Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Erbyn Cael eu Brechu?

Ydy Tystion Jehofa yn Erbyn Cael eu Brechu?

 Nac ydyn. Dydy Tystion Jehofa ddim yn erbyn cael eu brechu. P’un a ydy rhywun yn cael brechiad neu beidio, mae’n benderfyniad personol i bob Cristion ei wneud drosto’i hun. Mae llawer o Dystion Jehofa yn dewis cael eu brechu.

 Rydyn ni eisiau gofal meddygol o ansawdd da, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r camau mawr mae gwyddoniaeth feddygol wedi eu gwneud i leihau’r risg o salwch difrifol. Hoffwn ddiolch i weithwyr gofal iechyd am eu holl waith caled a’u dycnwch, yn enwedig ar adegau o greisis.

 Mae Tystion Jehofa yn cydweithio gyda swyddogion iechyd cyhoeddus. Er enghraifft, ers i’r pandemig COVID-19 fynd ar led, mae Tystion Jehofa wedi dal ati i gyhoeddi erthyglau mewn cannoedd o ieithoedd ar y wefan hon, yn atgoffa ac annog pobl i ufuddhau i’r canllawiau diogelwch lleol. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys y pwysigrwydd o gadw pellter cymdeithasol a dilyn cyfarwyddiadau ynglŷn ag ymgynnull yn gyhoeddus, cwarantîn, golchi dwylo, a gwisgo mygydau, yn ogystal â mesurau ymarferol eraill bydd yr awdurdodau yn gofyn amdanyn nhw neu yn eu hargymell.—Rhufeiniaid 13:1, 2.

 Ers degawdau, mae cyhoeddiadau Tystion Jehofa wedi pwysleisio’r egwyddorion canlynol:

  •   Mae penderfyniadau gofal iechyd yn fater personol.—Galatiaid 6:5.

     ”Dydy’r [cylchgrawn hwn] ddim yn argymell un math o feddyginiaeth neu therapi dros y llall nac yn cynnig cyngor meddygol chwaith. Ei nod yw cyflwyno’r ffeithiau a gadael i’r darllenwr barnu a phenderfynu drosto’i hun.”—Awake!, Chwefror 8, 1987.

     “Mae’r cwestiwn p’un a ddylech chi neu’ch plant gael eich brechu yn benderfyniad personol.”—Awake!, Awst 22, 1965.

  •   Rydyn ni’n chwilio am driniaeth feddygol am fod bywyd yn werthfawr iawn yn ein golwg.—Actau 17:28, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

     “Mi fydd y Tystion yn mynd at weithwyr meddygol proffesiynol i gael help gyda’u problemau iechyd. Maen nhw’n caru bywyd ac maen nhw eisiau gwneud beth bynnag sy’n rhesymol ac yn Ysgrythurol i fyw mor hir ag sy’n bosib.”—The Watchtower, Gorffennaf 1, 1975.

     “Mae Tystion Jehofa yn hapus i gymryd meddyginiaeth a thriniaeth feddygol. Maen nhw eisiau cadw eu hiechyd da a byw mor hir â phosib. A’r ffaith yw, fel y Cristion Luc yn y ganrif gyntaf, mae rhai o Dystion Jehofa yn ddoctoriaid. . . . Mae Tystion Jehofa yn bendant yn gwerthfawrogi gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy’n rhoi gofal meddygol. Maen nhw hefyd yn ddiolchgar pan fydd yr unigolion hynny’n helpu nhw i deimlo’n well.”—The Watchtower, Chwefror 1, 2011.