Oes Rhaid imi Ddod yn Un o Dystion Jehofa os Ydw i’n Astudio’r Beibl Gyda Nhw?
Nac oes. Pwrpas y cwrs ydy dangos beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Mae miliynau o bobl wedi ei fwynhau heb ddod yn un o Dystion Jehofa. a Rydyn ni’n deall bod ffydd yn rhywbeth personol, felly mae i fyny i chi beth rydych chi’n ei wneud â’r hyn rydych chi’n ei ddysgu.—Josua 24:15.
Ydw i’n cael defnyddio fy Meibl fy hun yn ystod yr astudiaeth?
Ydych. Rydyn ni’n mwynhau defnyddio Cyfieithiad y Byd Newydd b am ei fod yn hawdd ei ddeall. Cewch chi gopi am ddim os ydych chi eisiau un, neu mae ’na groeso ichi ddefnyddio eich Beibl eich hun. Mae neges y Beibl am obaith ac achubiaeth yn dod drosodd mewn bron pob cyfieithiad.
Pam rydych chi’n astudio â phobl sydd ddim yn ymuno â chi?
-
Yn bennaf, am ein bod ni’n caru Jehofa Dduw. Mae ef eisiau inni rannu beth rydyn ni wedi ei ddysgu ag eraill. (Mathew 22:37, 38; 28:19, 20) Rydyn ni’n teimlo ei fod yn fraint i gyd-weithio â Duw drwy helpu eraill i ddysgu beth sydd yn ei Air.—1 Corinthiaid 3:6-9.
-
Rydyn ni hefyd yn gwneud hyn am ein bod ni’n caru ein cymdogion. (Mathew 22:39) Mae rhannu pethau hyfryd rydyn ni wedi ei ddysgu yn dod â llawenydd mawr inni.—Actau 20:35.
a I roi rhyw fath o gyd-destun, yn ystod 2025 gwnaethon ni gynnal 7,603,182 o astudiaethau Beiblaidd bob mis, a llawer o’r rheini gyda mwy nag un yn bresennol. Ond eto, dim ond 304,643 o bobl cafodd eu bedyddio fel Tystion Jehofa y flwyddyn honno.
b Mae’r cyfieithiad hwn ar gael yn ei gyfanrwydd mewn llawer o ieithoedd. Mae’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ar gael yn Gymraeg.

