd y plant bach a’u rhieni wrth eu boddau yn derbyn llyfrau yn eu mamiaith. Dywedodd un cwpl: “Mae ein plant yn hoff iawn o’r llyfr oherwydd maen nhw’n gallu ei ddeall yn iawn.”

Yn syth ar ôl y gynhadledd, cymerodd rhai o’r Tystion gopïau o Storïau o’r Beibl i ysgol yn Ninas Dagupan. Roedd yr athrawon yno yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i lyfrau yn Pangasinan, felly roedden nhw yn hapus dros ben gyda’r llyfr. Cafodd dros 340 o lyfrau eu dosbarthu. Ar unwaith, dechreuon nhw ddefnyddio’r llyfr i ddysgu’r plant i ddarllen yn eu hiaith eu hunain.

Mae Tystion Jehofa yn falch bod y llyfr hwn yn cael ei ddefnyddio i ddysgu plant bach. Dywedodd un o gyfieithwyr y llyfr Storïau o’r Beibl: “Cydnabyddwn eisoes werth cyhoeddi llenyddiaeth ym mamiaith y bobl er mwyn cyrraedd eu calonnau. Dyna pam mae Tystion Jehofa yn gwneud gymaint o ymdrech i gyfieithu’r Beibl a llenyddiaeth am y Beibl i gannoedd o ieithoedd.”