Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Tystion Jehofa yn Ymwrthod yn Gwrtais â Chymryd Rhan Mewn Seremonïau Cenedlaetholgar?

Pam Mae Tystion Jehofa yn Ymwrthod yn Gwrtais â Chymryd Rhan Mewn Seremonïau Cenedlaetholgar?

 Mae Tystion Jehofa yn parchu llywodraethau a’u symbolau cenedlaethol. Rydyn ni’n derbyn y ffaith y gall eraill ddewis tyngu llw o deyrngarwch, saliwtio’r faner, neu ganu anthem genedlaethol.

 Ond, mae Tystion Jehofa yn dewis peidio â chymryd rhan yn y fath seremonïau am ein bod ni’n credu eu bod yn mynd yn erbyn dysgeidiaethau’r Beibl. Gwerthfawrogwn gael yr un parch at ein daliadau ni ag y rydyn ni’n dangos tuag at eraill sy’n gwneud penderfyniad gwahanol.

Yn yr erthygl hon

 Pa egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol?

 Dyma’r ddwy ddysgeidiaeth Feiblaidd allweddol sy’n llywio ein penderfyniad:

  •   Duw yn unig sy’n haeddu ein haddoliad. Mae’r Beibl yn dweud: “Jehofa dy Dduw y dylet ti ei addoli, ac ef yn unig y dylet ti ei wasanaethu.” (Luc 4:8) Yn aml, mae llwon o deyrngarwch ac anthemau cenedlaethol yn cynnwys geiriau sy’n addo defosiwn i wlad uwchben popeth arall. Felly, mae Tystion Jehofa yn teimlo ei bod hi’n anghywir iddyn nhw gymryd rhan yn y fath seremonïau.

     Yn yr un modd, mae Tystion Jehofa yn teimlo bod saliwtio’r faner yn gyfystyr ag addoli eilunod—rhywbeth sy’n cael ei wahardd yn y Beibl. (1 Corinthiaid 10:14) Mae rhai haneswyr yn cydnabod mai symbolau crefyddol ydy baneri cenedlaethol, mewn gwirionedd. “Mae Cenedlaetholdeb yn debyg i grefydd, a symbol ei ffydd ydy’r faner,” meddai’r hanesydd Carlton J. H. Hayes. a Ac wrth sôn am Gristnogion cynnar, dywedodd yr awdur Daniel P. Mannix: “Gwrthododd y Cristnogion . . . wneud aberthau i’r ymerawdwr [Rhufeinig]. Heddiw, fyddai hynny’n debyg i wrthod saliwtio’r faner.” b

    Er nad ydy Tystion Jehofa’n saliwtio’r faner, dydyn ni ddim chwaith yn ei fandaleiddio, ei llosgi, neu mewn unrhyw ffordd arall ei hamharchu hi nac unrhyw symbol cenedlaethol arall.

  •   O flaen Duw, mae pawb yn gyfartal. (Actau 10:34, 35) Mae’r Beibl yn dweud am Dduw: “Allan o un dyn, fe wnaeth ef bob cenedl o ddynion.” (Actau 17:26) Am y rheswm hwn, mae Tystion Jehofa yn teimlo y byddai’n anghywir i ystyried un grŵp ethnig neu genedl yn uwch nag eraill. Rydyn ni’n parchu pawb, ni waeth lle maen nhw’n byw na beth yw eu cefndir.—1 Pedr 2:17.

 Beth petai hi’n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i gymryd rhan?

 Dydy Tystion Jehofa ddim yn erbyn llywodraethau. Rydyn ni’n credu bod Duw yn caniatáu i lywodraethau bodoli fel rhan o’i “drefn.” (Rhufeiniaid 13:1-7) Rydyn ni hefyd yn credu y dylai Cristnogion ufuddhau i awdurdodau seciwlar.—Luc 20:25.

 Ond beth petai ’na wrthdaro rhwng cyfreithiau seciwlar a chyfreithiau Duw? Mewn rhai achosion, mae’n bosib gofyn i’r llywodraeth addasu’r gyfraith drwy wneud cais swyddogol. c Pan nad oes modd ei newid, mae Tystion Jehofa yn dewis yn barchus i “ufuddhau i Dduw fel rheolwr yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:29.

 Ydy Tystion Jehofa yn ceisio gwneud safiad gwleidyddol neu gymdeithasol?

 Nac ydyn. Dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd ochr mewn materion gwleidyddol na chymdeithasol. Rydyn ni’n gwrthod tyngu llwon o deyrngarwch, saliwtio’r faner, a chanu anthem genedlaethol, nid oherwydd ein bod ni’n ymgyrchwyr gwleidyddol, ond am ein bod ni’n glynu at ein daliadau Beiblaidd ynglŷn â’r seremonïau hynny.

a Essays on Nationalism, tudalennau 107-108.

b The Way of the Gladiator, tudalen 212.