Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Tystion Jehofa yn Galw ar Bobl Sydd â Chrefydd yn Barod?

Pam Mae Tystion Jehofa yn Galw ar Bobl Sydd â Chrefydd yn Barod?

 Rydyn ni wedi darganfod bod pobl sydd â chrefydd yn mwynhau trafod y Beibl. Wrth gwrs, rydyn ni’n parchu hawl pobl eraill i gredu pethau gwahanol i’r hyn rydyn ni’n ei gredu, a dydyn ni ddim yn gorfodi pobl i dderbyn ein neges.

 Wrth drafod crefydd ag eraill, rydyn ni’n ceisio dilyn cyngor y Beibl i siarad ag “addfwynder” ac i ddangos ‘parch.’ (1 Pedr 3:15) Rydyn ni’n disgwyl i rai wrthod ein neges. (Mathew 10:14) Wedi dweud hynny, dydyn ni ddim yn gwybod sut y bydd pobl yn ymateb nes inni siarad â nhw. Rydyn ni hefyd yn sylweddoli bod amgylchiadau pobl yn newid.

 Er enghraifft, weithiau bydd pobl yn rhy brysur i siarad, ond ar adegau eraill fe fyddan nhw’n hapus i sgwrsio â ni. Hefyd, o bryd i’w gilydd mae pobl yn wynebu problemau neu amgylchiadau sy’n newydd iddyn nhw, ac mae hynny’n peri iddyn nhw gymryd diddordeb yn neges y Beibl. Felly rydyn ni’n ceisio siarad â phobl mwy nag unwaith.