Neidio i'r cynnwys

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Pasg?

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Pasg?

Syniadau anghywir

  Chwedl: Nid yw Tystion Jehofa yn Gristnogion, dyna pam nad ydyn nhw’n dathlu’r Pasg.

 Ffaith: Rydyn ni’n credu mai Iesu yw ein Gwaredwr, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau i “ganlyn yn ôl ei draed ef.”—1 Pedr 2:21; Luc 2:11.

  Chwedl: Nid ydych chi’n credu bod Iesu wedi ei atgyfodi o’r meirw.

 Ffaith: Credwn fod Iesu Grist wedi ei atgyfodi a bod ei atgyfodiad yn hanfodol i’r ffydd Gristnogol, ac rydyn ni’n pwysleisio hyn yn ein gwaith pregethu.—1 Corinthiaid 15:3, 4, 12-15.

  Chwedl: Does dim ots gennych fod eich plant ddim yn cael ymuno yn yr hwyl o ddathlu’r Pasg.

 Ffaith: Rydyn ni’n caru ein plant ac yn gwneud ein gorau glas i’w hyfforddi a’u helpu nhw i fod yn hapus.—Titus 2:4.

Pam nad yw Tystion Jehofa yn dathlu’r Pasg?

  •   Dydy dathliad y Pasg ddim wedi ei seilio ar y Beibl.

  •   Gorchmynnodd Iesu i goffáu ei farwolaeth, nid ei atgyfodiad. Rydyn ni’n coffáu ei farwolaeth yn flynyddol gan ddilyn calendr y Beibl, sydd wedi ei sylfaenu ar gylch y lleuad.—Luc 22:19, 20.

  •   Credwn fod arferion y Pasg yn ei wneud yn annerbyniol gan Dduw oherwydd bod ei wreiddiau wedi eu sefydlu mewn addoliad paganaidd. Dywed Duw mai “ef yn unig a wasanaethi,” ac mae’n gas ganddo addoliad sy’n cynnwys arferion nad yw’n ei gymeradwyo.—Luc 4:8; 1 Brenhinoedd 18:21.

 Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ddefnyddio ein doethineb a’n gallu meddyliol yn hytrach na dilyn traddodiadau dynol. Felly, ein penderfyniad ni yw peidio â dathlu’r Pasg. (Diarhebion 3:21, Y Beibl Cysegr-lân; Mathew 15:3) Pan ofynnir, esboniwn ein daliadau ynglŷn â’r Pasg, ond heb farnu’r rhai sy’n ei ddathlu, gan fod yr hawl i ddewis gan bob un.—1 Pedr 3:15.