Neidio i'r cynnwys

Rhannu’r Newyddion Da yn Ieithoedd Brodorol Iwerddon a Phrydain

Rhannu’r Newyddion Da yn Ieithoedd Brodorol Iwerddon a Phrydain

Mae Tystion Jehofa yn gwneud ymdrech fawr i gysylltu â phobl sy’n siarad ieithoedd brodorol Iwerddon a Phrydain. a Yn ogystal â’r Saesneg, mae’r ieithoedd hyn yn cynnwys yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, a’r Gymraeg.

Ym mis Medi 2012, cafodd y wefan newydd jw.org ei lansio mewn llawer iawn o wahanol ieithoedd, gan gynnwys yr Wyddeleg a’r Gymraeg, a chyda Gaeleg yr Alban yn dilyn ym mis Awst 2014. Ar ben hynny, rydyn ni’n argraffu amrywiaeth eang o wahanol gyhoeddiadau sy’n trafod y Beibl yn yr ieithoedd hyn. Beth oedd yr ymateb i’r ymdrech arbennig hon?

Fe wnaeth gweinidog dderbyn taflen sy’n trafod y Beibl yng Ngaeleg yr Alban, a’i darllen yn uchel yn syth, ac yna dechreuodd wylo. Pam roedd y gweinidog mor emosiynol? Oherwydd ei fod wedi rhyfeddu at safon uchel y cyfieithu a gofynnodd: “Pwy gyfieithodd y daflen ’ma? Mae’n ardderchog!”

O fewn mis i’r wefan gael ei lansio yng Ngaeleg yr Alban, roedd 750 o bobl wedi ymweld â jw.org yn yr iaith honno.

Gwnaeth darlithydd o Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Galway ddweud wrth un o’r Tystion nad oedd ganddo ddiddordeb mewn crefydd. Ond, er hynny, pan glywodd fod y llyfryn Y Beibl​—Beth Yw Ei Neges? ar gael yn yr Wyddeleg, gofynnodd am gopi. Roedd yn credu y dylai llenyddiaeth sy’n seiliedig ar y Beibl fod ar gael i bawb a hynny yn eu mamiaith, ac fe wnaeth ganmol Tystion Jehofa am eu gwaith o ddarparu cyhoeddiadau ar gyfer siaradwyr yr Wyddeleg.

Roedd un ddynes oedrannus wrth ei bodd ar ôl derbyn llyfryn yn yr iaith Gymraeg, a dywedodd: “A dweud y gwir, petasech chi wedi rhoi copi Saesneg imi, mae’n eitha’ tebyg y byddwn i wedi ei wrthod, ond mae hi mor braf medru darllen rhywbeth yn fy iaith fy hun.”

Ym mis Awst 2014, fe welodd jw.org gynnydd mawr o ran deunydd cyfrwng Cymraeg. Yr hyn sy’n arwyddocaol yw bod y nifer o bobl sy’n ymweld â’r wefan er mwyn darllen pethau yn y Gymraeg wedi mwy na dyblu yn ystod y mis hwnnw.

“Rydyn Ni’n Siarad yr Un Iaith”

Ar ôl i Iesu esbonio’n fanwl yr Ysgrythurau i ddau o’i ddisgyblion, dyma nhw’n dweud yn llawn cyffro: “Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro’r Ysgrythurau inni?” (Luc 24:32) Yn aml, mae esbonio gwirioneddau’r Beibl wrth bobl yn eu hiaith eu hunain yn cael effaith ddofn arnyn nhw.

Mae Emyr, sy’n dod o Gymru, yn briod ag un o Dystion Jehofa ond nid oedd byth wedi dewis addoli gyda’i wraig. Yna, fe ddaeth Emyr yn ffrindiau â Russell sy’n un o’r Tystion. Fel hyn y mae Emyr yn disgrifio sut y newidiodd ei agwedd: “Mi wnes i benderfynu astudio’r Beibl o ddifri’ pan ddaeth Russell ata’ i efo’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? b Mi wnaeth o roi copi imi a dweud, ‘Mae’r llyfr hwn yn Gymraeg. Rydyn ni am ei astudio fo efo’n gilydd, ac mi rydyn ni’n mynd i ddechrau rŵan.’” Pam roedd ffordd ddi-flewyn-ar-dafod Russell wedi apelio at Emyr? Eglurodd: “Wel, rydyn ni’n siarad yr un iaith, rydyn ni’n rhannu’r un diwylliant, ac mi rydyn ni’n deall ein gilydd.” Roedd calon Emyr “ar dân” wrth drafod y Beibl yn ei famiaith a hynny oherwydd ei fod yn deall yn syth yr hyn yr oedd yn cael ei egluro iddo.

Bydd Tystion Jehofa yn parhau i helpu pobl i ddysgu am Dduw yn eu mamiaith, yr iaith sy’n mynd yn syth i’r galon.

a Mae Prydain yma yn cyfeirio at Loegr, yr Alban, a Chymru.

b Llyfr a gyhoeddwyd gan Dystion Jehofa ar gyfer astudio’r Beibl.